Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Beth sydd yn y canllaw hwn? 

Mae’r ddogfen hon yn rhoi awgrymiadau ar gyfer cysoni, lle bo’n briodol, brosesau sefydliadol cyffredin a wneir gan gyrff cyhoeddus o dan y tair dyletswydd. Dyma bum proses y dyletswyddau:

  1. Gosod amcanion
  2. Ystyried cydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau
  3. Ymgysylltu, cynnwys ac ymgynghori
  4. Atebolrwydd a chraffu
  5. Olrhain ac adrodd am effaith

*Nid yw pob un o’r prosesau uchod yn ofyniad statudol o dan bob dyletswydd. 

Dyma ganllaw anstatudol sydd wedi’i gynllunio i helpu cyrff cyhoeddus â’r Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol a ddaeth i rym ar 31 Mawrth 2021. Dylai gael ei ddarllen ar y cyd â’r canllaw statudol perthnasol ar gyfer pob dyletswydd.

Ni fydd dilyn y prosesau a’r awgrymiadau yn y canllaw hwn yn golygu bod corff cyhoeddus wedi cydymffurfio’n llawn â phob dyletswydd, mae’r ddogfen hon yn canolbwyntio ar brosesau sefydliadol cyffredin ar draws y dyletswyddau.

Cymru sy’n Fwy Cyfartal

Deddf Cydraddoldeb 2010: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Wrth arfer eu swyddogaethau, rhaid i gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd, gydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol i roi sylw dyledus i’r angen i: 

  1. Dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth a mathau eraill o ymddygiad sydd wedi’u gwahardd gan y Ddeddf
  2. Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu
  3. Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu

Mae’r Ddyletswydd yn cynnwys y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil; crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Mae’r Ddyletswydd i roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu yn cynnwys priodas a phartneriaeth sifil hefyd.

Mae’r dyletswyddau penodol (Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011) yn nodi’r camau y mae’n rhaid i gyrff penodol yng Nghymru eu cymryd i ddangos eu bod yn rhoi sylw dyledus i’r ddyletswydd gyffredinol. Maen nhw’n cynnwys: gosod amcanion, cyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb strategol, ymgysylltu, cwblhau asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, defnyddio gwybodaeth am gydraddoldeb, gwybodaeth am gyflogaeth, gwahaniaethau mewn cyflog, hyfforddiant staff, caffael, cyhoeddi adroddiadau blynyddol, adroddiadau Gweinidogion Cymru, adolygu ac atebolrwydd.

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus wedi’i chynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010, gyda’r dyletswyddau penodol wedi’u pasio gan Senedd Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r Ddyletswydd yn cynnwys dros 70 o gyrff yng Nghymru.

Deddf Cydraddoldeb 2010: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol

Wrth wneud penderfyniadau strategol ynghylch sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd roi sylw dyledus i ba mor briodol yw eu harfer mewn ffordd sydd wedi cael ei chreu i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae’r ddyletswydd hon yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Mae gan Senedd Cymru bŵer deddfwriaethol i ddod â’r Ddyletswydd i rym yng Nghymru. Mae’n berthnasol i dros 35 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd roi datblygu cynaliadwy ar waith. I wneud hyn, rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gymryd camau gweithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r nod o wireddu’r weledigaeth i Gymru a nodir yn y saith nod llesiant sef: Cymru Lewyrchus; Cymru Gydnerth; Cymru Iachach; Cymru sy’n Fwy Cyfartal; Cymru o Gymunedau Cydlynus; Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu; a Chymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang. 

Mae Cymru sy’n fwy cyfartal yn cael ei diffinio fel a ganlyn: ‘Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol)’.

Mae’r Ddeddf yn cyflwyno’r ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu yn unol â hi er mwyn cyflawni eu dyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys y pum ffordd o weithio y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus eu hystyried. Sef: tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys.

O fewn y 46 dangosydd cenedlaethol sy’n mesur cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant, mae llawer o’r rhain yn mesur agweddau sy’n ymwneud â Chymru sy’n fwy cyfartal.

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yw gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn golygu helpu cyrff cyhoeddus a’r rheini sy’n llunio polisïau yng Nghymru i feddwl am effeithiau tymor hir eu penderfyniadau.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn un o ddeddfau Cymru, ac mae’n berthnasol i 44 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Gosod amcanion fel bod camau gweithredu’n canolbwyntio at leihau anghydraddoldebau yng Nghymru

Mae gosod amcanion yn nodwedd bwysig pob corff cyhoeddus. Mae’r rhain yn gosod y blaenoriaethau a fydd yn sail i’r camau gweithredu er mwyn gwella canlyniadau i bobl. Ceir ystod o dystiolaeth feintiol ac ansoddol, ar lefel genedlaethol a lleol, i gynorthwyo cyrff cyhoeddus i adnabod anghydraddoldebau a gosod amcanion i’w lleihau. Mae pwyslais ar adnabod, a lleihau, anghydraddoldebau canlyniadau yn ganolog i’r tair dyletswydd.

Beth sydd angen i gyrff ei wneud?

Dyletswydd economaidd gymdeithasol

Ystyried lleihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol. Mae hyn yn cynnwys amcanion corfforaethol, amcanion cydraddoldeb ac amcanion llesiant. Nid yw’r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i osod amcanion ychwanegol sy’n benodol i’r Ddyletswydd.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Gosod amcanion cydraddoldeb a ddylai ganolbwyntio ar ganlyniadau, canolbwyntio ar yr anghydraddoldebau mwyaf arwyddocaol a bwrw ymlaen â nodau’r ddyletswydd gyffredinol. Rhaid adolygu amcanion cydraddoldeb o leiaf bob 4 blynedd, a’u cyhoeddi gyda Chynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n nodi’r camau a gymerir.

Dyletswydd llesiant cenedlaethau’r dyfodol

Cymryd camau i weithredu datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys:

  • gosod a chyhoeddi amcanion llesiant a luniwyd i gynyddu cyfraniad y corff at gyflawni pob un o’r nodau llesiant
  • cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny

Awgrymiadau i’w hystyried

Ystyried gosod amcanion a chynlluniau gweithredu ar y cyd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a’r Ddyletswydd Llesiant sy’n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb. Gallai’r rhain ystyried nodweddion gwarchodedig ac effaith anfantais economaidd-gymdeithasol, a byddai modd eu hadlewyrchu mewn cynlluniau corfforaethol a chynlluniau blynyddol. Sefydlu’r un amserlen ar gyfer gosod amcanion cydraddoldeb ac amcanion llesiant Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus drwy adolygu amcanion o dan y gwahanol ddyletswyddau ar yr un pryd. 

Defnyddio adnoddau perthnasol, fel Fframwaith Mesur y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Cymru ac adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, A yw Cymru’n Decach? 2018 i nodi lle mae modd i gorff cyhoeddus gael yr effaith fwyaf o ran lleihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd gymdeithasol er mwyn cyfrannu at amcanion cydraddoldeb a llesiant. 

Defnyddio’r asesiadau statudol a gyhoeddwyd gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyflwr llesiant i nodi anghydraddoldebau canlyniadau sy’n bodoli yn yr ardal leol. 

Ystyried sut mae lleihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol o dan yr holl nodau llesiant, nid dim ond o dan nod ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’.

Dadansoddi tueddiadau’r dyfodol a sganio’r gorwel i osod amcanion a chamau ataliol a fydd yn meithrin cydnerthedd, mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau presennol, a cheisio osgoi cynnydd yn anghydraddoldebau canlyniadau yng nghyswllt anfantais economaidd-gymdeithasol cyn iddynt ddigwydd. Mae tueddiadau tymor hir o ran anghydraddoldeb yn arbennig o berthnasol, a dylai cyrff cyhoeddus ystyried amcanion a chamau sy’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau presennol ac anghydraddoldebau posibl yn y dyfodol.

Edrych ar ganllaw Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar osod amcanion cydraddoldeb, Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol Pennod 4, ac adran Cymru sy’n Fwy Cyfartal Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 i gael cyngor manwl ar osod amcanion.

Ystyried cydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau

Mae deall effaith gadarnhaol a niweidiol bosibl polisïau ac arferion newydd, a newidiadau i bolisïau ac arferion presennol, yn helpu cyrff cyhoeddus i wneud penderfyniadau gwell sy’n ymateb i anghenion pobl yng Nghymru. Dylid ystyried anghenion pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, a’r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol, cyn gwneud penderfyniadau, gan ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir. Nid rhywbeth un-tro yw penderfynu, mae’n broses ac felly dylid monitro ac adolygu ystyriaethau cydraddoldeb drwy gydol y broses o ddatblygu polisïau a chynlluniau.

Beth sydd angen i gyrff ei wneud?

Dyletswydd economaidd gymdeithasol

Wrth wneud penderfyniadau, fel penderfynu ar flaenoriaethau a gosod amcanion, rhaid ystyried sut gallai eu penderfyniadau helpu i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd gymdeithasol. Mae cyrff cyhoeddus perthnasol yn cael eu hannog i allu dangos tystiolaeth o drywydd archwilio clir ar gyfer pob penderfyniad a wneir o dan y Ddyletswydd.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Asesu effaith debygol polisïau ac arferion arfaethedig ar y gallu i gydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol a’r effeithiau penodol ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi adroddiadau am yr asesiadau lle maen nhw’n dangos effaith sylweddol (neu effaith debygol) ar eu gallu i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol. Mae hyn bellach yn cael ei alw’n Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA).

Dyletswydd llesiant cenedlaethau’r dyfodol

Deall sut maen nhw’n gallu gwneud y cyfraniad gorau at eu hamcanion llesiant yn eu prosesau llywodraethu, eu polisïau a’r penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud. Nid oes gofyniad penodol i gynnal asesiadau o’r effaith ar lesiant ond gall cyrff cyhoeddus ddewis gwneud hynny.

Awgrymiadau i’w hystyried

Ystyried cynnwys y broses o leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol yn yr asesiadau effaith presennol. Rhaid i hyn fod yn fwy na dim ond lliniaru’r sefyllfa rhag i’r effaith waethygu. Rhaid dangos tystiolaeth o roi ystyriaeth briodol i ofynion pob dyletswydd os defnyddir dull integredig o asesu. 

Sicrhau bod asesiadau effaith yn ddogfennau byw sy’n cael eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn deall yr effaith cyn, yn ystod ac ar ôl gweithredu.

Bydd asesu tueddiadau’r dyfodol yn helpu i nodi’r problemau, y cyfleoedd a’r heriau hirdymor sy’n creu anfantais economaidd-gymdeithasol nawr ac yn y dyfodol.

Edrych ar ganllawiau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch y Ddyletswydd i asesu effaith i gael arweiniad manwl ar asesu’r effaith ar gydraddoldeb.

Edrych yng Nghanolfan Arferion Asesu Effaith ar Gydraddoldeb yng Nghymru am adnoddau ymarferol i gefnogi’r broses o ystyried cydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau.

Edrych ar Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Teithiau i asesu’r effaith a’r camau gweithredu penodol sy’n cael eu cymryd tuag at nod ‘Cymru sy’n Fwy Cyfartal’ ac i gael syniadau ynghylch beth arall y gellid ei wneud. 

Ystyried y ffyrdd o weithio a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig ‘Integreiddio’ i ganfod sut mae camau gweithredu corff cyhoeddus yn effeithio ar ei holl amcanion, yn ogystal ag amcanion cyrff cyhoeddus eraill cyfagos a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Gall Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol helpu gyda hyn.

Ymgysylltu, cynnwys ac ymgynghori

Mae cyrff cyhoeddus sy’n gwrando ar aelodau o’u cymunedau ac yn gweithio gyda hwy, yn hanfodol er mwyn gwneud penderfyniadau da a fydd yn arwain at ganlyniadau gwell i bawb. Mae gan y gwahanol ddyletswyddau wahanol brosesau i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd, ond mae pob un ohonyn nhw’n gweithio tuag at un diben: hwyluso cyfranogiad gweithredol rhanddeiliaid mewn deialog agored a pharhaus lle mae’r rheini sy’n rhan yn amlwg wedi cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.

Beth sydd angen i gyrff ei wneud?

Dyletswydd economaidd gymdeithasol

Mae cyrff cyhoeddus yn cael eu hannog i ystyried data a thystiolaeth am yr anghydraddoldebau canlyniadau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaiddgymdeithasol. Bydd ymgysylltu’n uniongyrchol ag unigolion a chymunedau y mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio arnynt yn sail i hyn.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Cynnwys pobl yr ystyrir eu bod yn cynrychioli’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig gwahanol a’r rheini sydd â diddordeb yn y ffordd y mae awdurdod yn cyflawni ei swyddogaethau.

Dyletswydd llesiant cenedlaethau’r dyfodol

Defnyddio egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio, a chynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maen nhw’n ei gwasanaethu.

Awgrymiadau i’w hystyried

Mabwysiadu cynllun ymgysylltu ar gyfer y sefydliad cyfan sy’n rhoi golwg tymor hir ar sut bydd y sefydliad yn ymgysylltu ac yn cynnwys pobl ar draws amrywiaeth o agendâu.

Sicrhau bod ymgysylltu’n cynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a’r rheini sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol, ar draws cymunedau lle a diddordeb, ac yn ystyried rhyngblethedd. 

Mae modd defnyddio Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc i gefnogi ymgysylltiad y cyhoedd.

Nodi cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill i gynnal digwyddiadau ymgynghori ac ymgysylltu rhanbarthol sy’n cefnogi eich gwaith o dan nifer o ddyletswyddau. 

Mae modd defnyddio adnodd Taith Cynnwys Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol i wreiddio diwylliant o gynnwys dinasyddion a rhanddeiliaid mewn modd ystyrlon. 

Ystyried 5 Egwyddor Cydgynhyrchu ar gyfer dull sy’n cynnwys pobl sy’n darparu a phobl sy’n derbyn gwasanaethau i rannu pŵer a chyfrifoldeb.

Edrych ar ganllawiau ar ofynion Dyletswyddau Penodol Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus mewn perthynas ag ymgysylltu ac ymgynghori. 

Sicrhau bod adborth yn cael ei roi i randdeiliaid ynghylch sut mae eu cyfraniad wedi llywio penderfyniad, er mwyn sicrhau tryloywder a chynnal deialog barhaus.

Atebolrwydd a chraffu i wneud Cymru yn fwy cyfartal a thecach

Mae tryloywder yn hanfodol er mwyn dangos sut mae cyrff cyhoeddus yn gwneud eu gwaith a sut maen nhw’n perfformio. Mae’n hanfodol bod partïon sydd â diddordeb yn gallu cael gafael ar wybodaeth amserol a pherthnasol yn rhwydd er mwyn dal cyrff cyhoeddus i gyfrif am weithredu’r dyletswyddau ac er mwyn gwneud Cymru yn fwy cyfartal.

Beth sydd angen i gyrff ei wneud?

Dyletswydd economaidd gymdeithasol

Dangos ystyriaeth o’r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wneud penderfyniadau strategol. Gellid dangos hyn mewn adroddiadau blynyddol, cyhoeddi asesiadau effaith, ac wrth gyhoeddi papurau bwrdd, er enghraifft.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Cyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol, Cynllun Cydraddoldeb Strategol sydd wedi’i ddiweddaru, asesiad o effaith ar gydraddoldeb a dogfennau eraill i gynorthwyo atebolrwydd a chraffu. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rheoleiddio Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, ac mae’n gwneud hyn drwy annog, arwain, monitro a rheoleiddio gweithgarwch ar y Ddyletswydd.

Dyletswydd llesiant cenedlaethau’r dyfodol

Cyhoeddi datganiad llesiant. Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar y cynnydd tuag at gyflawni amcanion llesiant. Sicrhau bod y pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn craffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r Comisiynydd ac Archwilio Cymru yn asesu cynnydd tuag at gyflawni amcanion a nodau llesiant a defnydd cyrff cyhoeddus o’r egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

Awgrymiadau i’w hystyried

Sicrhau bod pwyllgorau craffu, byrddau, a phwyllgorau archwilio a risg wedi cael hyfforddiant ar ofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, Dyletswydd; Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r; Dyfodol.

Sicrhau bod y broses craffu’n canolbwyntio ar y canlyniadau i bobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig ac anfantais economaidd-gymdeithasol, nid dim ond ar y prosesau gwneud penderfyniadau mewnol sydd ar waith.

Defnyddio Fframwaith Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Craffu i sicrhau bod penderfyniadau wedi ystyried yr holl elfennau angenrheidiol mewn perthynas â’r Ddeddf. Gan gynnwys yr angen i weithio tuag at y nod ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’.

Defnyddio adnodd hunanfyfyrio Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol i ddod â chydweithwyr at ei gilydd o bob rhan o’r sefydliad ar gyfer sgyrsiau penodol ar gydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol er mwyn i bawb ddeall sut gall y corff ddatblygu amcanion sy’n cyfrannu ar draws y dyletswyddau. 

Sicrhau bod dulliau atebolrwydd a chraffu yn cynnwys rhanddeiliaid mewnol lanol. Edrych ar ganllawiau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i gael gwybodaeth fanwl am gyhoeddi gwybodaeth o dan y Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol yng Nghymru.

Olrhain ac adrodd am effaith tuag at wneud Cymru yn fwy cyfartal a thecach

Mae olrhain ac adrodd am effaith yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y camau y mae sefydliad yn eu cymryd yn arwain at y canlyniadau cywir. Dylai sefydliadau gael mesurau ansoddol a meintiol i gael darlun cyflawn o gynnydd. Mae nifer o ddangosyddion y gall cyrff cyhoeddus eu defnyddio i olrhain cynnydd tymor hir canlyniadau pobl.

Beth sydd angen i gyrff ei wneud?

Dyletswydd economaidd gymdeithasol

Nid oes gofyniad adrodd pwrpasol ynghlwm wrth y Ddyletswydd. Ond, mae cyrff cyhoeddus yn cael eu hannog i fonitro a deall effaith y Ddyletswydd gan ddefnyddio mesurau adrodd sy’n bodoli’n barod.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Llunio adroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn sy’n ymateb i ofynion y Ddyletswydd gan gynnwys y camau y mae’r awdurdod wedi’u cymryd i ganfod a chasglu gwybodaeth berthnasol a sut mae’r awdurdod wedi defnyddio’r wybodaeth hon i gyflawni tri nod y ddyletswydd gyffredinol.

Dyletswydd llesiant cenedlaethau’r dyfodol

Cyhoeddi adroddiad blynyddol yn dangos y cynnydd a wnaed o ran cyflawni eu hamcanion; rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei hadroddiad gerbron Senedd Cymru. Bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Archwilio Cymru yn llunio adroddiadau asesu cynnydd bob 5 mlynedd.

Awgrymiadau i’w hystyried

Gellid defnyddio adroddiadau blynyddol ac adroddiadau llesiant Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i ddangos sut mae’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol wedi cael effaith ar y broses o wneud penderfyniadau, ac i nodi cysylltiadau rhwng yr anfantais economaidd gymdeithasol a’r nodweddion gwarchodedig.

Manteisio ar gyfleoedd i gyhoeddi adroddiadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn gynharach na’r dyddiad cau blynyddol sef 31 Mawrth os yw hyn yn helpu gyda chylchoedd cynllunio ac adrodd eraill. 

Pennu gweledigaeth hirdymor i olrhain cynnydd o ran lleihau anghydraddoldebau canlyniadau: ystyried sut beth yw llwyddiant ymhen pump, deg, pymtheg, ugain, a phum mlynedd ar hugain, a nodi cerrig milltir a mesurau priodol gan ddefnyddio dangosyddion presennol. 

Gellir defnyddio dangosyddion fel y rhai yn fframwaith mesur cydraddoldeb a hawliau dynol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a’r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol ar gyfer Cymru i olrhain newid tymor hir yng nghanlyniadau pobl. Mae gan y fframwaith mesur cydraddoldeb a hawliau dynol adran sy’n nodi lle mae gan y ddau fframwaith ddangosyddion cyffredin. 

Gwella proses casglu data sy’n nodi ac yn gallu olrhain anghydraddoldebau canlyniadau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Gall y fframwaith mesur helpu gyda hyn. 

Edrych ar ganllaw Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar adodd blynyddol a chyhoeddi i gael canllawiau manwl mewn perthynas â Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol.

Gwybodaeth ychwanegol

Deddf Cydraddoldeb 2010

Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol

Trosolwg o’r Ddyletswydd

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus Deddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru

Canllawiau ar gyfer Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Fframwaith Mesur ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol

A yw Cymru’n decach?

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Cyflwyniad ac adnoddau defnyddiol 

Animeiddiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015)

Canllawiau Statudol

Dangosyddion Cenedlaethol Cymru

Llesiant Cymru (Adroddiad llesiant blynyddol statudol)

Deddf Hawliau Dynol 1998 a Chonfensiynau Rhyngwladol 

Bydd mynd ati i weithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn y ffordd iawn yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chyfraith hawliau dynol ryngwladol. Mae’n anghyfreithlon i gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithredu mewn ffordd sy’n mynd yn groes i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Dyma’r cytuniadau rhyngwladol sydd â hawliau economaidd a hawliau cymdeithasol ynddynt: