Bydd yr Holiadur Defnyddwyr ar agor o 9 Mai tan 17 Mehefin 2022.
Rydyn ni’n cynnal ail Holiadur Defnyddwyr i gasglu gwybodaeth am:
- ymwybyddiaeth am y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC)
- sut mae CMCC wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers ei fabwysiadu
Mater gwirfoddol yw ateb yr holiadur. Ond mae’ch barn a’ch profiadau yn bwysig:
- i gynllunio morol, ac
- i roi’r cynllun ar waith
Ymatebwch erbyn 17 Mehefin 2022.
Pam yr ydym yn monitro'r CMCC?
Yn ôl adran 61 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, mae gofyn i ni fonitro’n cynlluniau morol a pharatoi adroddiadau arnyn nhw.
Gwnaethon ni gyhoeddi Fframwaith Monitro ac Adrodd ar gyfer CMCC ym mis Ionawr 2020. Mae’r fframwaith yn disgrifio’r trywydd bras ar gyfer:
- mesur effeithiolrwydd polisïau CMCC
- deall sut mae’r cynllun yn gweithio ar lawr gwlad, a
- nodi cyfleoedd i’w wella.
Rydyn ni’n cynnal dau Holiadur Defnyddwyr o’r fath dros y cyfnod monitro 3 blynedd cyntaf. Bydd hynny’n ein helpu i ddysgu:
- tueddiadau cychwynnol defnyddio CMCC a’i ddeunydd cysylltiedig
- barn defnyddwyr ar sut mae CMCC yn cyflawni’i amcanion
Cynhaliwyd yr Holiadur cyntaf ym mis Rhagfyr 2020. Caiff canfyddiadau’r ddau Holiadur eu defnyddio i lunio’r adroddiad monitro tair blynedd.