Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir a methodoleg

Mae CMCC yn amlinellu polisïau cynllunio morol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu ardal cynllun morol Cymru yn gynaliadwy. Cafodd CMCC ei fabwysiadu a’i gyhoeddi ar 12 Tachwedd 2019.

Nod yr arolwg hwn oedd casglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth o’r CMCC yn y sector. Roedd hefyd yn ceisio casglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth a defnydd o ganllawiau ac adnoddau i gefnogi cynllunio morol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal Arolwg Defnyddwyr ychwanegol o fewn y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i gasglu tueddiadau o ran ymwybyddiaeth a defnydd o’r CMCC a’i ganllawiau ac adnoddau cynllunio morol ategol, yn ogystal â barn defnyddwyr ar sut mae’r CMCC yn perfformio o ran cyflawni ei amcanion.

Mae’r Tîm Cynllunio Morol yn Llywodraeth Cymru wedi comisiynu tîm ymchwil Dyfodol Cynaliadwy Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru i gynnal Arolwg Defnyddwyr. Bwriad yr Arolwg Defnyddwyr cychwynnol hwn, sydd wedi ei gynnal flwyddyn yn unig ers cyhoeddi’r CMCC, yw sefydlu rhywfaint o wybodaeth gyd-destunol gychwynnol i lywio monitro yn y dyfodol. Targedwyd yr Arolwg Defnyddwyr ar randdeiliaid ledled y sector morol.

Oherwydd y cyfraddau ymateb isel i’r Arolwg Defnyddwyr hwn, dylid ystyried y canfyddiadau fel arwydd o ba mor ddiweddar y cyhoeddwyd y CMCC yn hytrach na fel tystiolaeth o dueddiadau. Dylid nodi hefyd bod yr holl gwestiynau’n ddewisol, gan arwain at nifer isel iawn o ymatebion i rai cwestiynau sy’n effeithio ar ddibynadwyedd y canfyddiadau. Mae’r ymatebion i’r Arolwg Defnyddwyr wedi ein galluogi i sefydlu llinell sylfaen o ran ymwybyddiaeth a defnydd o’r CMCC i lywio gwaith monitro ac adrodd ehangach.

Prif ganfyddiadau

Ymwybyddiaeth o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru

O’r rhai a ymatebodd i’r arolwg hwn, roedd rhaniad cyfartal rhwng y rhai a ddywedodd fod ganddynt lefelau ‘Isel’ ac ‘Uchel’ o ymwybyddiaeth o’r CMCC (wyth allan o 25). Nodwyd lefel ‘ganolig’ o ymwybyddiaeth gan bron i chwarter (chwech allan o 25), a nododd tri allan o 25 ‘dim ymwybyddiaeth’.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a nododd o leiaf lefel isel o ymwybyddiaeth o ble y clywsant am y CMCC. Nododd dros hanner (12 allan o 25) iddynt glywed am y cynllun drwy e-bost mewnol yn eu gweithle. Yr ail ymateb mwyaf cyffredin oedd ‘Drwy grŵp Rhanddeiliaid Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru’ (saith allan o 25).

Defnydd o Gynllun Rheoli Morol Cenedlaethol Cymru

Pan ofynnwyd a oedd eu sefydliad wedi defnyddio’r CMCC, ymatebodd bron i dri o bob pump (13 allan o 23) bod eu sefydliad wedi gwneud defnydd ohono, o’i gymharu â chwech allan o 22 a ddywedodd nad oedd y sefydliad wedi gwneud defnydd ohono.

Pan ofynnwyd a oedd y CMCC wedi bod yn ffactor wrth ystyried nifer o amcanion mewn perthynas â rheoli morol yn effeithiol. ‘Yr angen i wneud penderfyniadau cyson, cymesur sy’n integreiddio polisi morol a daearol ac ystyried materion trawsffiniol pan fo’n briodol’ (naw allan o 22) a ‘Rheoli defnydd lluosog o ardal forol Cymru, naill ai drwy gydfodolaeth neu ddiogelu’r sector’ (naw allan o 22) oedd yr amcanion a ddenodd gytundeb neu gytundeb cryf ar ran yr ymatebwyr.

Gofynnwyd i ymatebwyr a oedd eu sefydliad wedi bod yn ymwneud â datblygu a/neu gyflwyno cynnig i broses ffurfiol o wneud penderfyniadau o fewn cwmpas y CMCC. Rhoddodd traean (chwech allan o 13) ateb cadarnhaol, ac ymatebodd 12 allan o 18 nad oedd eu sefydliad wedi ymwneud â hyn. Gofynnwyd i’r rhai a ymatebodd yn gadarnhaol ym mha gyswllt y gwnaethant hynny. Ymatebodd y mwyafrif iddo ddigwydd yn rhinwedd rôl y sefydliad fel corff cynghori, gyda nifer fach o ymatebion eraill, gan gynnwys fel rhanddeiliad ac fel ymgeisydd.

Wedi hynny, gofynnwyd i ymatebwyr pa adnoddau eraill a ddefnyddiwyd ganddynt ochr yn ochr â’r CMCC. Yr ymatebion mwyaf cyffredin i’r cwestiwn hwn oedd gwefan Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru a Chanllawiau Gweithredu’r CMCC (y ddau yn naw allan o 19).

Wedi hynny, gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi gwybod am y rhesymau dros ddefnyddio Porth Cynllunio Morol Cymru. Yr ymateb mwyaf cyffredin i hyn oedd ‘I ddod o hyd i wybodaeth a thystiolaeth ar ardal forol Cymru’ gyda thri chwarter (naw allan o 12) yr ymatebwyr yn dewis yr ymateb hwn.

Casgliadau

Roedd gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (22 allan o 25) rywfaint o ymwybyddiaeth o’r CMCC, gyda 14 allan o 25 â lefel ‘ganolig’ neu ‘uchel’ o ymwybyddiaeth. Mae hyn yn dangos bod cyfathrebu’r CMCC yn gweithio’n effeithiol.

Adroddodd bron i dair rhan o bump yr ymatebwyr (13 allan o 22) bod eu sefydliad wedi defnyddio’r CMCC. Mae hyn yn dangos bod lefel dda o ymgysylltu â’r CMCC, gyda sefydliadau’n gwneud defnydd ohono, er bod lle i wella hyn.  

Bwriadwyd yr arolwg hwn fel y cyntaf o sawl arolwg i gasglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth o’r CMCC a sut mae’n cael ei ddefnyddio. Mae’r wybodaeth hon wedi darparu llinell sylfaen. Dylai Llywodraeth Cymru gynnal arolwg pellach yn ystod y cyfnod monitro tair blynedd cyntaf hwn. Bydd hyn yn caniatáu i dueddiadau yn y defnydd o’r CMCC a’i ddeunyddiau ategol gael eu cipio. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i farn defnyddwyr ar effeithiolrwydd polisïau’r CMCC lywio gwaith monitro ac adrodd ehangach.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Isabella Malet-Lambert

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Isabella Malet-Lambert
E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 65/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-882-0

Image
GSR logo