Mae monitor yn canolbwyntio ar les pobl hŷn sy’n 50 oed neu’n hŷn yng Nghymru a’i nod yw creu darlun holistig o'u bywydau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'n cynnwys ystadegau ac ymchwil o amrywiaeth o wahanol ffynonellau ac adroddiadau ar amrywiaeth o ddangosyddion ynghylch lles.
Mae monitor wedi'i seilio ar y naw dangosydd newid sydd yn y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (2008-2013) ac 18 Egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.
Dangosyddion
- Urddas a chynhwysiant cymdeithasol.
- Annibyniaeth a lles materol.
- Cyfranogi.
- Iechyd a gofal.
- Hunangyflawniad a heneiddio'n egnïol.
Comisiynwyd dau ddarn o waith i gefnogi datblygiad y Monitor hwn: adolygiad o'r dystiolaeth ac astudiaeth o gyfweliadau ansoddol. Cynhaliwyd yr adolygiad o’r dystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd a’r astudiaeth ansoddol gan Brifysgol Glyndŵr.