Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae'r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau allweddol o adolygiad llenyddiaeth ar foeseg mewn ymchwil data gweinyddol. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar lenyddiaeth foeseg ddiweddar sy'n berthnasol i ymchwil data gweinyddol i nodi ac archwilio themâu allweddol. Fe'i cynhaliwyd i hysbysu gwaith Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru. Mae YDG Cymru yn gydweithrediad o academyddion ym mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd, swyddogion yn Llywodraeth Cymru a staff y Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) sydd wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Mae YDG Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i gynhyrchu mewnwelediadau o ymchwil seiliedig ar ddata i ddarparu tystiolaeth i gefnogi Llywodraeth Cymru.

Prif ganfyddiadau

Cefndir

Mae'n anodd diffinio moeseg data yn fanwl gywir. Mae'n ymwneud ag elfennau cymdeithasol, technegol a gweithdrefnol mentrau data ac ymchwil, gan gynnwys asesu arferion data, a'u heffeithiau cadarnhaol a negyddol.  Mae'n cynnwys cysyniadau sylfaenol fel atebolrwydd, tegwch, tryloywder, budd y cyhoedd, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymddiriedaeth.

Mae yna lu o egwyddorion, offer, canllawiau a dogfennaeth moeseg. Gall hyn fod yn ddryslyd ac yn anodd ei lywio.

Bellach mae gan ymchwilwyr fynediad at lefelau digynsail o ddata ar lefel poblogaeth, a gesglir at ddibenion gweinyddol, y gellir eu cysylltu a'u dadansoddi i greu mewnwelediadau pellgyrhaeddol am sut mae cymdeithas yn gweithredu ar wahanol lefelau.

Mae ymchwil data gweinyddol yn rhan o fframwaith cymdeithasol a thechnegol cyfoes o ddigideiddio cyflym. Mae natur seilweithiau data mawr yn ei gwneud yn anodd iawn i unigolion gadw arolygiaeth dros ymchwil.

O fewn ymchwil data gweinyddol mae rhai pryderon moesegol penodol yn cynnwys cyfyngiadau dad-adnabod data ac ymwybyddiaeth gyhoeddus isel.

Nid yw moeseg data yn bwnc statig a bydd yn parhau i esblygu wrth i fwy o sefydliadau sefydlu eu prosesau moesegol cyd-destun penodol eu hunain, ac wrth i dechnoleg a chymdeithas newid ac wrth i ymwybyddiaeth y cyhoedd gynyddu.

Atebolrwydd

Mae angen i atebolrwydd ymgorffori 'atebolrwydd cymdeithasol' fel nad yw'n gyfyngedig i brosesau goruchwylio ffurfiol ac mae'n cynnwys atebolrwydd sy'n deillio o ymgysylltu â phobl mewn cymdeithas.

Tryloywder

Mae llawer o fanteision, yn ogystal â heriau sy'n gysylltiedig â thryloywder cynyddol mewn ymchwil data gweinyddol. Nid yw'n ddigon darparu gwybodaeth yn unig, mae sut y gwneir hyn yn bwysig, drwy fynd i'r afael â phryderon pobl, annog cyfranogiad gan grwpiau amrywiol mewn cymdeithas a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd am gysyniadau data.

Budd y cyhoedd

Mae gan ymchwil data gweinyddol moesegol fudd neu les cyhoeddus sydd wedi'i ddiffinio'n glir. Fodd bynnag, gellir diffinio budd y cyhoedd mewn gwahanol ffyrdd oherwydd ei fod yn benodol i’r cyd-destun, ac mae’n derm goddrychol a hyblyg. Mae angen i ymchwilwyr a pherchnogion data gyfathrebu budd y cyhoedd mewn prosiectau ymchwil yn eang a bod yn gynhwysol mewn trafodaethau am yr hyn y mae budd y cyhoedd yn ei olygu.

Ymgysylltu â'r cyhoedd

Mae’r llenyddiaeth yn cydnabod yn gyffredinol bod angen ymgysylltu mwy â’r cyhoedd ar rannu data ac ymchwil cysylltu data. Dylai ymchwilwyr feddu ar y sgiliau i ymgysylltu a chyfathrebu ag ystod eang o bobl mewn cymdeithas trwy amrywiaeth o sianeli mewn ffordd hygyrch ac ystyrlon.

Trwydded gymdeithasol

Mae'r llenyddiaeth yn cyfeirio at drwydded gymdeithasol ar gyfer defnyddio data fel bod set o ddisgwyliadau cyhoeddus a ddeellir yn eang ynghylch sut y bydd y llywodraeth yn defnyddio data ar gyfer ymchwil, gan nad yw hyn yn glir ar hyn o bryd.

Cyfyngiadau

Mae'r canfyddiadau allweddol uchod wedi'u cymryd o'r prif adolygiad thematig o lenyddiaeth sy'n ddetholus ac yn archwiliadol ei natur. Ei nod oedd crynhoi themâu allweddol yn hytrach nag adolygu'n systematig yr holl lenyddiaeth ar y pwnc hwn. Oherwydd hynny, mae'n darparu sylfaen mewn pynciau moeseg allweddol yn hytrach nag adolygiad arbenigol neu fanwl.

Ymchwil pellach

Mae angen ymchwil pellach i ddeall sut y gallai ymchwil data gweinyddol fod yn fwy cyfranogol a chynnwys grwpiau amrywiol mewn cymdeithas, fel bod gan bobl ddigon o ddealltwriaeth i ymgysylltu â strwythurau data a phrosesau ymchwil. Gallai hyn gynnwys archwilio cysyniadau allweddol stiwardiaeth data, tegwch, cydraddoldeb a chynhwysiant.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Yates, E

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Emma Yates
Caffael a Chysylltu Data ar gyfer Ymchwil
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ADRWales@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 30/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-528-6

GSR logo