Neidio i'r prif gynnwy

Bydd angen trwydded arnoch chi, a bydd rhaid ichi fodloni safonau penodol os ydych chi'n trapio rhai rhywogaethau o famal.

Mae'r safonau'n cael eu nodi yn y Cytundeb ar Safonau Trapio heb Greulondeb Rhyngwladol (AIHTS). Rhaid ichi ddefnyddio trap sy'n bodloni'r safonau hyn os ydych yn trapio'r rhywogaethau mamal canlynol:

  • moch daear
  • afancod
  • dyfrgwn
  • belaod

Rhaid i'r trap fod yn addas i'w ddefnyddio yng Nghymru a bod yn:

  • wneuthuriad neu fodel ardystiedig; neu
  • ddyluniad cymeradwy

Trapiau ardystiedig

Mae'r trapiau dal yn fyw canlynol wedi'u hardystio ac yn addas i'w defnyddio yng Nghymru:

Moch daear:

  • Trap mamaliaid mawr Albi Traps ALBI 017M
  • Trap cawell moch daear Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Trap cawell moch daear Llywodraeth Cymru

Afancod:

  • Trap afancod Bafaraidd Derek Gow
  • Trap afancod Comstock
  • Trap dal afancod yn fyw Breathe Easy
  • Trap dal afancod yn fyw EZee
  • Trap dal afancod yn fyw Hancock
  • Trap dal afancod yn fyw Koro

Belaod:

  • Trap dal yn fyw Tomahawk model 205
  • Trap dal yn fyw Tomahawk model 206NC

Mae hefyd angen trwydded arnoch chi i drapio unrhyw rai o'r rhywogaethau hyn. Am ragor o wybodaeth, neu i wneud cais am drwydded, ewch i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Tîm Trwyddedau Rhywogaethau:

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.