Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r ystadegau perfformiad GIG diweddaraf
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Rydym yn falch fod pethau’n dal i wella o ran lleihau’r amseroedd aros hiraf am driniaeth, ac yn diolch i staff y Gwasnaeth Iechyd am eu gwaith caled mewn mis arall prysurach nag arfer i’r adrannau brys.
“Aeth mwy o bobl i adrannau brys Cymru nac mewn unrhyw fis Mawrth arall sydd wedi’i gofnodi. Cafodd 70,000 o bobl eu gweld, eu trin a’u derbyn neu eu rhyddhau mewn llai na phedair awr – y nifer uchaf ym mis Mawrth ers 2014.
“Roedd y perfformiad wedi gwella mewn 11 o’r 13 adran frys, gyda gwelliant cenedlaethol o dri phwynt canran yn erbyn y targed pedair awr, o’i gymharu â mis Mawrth y llynedd.
“Er hynny, mae’r perfformiad yn dal i fod yn destun pryder mewn nifer o safleoedd ac rydym yn gweithio gyda’r byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol i sichrau gwelliannau.
“Roedd yn galonogol gweld gwelliant amlwg o ran nifer y bobl fu’n aros yn hirach na’r amser targed ar gyfer profion diagnostig a gwasanaethau therapi – erbyn hyn mae’r arosiadau o fwy na 14 wythnos am therapi yn is nag y buont ers naw mlynedd.
“Gwelwyd gwelliant o 1.3 pwynt canran yn y ffigurau ar gyfer atgyfeirio pobl am driniaeth, o ran y rhai fu’n aros llai na 26 wythnos, a bu gostyngiad amlwg yn nifer y bobl fu’n aros mwy na 36 wythnos (30%) o’i gymharu â’r un amser y llynedd.
“Bu gwelliant hefyd ym mherfformiad y gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc (CAMHS). Rydym yn disgwyl gweld cynnydd pellach fis nesaf o ran lleihau’r amseroedd aros.
“Unwaith eto, roedd yr amser ymateb ar gyfer ambiwlansys brys yn dal yn uwch na’r targed cenedlaethol, a gwelwyd gwelliant wrth ymateb i ddigwyddiadau coch ac oren o’i gymharu â mis Mawrth 2018.
“Rydym yn cydnabod bod mwy o waith i’w wneud, ac yn gweithio gyda’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau iechyd i gyflawni hyn. Ond yr hyn sydd i’w gyfri am y gwelliannau rydym yn eu gweld yw gwaith caled staff GIG Cymru a’n buddsoddiad ychwanegol ni yn y gwasanaeth iechyd.”