Mae'r cynigion, sy'n destun ymgynghoriad tan 29 Medi, yn rhan o Bapur Gwyn.
Mae'r cynigion, sy'n destun ymgynghoriad tan 29 Medi, yn rhan o Bapur Gwyn, Gwasanaethau sy'n Addas i’r Dyfodol, Ansawdd a Llywodraethiant ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru.
Lluniwyd y Papur Gwyn i gefnogi ac annog ffyrdd mwy integredig o weithio a phroses well o wneud penderfyniadau, gan roi lles pobl wrth wraidd y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau.
Mae'r cynigion yn cynnwys safonau cyffredin a ffyrdd o ddelio â chwynion ar y cyd; proses well o wneud penderfyniadau ar draws y byrddau iechyd gan gynnwys Dyletswydd Ansawdd newydd ar gyfer Poblogaeth Cymru a phroses gliriach ar gyfer newid gwasanaethau; yn ogystal â hyrwyddo ymhellach ddiwylliant o fod yn agored yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol drwy Ddyletswydd Gonestrwydd newydd.
Mae hefyd gynigion ar gyfer cryfhau byrddau sefydliadau'r GIG a'r ffordd y mae'r cyhoedd yn cael eu cynnwys ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar gyfer rheoleiddio ac arolygu.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Bydd ein cynigion blaengar ac arloesol yn sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn addas i'r dyfodol.
“Mae'r Papur Gwyn yn edrych ar nifer o agweddau allweddol y system iechyd a gofal ac yn awgrymu rhai newidiadau a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy sicrhau bod pobl wrth galon gwasanaethau. Bydd hefyd yn galluogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i weithio gyda'i gilydd ac ar draws ffiniau i sicrhau eu bod yn darparu'r gofal gorau posibl i bobl Cymru.
"Gyda'r ymgynghoriad yn dod i ben ymhen mis, rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddweud eu dweud ar ein Papur Gwyn cyn iddi fod yn rhy hwyr."