Wrth i filiau'r dreth gyngor gyrraedd tai ledled Cymru, gallai miloedd o aelwydydd fod yn colli cyfleoedd i fanteisio ar ostyngiadau y maen nhw'n gymwys i'w cael.
Heddiw, roedd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn annog pobl i gadarnhau eu bod yn ymwybodol o'r holl ddisgowntiau a gostyngiadau y gallent fod yn gymwys i'w cael.
Efallai eich bod yn gymwys i dalu llai o dreth gyngor:
- Os ydych yn credu eich bod yn byw ar incwm isel.
- Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, neu gyda phobl neu plant nad ydynt yn talu treth cyngor
- os ydych chi'n fyfyriwr
- os ydych yn anabl
- os oes gennych nam meddyliol
- os yw eich eiddo yn wag.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth ac Age Cymru, i sicrhau bod pobl yn fwy ymwybodol o’r holl gymorth sydd ar gael i’w helpu i dalu’r dreth gyngor. Bydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth newydd yn cael ei lansio, ac mae modd i chi ganfod a ydych chi’n gymwys i gael disgownt yn rhwydd drwy holiadur gwirio ar-lein. Bydd nodiadau sy’n atgoffa am y cymorth sydd ar gael hefyd yn cael eu hanfon i aelwydydd.
Dywedodd yr Athro Drakeford,
"Rydyn ni'n gwybod bod miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn colli cyfleoedd i fanteisio ar gefnogaeth y gallan nhw fod yn gymwys i'w gael o ran eu treth gyngor. Mae llawer o ddisgowntiau, gostyngiadau ac esemptiadau ar gael ac mae rhestr o'r rhain i gyd ar gael ar ein gwefan newydd. Gallai rhoi ychydig funudau o'ch amser arwain at arbedion sylweddol i'ch taliadau."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies,
"Mae sicrhau bod y dreth gyngor yn decach yn rhan hanfodol o'n cynlluniau i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.
Rydyn ni wedi gweithio'n galed i sicrhau bod aelwydydd agored i niwed yng Nghymru yn parhau i gael cymorth gyda’r dreth gyngor fel rhan o’n Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor cenedlaethol. Er hyn, nid yw llawer o aelwydydd yn ymwybodol y gallan nhw fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, neu'n gymwys i gael disgowntiau neu esemptiadau eraill. Byddwn yn annog pawb i edrych ar y wefan i weld a allan nhw fod yn talu llai o dreth gyngor."
Mae rhestr lawn o'r meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: llyw.cymru/cymorthtrethgyngor