Neidio i'r prif gynnwy

Mae miloedd o bobl ar incwm isel ledled Cymru wedi sicrhau £170m yn ychwanegol trwy hawlio budd-daliadau nad oeddent yn gwybod bod ganddynt yr hawl i'w cael, diolch i wasanaethau cyngor am ddim gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r llinell gymorth ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ yn cysylltu pobl â chynghorwyr cyfeillgar sy'n eu helpu i ymdrin â'r system fudd-daliadau ddryslyd mewn ffordd syml. I lawer sy'n defnyddio'r gwasanaeth, hwn yw'r tro cyntaf iddynt geisio hawlio budd-daliadau, yn deuluoedd sy'n gweithio, rhieni newydd a phensiynwyr. Mae llawer yn synnu o gael gwybod eu bod yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Mae tua £2bn mewn budd-daliadau yn aros heb eu hawlio yng Nghymru bob blwyddyn; mae'r Gronfa Gynghori Sengl a gwasanaethau ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’  wedi helpu 361,000 o bobl i ddelio â'u problemau lles cymdeithasol ac i hawlio £170m o fudd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt, a dileu £49.1m o ddyledion rhwng Ionawr 2020 a Rhagfyr 2024. 

Mae galw cynyddol wedi bod am y gwasanaethau, ac mae cynghorwyr wedi ymdrin â dros 6,500 o alwadau yn ystod y chwe mis diwethaf yn unig - gan ddangos pa mor werthfawr yw'r gwasanaeth i bobl.

Mae Colette Smith, Gweithiwr Prosiect Cyngor ar Bopeth yn Rhondda Cynon Taf, wedi helpu cannoedd o'r rhai sy'n galw i ddefnyddio'r system fudd-daliadau. Dywedodd: 

Rwy'n siarad â phobl sydd mewn trafferth mawr bob dydd. Does ganddyn nhw ddim syniad bod ganddyn nhw hawl i gefnogaeth ychwanegol. Yn ddiweddar, cefais alwad gan berson a oedd yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd. Ar yr alwad, dywedais ei fod yn gallu hawlio Credydau Pensiwn sy'n golygu bod ganddo hawl i Fudd-dal Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Rhoddwyd cymorth i'r cleient i wneud yr hawliadau ac roedden nhw'n teimlo'n llawer gwell ac yn gallu gweld golau ym mhen draw'r twnnel.

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol: 

Mae gwerth biliynau o fudd-daliadau yn aros i gael eu hawlio bob blwyddyn, felly mae'n amlwg bod yna ormod o bobl sydd ddim yn ymwybodol o'r ffaith eu bod yn gymwys i gael cymorth. Pan fydd rhywun yn llwyddo i hawlio credyd pensiwn, lwfans gofalwr neu fudd-daliadau eraill y mae ganddynt hawl iddynt, gall olygu'r gwahaniaeth rhwng brwydro dyddiol a sefydlogrwydd. Mae hynny yn helpu i leihau straen a gwella eu lles.

Mae'r gwasanaeth yn darparu cyngor cyfeillgar, proffesiynol a chyfrinachol a gallai wneud gwahaniaeth sylweddol i lif arian eich cartref. Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n gymwys i gael cefnogaeth, rwy'n eich annog i wneud yr alwad ffôn honno a gweld pa help allai fod ar gael i chi.

Gall unrhyw un sydd eisiau cyngor cyfrinachol yn rhad ac ddim ffonio llinell gymorth ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ Advicelink Cymru ar 0808 250 5700 rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Croesewir galwadau yn Gymraeg neu Saesneg, ac mae cymorth ar gael i'r rhai nad ydynt yn gallu clywed neu siarad ar y ffôn drwy wasanaeth Relay UK.