Heddiw [14 Hydref] mae £157.8m wedi'i dalu i dros 15,500 o fusnesau fferm yng Nghymru wrth wneud blaendaliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) 2024.
Derbyniodd mwy na 96% o hawlwyr flaendaliad y BPS ar 14 Hydref, sy'n werth tua 70% o'u gwerth hawlio amcangyfrifedig
Mae Taliadau Gwledig Cymru (RPW) yn parhau i wneud blaendaliadau y tu hwnt i'r dyddiad hwn, wrth i hawliadau BPS unigol ddod yn gymwys am flaendal. Bydd gweddill taliadau BPS 2024 yn cael eu gwneud yn llawn o 12 Rhagfyr, yn amodol ar ddilysu yr hawliad BPS yn llawn.
Disgwylir i bob hawliad BPS heblaw am y rhai mwyaf cymhleth gael eu dilysu'n llawn, a thaliadau gael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2025.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
Dwi'n falch fod miloedd o ffermydd ledled Cymru bellach wedi cael taliadau BPS ymlaen llaw ar gyfer 2024. Dwi'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i fusnesau a theuluoedd ffermio ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd Taliadau Gwledig yn gweithio'n galed i sicrhau fod y taliadau llawn a’r taliadau sy'n weddill yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl unwaith y bydd y cyfnod talu yn agor ym mis Rhagfyr.