Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant, fod dros 3,300 o blant wedi elwa ar gynnig gofal plant arloesol Llywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed, sy'n gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r 30 awr yn cynnwys y lleiafswm presennol o 10 awr o addysg y Cyfnod Sylfaen ynghyd â hyd at 20 awr o ofal plant â darparwr cofrestredig.

Ar hyn o'r bryd mae'r cynnig yn cael ei gyflwyno o dipyn i beth ledled Cymru, ac mae ar gael mewn o leiaf rhai ardaloedd yn hanner y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd ar gael ledled y wlad erbyn 2020.

Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynnig:

  • Mae 3,395 o blant wedi derbyn lleoedd mewn lleoliadau sy'n cynnig y cynllun gofal plant;
  • Mae dros 574 o ddarparwyr yn cymryd rhan yn y cynnig.
Yn ystod ymweliad â meithrinfa ddydd Buds to Blossoms yng Nglynebwy, cadarnhaodd y Gweinidog hefyd ei fod yn cyflymu'r broses o ehangu’r cynllun dros y misoedd nesaf ac ymlaen i 2019, yn sgil trafodaethau cadarnhaol gydag awdurdodau lleol a gwaith modelu cadarn ac ar ôl gwrando ar rieni a oedd yn dymuno i'r cynnig gael ei gyflwyno'n gynt.

Ers cyflwyno'r cynnig gofal plant yn y feithrinfa, mae nifer y gweithwyr gofal plant a gyflogir yno wedi cynyddu o 8 i 26 - wedi'u rhannu dros ddau safle.

Erbyn dechrau 2019, bydd pob awdurdod lleol yn y Gogledd yn darparu'r cynnig i rieni sy'n gymwys. Mae Bro Morgannwg, Sir Gâr, Sir Benfro, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Fynwy, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn bwriadu darparu'r cynnig ar draws eu hawdurdodau lleol yn ystod 2019.

Mae Blaenau Gwent, Torfaen, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Cheredigion eisoes yn darparu'r cynnig i rieni sy'n gymwys ledled eu hardaloedd. Bydd Casnewydd yn cyflwyno'r cynnig ar draws yr awdurdod cyfan o fis Hydref ymlaen a bydd Caerdydd yn dechrau ar y gwaith unwaith y bydd y systemau TG i gyd wedi'u profi ac yn gweithio.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

"Ers dechrau ar fy swydd fel y Gweinidog dros Blant ym mis Tachwedd 2017, rydw i wedi gweld y croeso y mae ein cynnig arloesol wedi'i gael gan deuluoedd ar hyd a lled y wlad.

"Rydw i wrth fy modd bod cynifer o blant a'u teuluoedd wedi elwa ar y cynnig gofal plant yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae'n galluogi rhieni i ddechrau gweithio neu i ddychwelyd i'r gwaith - sydd nid yn unig yn llesol i economi Cymru ond hefyd yn lleihau'r straen ar incwm teuluoedd.

"Ac nid dyna ddiwedd y gân - mae ein cynnig yn helpu i greu swyddi gofal plant o ansawdd uchel mewn cymunedau ledled Cymru, gan gyflawni addewid Llywodraeth Cymru i greu gwell swyddi, yn nes at gartrefi pobl."