Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud ei bod am i Gymru gael ei hystyried fel y lle gorau i ymarfer meddygaeth filfeddygol.
Wrth siarad yng nghinio Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA) yng Nghaerdydd, diolchodd y Gweinidog i filfeddygon ledled Cymru am eu gwaith caled yn sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid.
Hwn hefyd oedd y cinio BVA cyntaf i Dr Richard Irvine ei fynychu fel Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.
Yn ei haraith, pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd y berthynas rhwng milfeddygon a pherchnogion anifeiliaid wrth sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid.
Mae gan Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Llywodraeth Cymru egwyddor allweddol, sef “mae atal yn well na gwella”, gyda’r dull Un Iechyd wrth ei wraidd.
Mae nod y Fframwaith o sicrhau bod gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da yn cael ei nodi yng Nghynllun Lles Anifeiliaid Cymru, sy’n gosod y blaenoriaethau ar gyfer sicrhau safonau lles uchel ar gyfer anifeiliaid.
Siaradodd y Gweinidog am fygythiad Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud i’w reoli gan filfeddygon fferm yng Nghymru. Bu hefyd yn trafod pryderon am ymosodiadau cŵn ar bobl a da byw gyda pherchnogaeth gyfrifol yn allweddol wrth fynd i’r afael â’r mater.
Diolchodd y Gweinidog i filfeddygon am eu hymdrechion i ddileu TB buchol a ffliw adar o Gymru.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Er mai gwlad fach yw Cymru, mae gennym ddisgwyliadau uchel a phellgyrhaeddol, a’r angerdd a’r ysfa i gyflawni.
Mae milfeddygon ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych o ran sicrhau iechyd a lles anifeiliaid o safon uchel.
Wrth edrych i’r dyfodol, rwyf am i Gymru gael ei hystyried fel y lle gorau i ymarfer meddygaeth filfeddygol. Mae’n lle gwych i fyw ac i weithio.
Mae ein nodau ar gyfer safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru yn uchelgeisiol, er budd anifeiliaid a’r gymdeithas ehangach. I wneud hyn, mae angen i filfeddygon barhau i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u harbenigedd, ac i barhau i weithio’n agos gyda ni.
Hoffwn ddiolch i’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru a’r BVA am yr hyn maent yn ei wneud ar ran anifeiliaid a’u ceidwaid.Mae iechyd a lles anifeiliaid o safon uchel yn nod cyffredin rydyn ni i gyd yn ei rannu. Mae cydweithio gwych yn digwydd yng Nghymru ac wrth weithio gyda’n gilydd, rydym yn gryfach.