Mae cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn helpu’n sector bwyd a ffermio i baratoi ar gyfer “Brexit heb gytundeb” drwy helpu i dalu am yr hyfforddiant.
Os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, bydd gofyn cael Tystysgrifau Iechyd Allforio er mwyn allforio cynnyrch sy'n dod o anifeiliaid o Gymru i'r UE.
Bydd hynny'n golygu y bydd angen llawer mwy o allu a chapasiti i roi Tystysgrifau o'r fath.
Cyhoeddwyd fis Medi diwethaf y byddai £96,000 ar gael o Gronfa Bontio'r UE, sy'n werth cyfanswm o £50 miliwn, i helpu i ddiwallu'r angen am Dystysgrifau Iechyd Allforio, ac mae'n enghraifft o sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu'r sector i baratoi ar gyfer Brexit.
Mae'n rhaid i filfeddygon sy'n rhoi'r Tystysgrifau hyn gael hyfforddiant penodol a chael eu hawdurdodi i wneud hynny. Fel arfer, y milfeddyg sy'n talu am y cwrs, ond mae hynny'n gallu bod yn faen tramgwydd. O'r herwydd, lansiwyd cynllun ar 22 Ionawr i helpu o leiaf 80 o filfeddygon o bob cwr o Gymru i gael yr hyfforddiant ychwanegol y mae ei angen arnynt, a disgwylir i ragor fynd ati i wneud hynny cyn i'r hyfforddiant ddod i ben ddiwedd mis Chwefror.
Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae'n gwneud hynny ar y cyd â'r Partneriaid Cyflawni Milfeddygol, Iechyd Da a Menter a Busnes.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
“Dwi'n falch ein bod wedi gallu helpu'r sector milfeddygol drwy Gronfa Bontio'r UE. Mae milfeddygon wedi dechrau cael hyfforddiant ychwanegol eisoes ar Dystysgrifau Iechyd Allforio ac mae'r cyllid hwn yn helpu i fynd i'r afael â'r risg sylweddol i allforio cynnyrch anifeiliaid o Gymru ar ôl Brexit.
“Mae hon yn un enghraifft arall o sut rydyn ni, fel Llywodraeth, yn helpu'n diwydiannau i baratoi ar gyfer Brexit a'r heriau sydd o'n blaenau.
“Mae yn bosibl – os na fydd yr opsiwn i adael heb gytundeb yn dal ar y bwrdd – na fydd angen y capasiti ychwanegol hwn, ond rhaid inni fod yn barod ar gyfer unrhyw bosibiliadau. Ni fyddai'r hyfforddiant yn cael ei wastraffu p'un bynnag, oherwydd bod y sgiliau hyn yn rhai trosglwyddadwy ac y bydden nhw'n cryfhau'r rôl bwysig sydd gan y proffesiwn milfeddygol yng Nghymru o ran ardystio."
Dywedodd y milfeddyg a chynrychiolydd Iechyd Da, Ifan Lloyd:
“Mae'r pecyn cymorth hwn gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i filfeddygon yng Nghymru ddilyn hyfforddiant ychwanegol i ennill y cymwysterau y mae eu hangen arnyn nhw i ardystio bod cynnyrch anifeiliaid yn addas i'w allforio.
“Mae hon yn fenter allweddol er mwyn sicrhau bod y proffesiwn milfeddygol yng Nghymru yn barod ar gyfer Brexit heb gytundeb, a'i bod yn hawdd i allforwyr gael gafael ar filfeddygon cymwysedig a fydd yn gallu diwallu eu hanghenion ardystio.”
Ychwanegodd Lesley Griffiths:
"Rydym wedi dweud yn glir o'r dechrau nad yw Brexit heb gytundeb yn opsiwn i ddiwydiant bwyd Cymru. Gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd dan yr amgylchiadau hynny chwalu economïau’n llwyr, a rhaid osgoi hynny ar bob cyfrif. Bydden ni’n ffafrio Brexit 'mwy meddal' – un a fyddai'n caniatáu inni aros yn yr undeb tollau a marchnad sengl.
“Heb unrhyw syniadau newydd, a'r llinellau coch yn dal yn dynn yn eu lle, yr unig beth mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yw gadael i'r cloc dician, gan obeithio'n ofer y bydd ei chytundeb hi'n cael ei basio. Rhaid iddi gymryd camau pendant 'nawr a pharchu'r mwyafrif yn Senedd y DU o blaid ymwrthod â'r posibilrwydd o adael heb gytundeb.”