Mae prosiect peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi cychwyn i dreialu ac asesu sut y gall mwy o gydweithio rhwng ffermwyr a milfeddygon wella iechyd anifeiliaid a gwneud ffermydd yn fwy cynhyrchiol.
Bydd y prosiect yn profi un o brif elfennau arfaethedig y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid.
Fel rhan o'r prosiect, bydd grŵp bach o filfeddygon anifeiliaid fferm yn cynnal ymweliadau rheolaidd i ddarparu meddyginiaeth ataliol i wella iechyd a chynhyrchiant da byw ar ffermydd.
Bydd diwrnod sefydlu ar gyfer y garfan gyntaf o filfeddygon i gyflwyno'r peilot yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Bydd pob milfeddyg yn gweithio'n agos gyda nifer bach o ffermydd i nodi ardaloedd lle gellir gwella perfformiad da byw, a chytuno ar gamau gweithredu. Bydd y camau hyn yn cael eu hadolygu i weld lle y gellir gweld gwelliannau.
Mae dau ar hugain o filfeddygon wedi ymuno â'r peilot gyda phob un yn gobeithio recriwtio tair fferm yn y prosiect.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig yn ein galluogi i ddylunio cymorth i ffermwyr a all wneud gwahaniaeth go iawn. Gall gweithio'n agosach gyda milfeddygon wella iechyd anifeiliaid drwy gymryd camau ataliol a fydd, yn ogystal â gwella lles anifeiliaid, yn gwneud eich fferm yn fwy cynhyrchiol. Bydd canlyniadau'r prosiect peilot hwn yn werthfawr iawn wrth inni symud tuag at y cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2025."
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine:
"Rwy'n falch iawn o weld bod y peilot hwn bellach ar waith. Mae hwn yn brosiect cyffrous ym maes meddygaeth filfeddygol da byw. Mae milfeddygon wedi cyfrannu at siâp y prosiect sy'n cynnig wir botensial i wella iechyd a lles anifeiliaid. Mae gan y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid hefyd y potensial i hyrwyddo cynaliadwyedd y sector da byw drwy annog partneriaeth rhwng milfeddygon lleol a ffermwyr i leihau eu hôl troed carbon ac i ddatblygu ymhellach eu gwaith o ran ymwrthedd i wrthfiotigau."
Cynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru (WLBP) sy’n rheoli’r prosiect ac mae'n cynnwys tîm prosiect gyda nifer o filfeddygon a gwyddonwyr ag arbenigedd eang ym maes iechyd anifeiliaid.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Prosiect Don Thomas o WLBP:
"Rydym yn falch iawn o fod yn cyflawni'r prosiect hanfodol hwn, a fydd yn helpu ffermwyr yng Nghymru i ysgogi iechyd, lles a chynhyrchiant anifeiliaid ar eu ffermydd. Bydd y prosiect peilot yn sicrhau bod modd cyflawni cynllun y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid a'i ehangu i'w gyflwyno'n genedlaethol o 2025 ymlaen gan gyflawni'r buddion disgwyliedig."
Bydd gwersi o'r prosiect peilot yn cael eu casglu i lywio hyfforddiant a fydd ar gael i bob milfeddyg da byw yng Nghymru.