Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddefnyddio cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mwy am gyfieithu ar y pryd

Mae cyfieithu ar y pryd yn caniatáu i gyfieithwyr dynol gyfieithu'r hyn y mae'r siaradwr yn ei ddweud i iaith arall heb amharu ar y siaradwr.

Bydd hyn yn caniatáu cyfarfodydd mwy cynhwysol, lle gall cyfranogwyr sydd ddim o reidrwydd yn siarad yr un iaith gydweithio. Yn ein hachos ni yn Llywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio mwy o Gymraeg yn ein cyfarfodydd.

Sut i ddefnyddio cyfieithu ar y pryd

Mae'r fideo yn esbonio sut i: 

  • drefnu eich cyfieithydd dynol 
  • drefnu cyfieithu ar y pryd dynol ar Teams 
  • ddynodi cyfieithydd dynol yn ystod cyfarfod, os oes angen 
  • ddewis iaith wrth ymuno â chyfarfod 

Canllawiau a thempledi ar gyfer mynychwyr

Help ychwanegol

Edrychwch yn adran cwestiynau cyffredin Microsoft Support. Neu, cysylltwch â ni Cymraeg2050@llyw.cymru