Mick Antoniw AS Y Cwnsler Cyffredinol
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r y Cwnsler Cyffredinol
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Rhoi cyngor cyfreithiol i’r Llywodraeth
- Goruchwylio gwaith yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
- Bil Diwygio'r Senedd
- Polisi a deddfwriaeth etholiadau
- Tribiwnlysoedd Cymru
- Datblygu polisïau Cyfiawnder a Phrawf Ieuenctid
- Cyflawni'r Rhaglen Ddeddfwriaethol
- Goruchwylio erlyniadau ar ran Llywodraeth Cymru
- Goruchwylio cynrychioliaeth Llywodraeth Cymru yn y llysoedd
- Ystyried a oes angen i Filiau a basiwyd gan y Senedd gael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys er mwyn penderfynu a ydynt o fewn cymhwysedd y Senedd (gwneir hyn yn annibynnol ar y Llywodraeth)
- Cyflawni swyddogaethau eraill er budd y cyhoedd gan gynnwys, pan fo’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei bod yn briodol, cychwyn, amddiffyn neu ymddangos mewn unrhyw achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru (gwneir hyn yn annibynnol ar y llywodraeth)
- Cydlynu â'r Sector Cyfreithiol a Chyngor Cyfraith Cymru
- Hygyrchedd cyfraith Cymru
Bywgraffiad
Cafodd Mick Antoniw ei addysg yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd. Gweithiodd fel cyfreithiwr cyn cael ei ethol i'r Senedd yn 2011.
Rhwng mis Mehefin 2016 a mis Tachwedd 2017 gwasanaethodd Mick fel Cwnsler Cyffredinol. Ar 13 Mai 2021 penodwyd Mick yn Gwnsler Cyffredinol ac yn Weinidog y Cyfansoddiad, ac ar 21 Mawrth 2024 cafodd ei ailbenodi i'r rôl.