Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, rhoddodd Michael Sheen, actor a llysgennad UNICEF y Deyrnas Unedig, yr anerchiad agoriadol yng Nghynhadledd Atal Caethwasiaeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rhoddodd Michael Sheen, actor a llysgennad UNICEF y Deyrnas Unedig, yr anerchiad agoriadol yng Nghynhadledd Atal Caethwasiaeth Cymru.

Siaradodd Sheen am rôl y gymdeithas a'r Llywodraeth yn hyrwyddo'r gwaith o amddiffyn plant sy'n ffoaduriaid a'r rheini sy'n cael eu masnachu. Erbyn hyn, mae 28 miliwn o blant sy'n ffoaduriaid yn ffoi rhag sefyllfaoedd o wrthdaro er mwyn bod yn ddiogel a chael eu hamddiffyn. Ond, oherwydd eu bod mor agored i niwed, hanes nifer ohonynt yw bod eraill yn camfanteisio arnynt. Gwnaeth Sheen ganmol Llywodraeth Cymru am ei hymdrechion hyd yma ar fynd i'r afael ag achosion o fasnachu pobl. Ond pwysleisiodd fod argyfwng y ffoaduriaid, un na welwyd ei debyg o'r blaen, yn golygu ein bod yn wynebu her fwyaf ein hoes, o ran cadw plant sy'n agored i niwed yn ddiogel. 

Trefnwyd y gynhadledd gan Stephen Chapman, Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Llywodraeth Cymru, ac fe gafodd ei chynnal fel rhan o Wythnos Atal Caethwasiaeth. Llwyddodd i ddod ag arbenigwyr yn y maes at ei gilydd ar y cyd â sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Hynny yw, partneriaid sy'n canolbwyntio ar wneud Cymru yn wlad sy'n gwrthwynebu caethwasiaeth a masnachu pobl ac yn rhoi'r gefnogaeth orau posibl i'r rhai hynny sy'n dioddef. 

Dywedodd Stephen Chapman:

“Mae codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yn rhan hollbwysig o fynd i'r afael â'r broblem. Rydyn ni eisoes wedi gweld cynnydd da, a'r nifer o achosion sydd bellach yn cael eu hadrodd amdanynt wedi mwy na dyblu eleni o'i gymharu ag y llynedd. Dw i ddim yn credu bod y nifer o achosion wedi cynyddu, ond yn hytrach bod mwy o bobl yn ymwybodol o gaethwasiaeth a bod mwy o ddioddefwyr yn dod i'r amlwg. Dyma'r cam cyntaf er mwyn inni allu dod â'r troseddwyr gerbron llys a helpu'r dioddefwyr. Rwy'n ddiolchgar i Michael am ei gefnogaeth i'n helpu ni i ledaenu'r neges bwysig hon.

Dywedodd Michael Sheen:

“Mae Cymru'n arwain y ffordd drwy esiampl yn y frwydr yn erbyn y drosedd ofnadwy o fasnachu mewn plant. Mae'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru yn rhan o broblem ranbarthol a byd-eang lawer mwy, sy'n gofyn am atebion byd-eang. Mae argyfwng y ffoaduriaid a'r ymfudwyr yn rhoi plant mewn sefyllfa sy’n golygu eu bod hyd yn oed yn fwy agored i niwed gan smyglwyr a'r rheini sy'n masnachu pobl. Er enghraifft, dim ond ychydig filltiroedd o ffin y Deyrnas Unedig, yn Calais, mae cannoedd o blant ar eu pennau eu hunain sydd mewn perygl o syrthio'n ysglyfaeth i'r gangiau troseddol cyn i'r gwersyll gael ei ddymchwel. 

“Er mai ffoaduriaid yw'r plant hyn, sy'n ymfudwyr neu sydd wedi'u dadleoli'n fewnol, yn bennaf oll, plant ydyn nhw. Nid nhw sy'n gyfrifol am y trais a'r amddifadedd o'u hamgylch, ond nhw yw'r cyntaf bob amser i gael eu heffeithio gan y rhyfel, y gwrthdaro, y newid yn yr hinsawdd a'r tlodi.

“Mae gan y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb i ddiogelu plant mewn perygl o gael eu masnachu, eu hecsploetio, a'u cam-drin.” 

Dywedodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau:

“Mae caethwasiaeth yn drosedd, ac amcangyfrifir ei bod yn effeithio ar 20 miliwn o ddynion, menywod a phlant ar draws y byd. Mae hynny'n cynnwys Cymru hefyd. Dyna pam rydyn ni'n gwneud pob ymdrech i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth yma, ac yn ceisio cael gwared arni. Rydyn ni'n ffodus iawn bod gyda ni bartneriaid ardderchog sy'n cydweithio â ni i fynd i'r afael â'r drosedd hon, ac rwy'n falch iawn bod Michael yn un ohonyn nhw.”