Mae Michael Sheen, yr actor o Gymro a’r llysgennad dros UNICEF, yn cefnogi ymgyrch sy’n parhau gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau plant.
Mae’r ymgyrch yn rhoi sylw i nifer o hawliau plant ac i adnoddau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a gwefan Hawliau Plant Cymru. Mae’r ddau sefydliad yn darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer plant a phobl ifanc, a’r rheini sy’n gweithio gyda nhw, am eu hawliau.
Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo hawliau plant ac, yn 2004, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ffurfiol.
Dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
“Dwi wrth fy modd bod Michael Sheen yn cefnogi ein hymgyrch i wneud plant a phobl ifanc yn ymwybodol o’u hawliau.
“Mae’n bwysig eu bod nhw’n gwybod bod ganddyn nhw’r hawl i roi eu barn pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sy’n effeithio ar eu bywydau.
“Drwy gymryd rhan mewn penderfyniadau, efallai y bydd plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar eu hawliau a’u deall yn well, gan chwarae rôl lawnach yn eu bywydau eu hunain ac yn y cymunedau lle maen nhw’n byw.”
Dywedodd Michael Sheen:
“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn arloesol yn ei hymrwymiad i hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Fel tad, dwi’n gwerthfawrogi mor bwysig yw sicrhau bod addysg wych a gofal iechyd ar gael i blant, ond hefyd eu bod yn ddiogel ac yn hapus. Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o’u hawliau fel y gallan nhw roi eu barn am faterion a allai effeithio arnyn nhw.”