Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, wedi cyhoeddi mai 2015/16 oedd y flwyddyn orau erioed ond un ar gyfer mewnfuddsoddi pan lwyddodd Cymru i ddenu 96 o brosiectau newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dengys y canlyniadau dros dro diweddaraf hyn bod dros 6,000 o swyddi newydd wedi cael eu creu neu eu diogelu.

Yn siarad cyn mynd i’r lansiad heddiw yng Ngŵyl Fusnes Ryngwladol 2016 yn Lerpwl dywedodd Mr Skates:   

“Mae hon yn flwyddyn ragorol arall i Gymru – mae lefelau mewnfuddsoddi yng Nghymru wedi torri pob record.

“Mae nifer y prosiectau mewnfuddsoddi yr uchaf ond un ar record.  Yr unig beth sydd wedi’u curo yw canlyniadau rhagorol y llynedd.  Rydym yn denu buddsoddiad newydd gan gwmnïau llwyddiannus fel Aston Matin ac ail-fuddsoddiad gan fusnesau byd-eang fel General Dynamics a Raytheon, cwmnïau sy’n creu nifer sylweddol o swyddi newydd, medrus iawn sy’n talu cyflog da iawn ac yn rhoi cyfle i’r unigolyn ddatblygu gyrfa.

“Oherwydd y buddsoddiadau hyn, mae economi Cymru yn werth o leiaf £660 miliwn ac yn llwyddo i greu mwy o fuddiannau economaidd, swyddi a thrwy y cadwyni cyflenwi, gyfleoedd busnes newydd. 

“Mae’r prosiectau mewnfuddsoddi hyn yn gysylltiedig â chwmnïau sydd wedi’u lleoli mewn 23 o wledydd ar hyd a lled y byd.  Roedd ganddyn nhw’r dewis i fuddsoddi yn unrhyw le yn y byd, ond Cymru aeth â hi yn y pen draw.  Mae hyn yn dangos yn glir y parch sydd gan y gymuned fusnes i Gymru fel lleoliad busnes ac mae’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n helpu busnesau yn talu ar ei ganfed hefyd.”

Dywedodd Prif Weithredwr Aston Martin Dr Andrew Palmer: 

“Daeth Aston Martin i’w penderfyniad i fuddsoddi yng Nghymru ar gyfer y cerbyd DBX Crossover  wedi cynnal astudiaeth fyd-eang hirfaith. Enillodd Cymru oherwydd ei gallu i fodloni ein gofynion heriol ar ansawdd, cost a chyflawni'r prosiect ar safle Sain Tathan.”

"Ers cyhoeddi'r prosiect, rydym wedi derbyn argraff da a chyson ynghylch ansawdd y gweithlu lleol sy'n ymgeisio i weithio yn Aston Martin ac ymrwymiad  Llywodraeth Cymru i'n helpu drwy’r  camau cynnar o sefydlu’r safle cynhyrchu newydd hwn."

Heddiw, bydd Mr Skates yn ymweld â Raytheon UK i glywed sut mae mewnfuddsoddiad yn safle’r cwmni yng Nglannau Dyfrdwy wedi creu 50 o swyddi a’r effaith bositif iawn y mae’r datblygiad hwn yn ei gael ar y gadwyn gyflenwi yng Ngogledd Cymru.

Bellach, mae Raytheon mewn trafodaethau cadarnhaol gyda dau gwmni o Gymru ynghylch eu cynnwys yn eu cadwyn gyflenwi gyda’r potensial o gael contractau sy’n werth miliynau.  Dywedodd bod Raytheon UK yn enghraifft wych o sut gall mewnfuddsoddi greu buddiannau uniongyrchol ac anuniongyrchol i economi Cymru

Dywedodd Roger Shone, Rheolwr Gyfarwyddwr Raytheon UK:  

“Rhwng Ebrill 2015 a Mawrth 2016, mae nifer y staff parhaol wedi cynyddu o 66 i 116 gyda 16 o gontractwyr sydd â chontract hirdymor.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi help i ni gyda’n cynlluniau i ehangu.”

Mae’r ffigurau mewnfuddsoddi dros dro hyn yn dilyn cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos ddiwethaf bod dros 40,000 o swyddi wedi cael help gan Lywodraeth Cymru yn 2015/16 – 5.3 y cant yn fwy o swyddi nag yn 2014/15.

Yn ôl ffigurau twristiaeth ar gyfer 2015 - sydd hefyd wedi torri pob record – fe lwyddodd Cymru i ddenu 10.45 miliwn o ymwelwyr dros nos o Brydain Fawr.  Roedd hyn 4.5 y cant yn uwch na ffigurau 2014.  Bryd hynny, daeth y ffigur ar gyfer nifer yr ymwelwyr yn uwch na 10 miliwn a hynny am y tro cyntaf erioed.

Ychwanegodd Mr Skates bod cyflogaeth nawr ar ei uchaf erioed ac wedi cynyddu’n gynt yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.  Hefyd, mae lefelau diweithdra wedi gostwng yn gynt yng Nghymru nag mewn unrhyw fan arall ac mae’r lefelau dipyn is na’r rheini yn yr Alban a’r DU hefyd.

Yn fuan, bydd cangen mewnfuddsoddi ac allforio Llywodraeth y Deyrnas Unedig – UKTI – yn cyhoeddi ei ddata ei hun ar gyfer prosiectau mewnfuddsoddi ar gyfer rhanbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig.