Mae buddsoddiad o £450,000 yn cael ei wneud o gyllid metro Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru i ddarparu bysiau trydan a seilwaith gwefru ar gyfer dau lwybr yn Sir y Fflint, meddai y Gweiniog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates heddiw.
Bydd y buddsoddiad yn ariannu dau fws trydan fydd yn gwasanaethu llwybrau i Bwcle a Treuddyn, yn ogystal â’r seilwaith gwefru i’w cynnal.
Mae’r llwybrau yn rhan o nod Sir y Fflint o gysylltu llwybrau gwledig â’r prif ganolfannau yn y sir.
Bydd y cerbydau yn cael eu cadw yng nghanolfan y cyngor ym Mwcle, sy’n cynnwys fferm solar sy’n caniatáu i fysiau gael eu gwefru gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol.
Bydd y cerbydau newydd yn fwy, i ateb y cynnydd yn y galw, a byddant hefyd yn caniatáu pellter cymdeithasol pe byddai angen hynny.
Meddai Ken Skates:
“Mae’r datblygiad hwn gan Metro Gogledd Cymru yn dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gwyrddach ac mae’n rhan o’n hymgyrch i ddod yn ôl yn well yn dilyn y pandemig covid-19.
“Bydd y cerbydau yn fwy, gan fodloni y galw am y gwasanaethau, a bydd lle i offer megis pramiau a fframiau cerdded gan wneud teithio yn hawdd a chyfleus.
“Mae’n wych gweld y caiff y cerbydau eu gwefru gan ddefnyddio pŵer solar sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle ym Mwcle, enghraifft wych o drafnidiaeth werdd gynaliadwy.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu £358,000 ar gyfer y cerbydau sy’n derbyn cyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn hapus iawn o dderbyn y cyllid hwn fydd ar y cychwyn yn golygu manteision mawr i gymunedau yn nwyrain y Sir.
Meddai’r cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydlun a Chefn Gwlad a Dirprwy Arweinydd y Cyngor:
“Bydd y cyllid yn gymorth sydd i’w groesawu o ran dyheadau’r Cyngor i leihau ei ôl troed carbon, a bydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig a threfol o’r Sir. Bydd prynu dau fws trydan, yn ogystal â datblygu Hyb ynni cynaliadwy allweddol, yn symbol o ddechrau cyfle cyffrous iawn i’r Cyngor, fydd yn cyfrannu’n sylweddol at weledigaeth y Cyngor am ddyfodol di-garbon.