Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Arolwg blynyddol o gartrefi a reolir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r Arolwg o Adnoddau Teulu.  Mae'n cynnig sail ar gyfer setiau data Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog, a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau swyddogol ar incwm isel, gan gynnwys tlodi incwm cymharol, yn flynyddol.

  • Ar 31 Mawrth 2022, rhyddhaodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ystadegau newydd mewn perthynas â'r Arolwg o Adnoddau Teulu, Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ac ystadegau cysylltiedig eraill, gan gynnwys yr ystadegau swyddogol cyntaf ar dlodi ar gyfer y cyfnod ar ôl dechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19), sef blwyddyn ariannol 2020-21.
  • Cafodd gweithrediadau gwaith maes ar gyfer Arolwg o Adnoddau Teulu 2020-21 eu newid yn gyflym mewn ymateb i COVID-19 a'r mesurau a gyflwynwyd o ran iechyd y cyhoedd. Cafodd sawl ffactor effaith ar gyfraddau ymateb ac nodweddion ymatebwyr i'r arolwg.
  • Argymhellir na ddylid defnyddio data'r flwyddyn hon i ddadansoddi data ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ar lefel islaw'r DU gan fod y cyfuniad o samplau llai o faint a gogwydd ychwanegol yn golygu nad yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws.
  • O ganlyniad, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, nid yw'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cynnwys unrhyw ystadegau ar dlodi yng Nghymru yn yr ystadegau diweddaraf a ryddhawyd ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog.  

O ganlyniad i'r materion a ddisgrifir uchod, ni fyddwn yn cyhoeddi'r amrywiaeth arferol o ddadansoddiadau ychwanegol Llywodraeth Cymru o ddata ar dlodi eleni. Yn hytrach, mae'r erthygl hon yn disgrifio materion yn ymwneud ag ansawdd data, ac yn cyflwyno ffigurau sy'n ymwneud â thlodi yng Nghymru gan ddefnyddio data ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog 2020-21 ochr yn ochr â chyfyngau hyder. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau tryloywder llwyr, ond cynghorwn na ddylid defnyddio set ddata annibynadwy 2020-21 ar gyfer Cymru. Cyfeiriwch at Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2019 i Fawrth 2020 i gael yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar gyfer Cymru.

Mae'r erthygl hon hefyd yn nodi rhai ffynonellau amgen o wybodaeth sy'n ymwneud â thlodi, lle mae data lefel Cymru ar gael ar gyfer cyfnod ar ôl dechrau pandemig y coronafeirws yn 2020.

Mae'r newidiadau i'n cyhoeddiad i'w hystyried yn rhai dros dro a chânt eu hadolygu mewn cydweithrediad â'r Adran Gwaith a Phensiynau wrth iddynt ddatblygu set ddata 2021-2022. Mae'n rhy gynnar i gadarnhau a fydd y pandemig a'r newidiadau i waith maes yr arolwg yn cael unrhyw effaith ar adroddiadau’r Arolwg o Adnoddau Teulu, a Chartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog 2022.

Effaith pandemig y coronafeirws ar yr Arolwg o Adnoddau Teulu

Yn ystod blwyddyn arolwg 2020-21, cafodd sawl ffactor effaith ar gyfraddau ymateb a dosbarthiad nodweddion ymhlith y rhai a ymatebodd i'r Arolwg o Adnoddau Teulu, gan gynnwys:

  • y newid yn y dull cyfweld o wyneb i wyneb i dros y ffôn;
  • newidiadau yn y dulliau a ddefnyddiwyd i gael ymatebion gan gyfranogwyr yr arolwg wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi; a
  • newid yn ymddygiad ac amgylchiadau pobl yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) a allai fod wedi eu gwneud fwy neu lai'n debygol o ymateb i arolwg cartrefi.

Rhoddwyd y gorau i'r dull cyfweld sefydledig wyneb yn wyneb a ddefnyddiwyd ar gyfer yr Arolwg o Adnoddau Teulu ac, yn lle hynny, cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn ar gyfer blwyddyn arolwg gyfan 2020-21. Cafodd y newid hwn effaith ar faint ac ansawdd y sampl a gafwyd.

Yn sgil y newid i gynnal cyfweliadau dros y ffôn, gwelwyd gostyngiad mewn cyfraddau ymateb a llai o sampl ar gyfer yr Arolwg o Adnoddau Teulu yn y DU gydag ychydig dros 10,000 o gartrefi o gymharu â 19,000 - 20,000 mewn blynyddoedd blaenorol. Gwelwyd effaith ar faint y sampl yn arbennig yn ystod hanner cyntaf blwyddyn yr arolwg, yn enwedig ym mis Ebrill 2020, oherwydd yr heriau a oedd yn gysylltiedig â gorfod addasu dull gwaith maes yr Arolwg yn gyflym mewn ymateb i'r cyfyngiadau ar gartrefi yn cymysgu.

Yn ogystal, roedd cyfansoddiad y sampl (nodweddion ymatebwyr) yn wahanol i flynyddoedd blaenorol. Er bod y methodolegau ystadegol (cyfundrefnau grosio) sydd ar waith yn cyflwyno proffiliau sampl dethol, gan gynnwys oedran a deiliadaeth, yn unol â phoblogaeth y DU, gall fod gogwydd anweladwy o hyd na all y gyfundrefn grosio ei unioni. Mae hyn yn golygu bod data 2020-21 yn debygol o fod yn ddarlun llai cynrychioliadol o dlodi yng Nghymru eleni.

Effaith ar y set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog

Mae'r anghysondebau a'r gogwyddion a gyflwynwyd yn sgil newidiadau i'r ffordd y cafodd data'r Arolwg o Adnoddau Teulu eu casglu yn ystod y pandemig yn golygu nad yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau ar gyfer llawer o ddadansoddiadau o amcangyfrifon Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi nodi bod mwy o amrywiaeth mewn cyfraddau incwm isel yn ystod y flwyddyn 2020-21 o gymharu â blynyddoedd blaenorol, a oedd yn effeithio ar grwpiau nad oeddent yn bensiynwyr yn bennaf.  I raddau, gellid disgwyl hyn oherwydd bod incwm aelwydydd yn newid yn ystod y pandemig mewn ymateb i gyd-destun ehangach cyfyngiadau cyfreithiol, a newidiadau cysylltiedig i gyflogaeth a diweithdra. Fodd bynnag, nid yw'r patrymau a welir yn y data bob amser i'r cyfeiriad a ddisgwylir, ar yr adegau a ddisgwylir. Mae'n anodd mesur effaith y newidiadau a gyflwynwyd i waith maes y arolwg ar newidiadau a welwyd mewn cyfraddau incwm isel.

Mae'r newidiadau mewn cyfraddau incwm isel yn ystod y flwyddyn yn fwy cyffredin wrth edrych ar blant, yn enwedig pan gânt eu dadgyfuno ymhellach yn ôl gwlad/rhanbarth yn y DU, sy'n golygu bod amcangyfrifon gwlad/rhanbarthol yn fwy ansicr.

Newidiadau i gyhoeddiadau'r Adran Gwaith a Phensiynau

Ar ôl cynnal proses sicrwydd ansawdd fanwl ar y set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi prif adroddiad Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ar lefel y DU, sy'n cynnwys cyfyngau hyder a chanllawiau i ddefnyddwyr ar ble y dylid bod yn ofalus. Ochr yn ochr â hyn maent wedi cyhoeddi Adroddiad Technegol sy'n darparu asesiad o effaith pandemig y coronafeirws ar ystadegau Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog.

Mae'r tablau manwl a gyhoeddir fel arfer ochr yn ochr ag adroddiad yr Adran ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog yn cynnwys rhai tablau sydd wedi'u dadansoddi fesul gwledydd a rhanbarthau'r DU. Mae'r Adran wedi penderfynu peidio â chyhoeddi'r dadansoddiadau ychwanegol hyn ar gyfer data 2020-21. Mae wedi cyhoeddi amrywiaeth fwy cyfyngedig o dablau data ar lefel y DU i ategu'r adroddiad ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog.

Bydd y data ffynhonnell sy'n sail i'r ystadegau hyn ar gael i'w lawrlwytho a'u dadansoddi ymhellach o hyd drwy Archif Data'r DU. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn argymell y dylai defnyddwyr arbenigol fod hyd yn oed yn fwy gofalus wrth ddefnyddio'r data ar gyfer 2020-21, yn enwedig wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol a dehongli newidiadau mewn is-grwpiau llai o faint.

Newidiadau i gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru

Yn dilyn ymchwiliad annibynnol i'r data ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ar gyfer 2020-21, mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru wedi canfod hefyd nad yw'r ffigurau yn ddigon cadarn i nodi tueddiadau o ran tlodi yng Nghymru ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021.

Mae set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog 2020-21 yn cynnwys llai na 380 o gartrefi yng Nghymru, sef llai na hanner y lefelau blynyddol arferol. Hyd yn oed wrth gyfuno gwerth tair blynedd o ddata (fel sy'n arferol ar gyfer amcangyfrifon rhanbarthol/gwlad), mae'r sampl fach a'r gogwydd ychwanegol yn y data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn ddigon i beryglu ansawdd yr ystadegau yn sylweddol.

O ganlyniad i'r materion a ddisgrifir uchod, ni fyddwn yn cyhoeddi'r amrywiaeth arferol o ddadansoddiadau ychwanegol Llywodraeth Cymru o ddata ar dlodi eleni. Yn hytrach, nodwn isod ffigurau allweddol sy'n ymwneud â thlodi yng Nghymru yn seiliedig ar ddata ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog 2020-21, ochr yn ochr â chyfyngau hyder er mwyn adlewyrchu ansicrwydd ychwanegol. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau tryloywder llwyr, ond cynghorwn na ddylid defnyddio set ddata annibynadwy 2020-21 ar gyfer Cymru.

Rydym wedi cyhoeddi diweddariad cryno ar ystadegau newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau ar dlodi parhaus yng Nghymru ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2020. Daeth y ffigurau hyn o astudiaeth Deall Cymdeithas, na chafodd ei heffeithio gan yr un materion o ran ansawdd data ag a ddisgrifir uchod.

Dadansoddiad

Yn yr adran hon, nodwn ffigurau sy'n ymwneud â thlodi yng Nghymru a'r DU yn seiliedig ar set ddata Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog 2020-21. Fodd bynnag, oherwydd y rhesymau a amlinellir uchod, nid yw'r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben 2020-21 yn ddigon cadarn i ddisgrifio newidiadau i dlodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig yn gywir, ac argymhellwn na ddylid defnyddio data'r flwyddyn hon. Yn y tablau a'r siartiau isod, rydym wedi labelu rhywfaint o ddata fel "annibynadwy" i adlewyrchu hyn.

Mae Adroddiad Technegol sy’n asesu effaith pandemig y coronafeirws ar amcangyfrifon Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog wedi'i gyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a dylid ystyried yr asesiad hwn wrth fynd ati i ddehongli unrhyw waith dadansoddi yn yr erthygl hon. Nid ydym yn fodlon bod y sampl sy'n llywio amcangyfrifon Cymru yn gynrychioliadol nac yn cyrraedd y safonau sy'n ofynnol ar gyfer allbwn Ystadegau Gwladol.

Am y rheswm hwnnw, yr ystadegau y dylid eu defnyddio i ddeall tlodi yng Nghymru yw'r rhai sy'n ymwneud â thlodi yng Nghymru a gyhoeddwyd y llynedd (data ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben 2019-20). Gellir dod o hyd i ystadegau ar dlodi incwm cymharol ac amddifadedd materol ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben 2019-20 ar dudalennau ystadegau tlodi, a gellir dod o hyd i ystadegau ar dlodi incwm absoliwt ar dudalennau Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog gov.uk.

O ran dosbarthiad incymau cartrefi a thlodi, mae'n debygol mai allanolyn oedd 2020-21 oherwydd lefel yr aflonyddu a achoswyd gan COVID-19 a'r mesurau iechyd cyhoeddus a gyflwynwyd i leihau trosglwyddo, effaith y cynllun ffyrlo a'r cynnydd dros dro i Gredyd Cynhwysol. Bydd angen aros sawl blwyddyn cyn i ni ddeall effaith hirdymor y pandemig ar sefyllfaoedd ariannol pobl yn llawn. Yn y cyfamser, ar gyfer data y tu hwnt i 2019-20, gall defnyddwyr gyfeirio at adroddiadau 2020-21 yr Adran Gwaith a Phensiynau ar incwm cartrefi a thlodi ar gyfer y DU yn ehangach, ac at ffynonellau gwybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud â thlodi yng Nghymru a ddisgrifir yn yr adran "mesurau amgen" isod.

Mesurau o ansicrwydd

Mae'r sampl llai o faint y flwyddyn hon yn golygu na allwn ddweud gyda sicrwydd bod unrhyw newidiadau i ffigurau tlodi yng Nghymru yn y byrdymor yn ystyrlon.  Mewn geiriau eraill, nid yw newidiadau yn arwyddocaol yn ystadegol a dim ond drwy siawns y maent wedi codi yn ddigon posibl oherwydd amrywiad yn y gwaith samplu.

Caiff yr ansicrwydd yn y ffigurau eu cyfleu yn y siartiau isod, sy'n dangos cyfraddau tlodi yng Nghymru a'r DU hyd at flwyddyn ariannol 2020-21, ochr yn ochr â chyfyngau hyder o 95%. Mae cyfyngau hyder yn rhoi ystod lle mae'r gwerth 'gwir' i'r boblogaeth yn debygol o ostwng. Mae siawns o 1 o bob 20 nad yw'r Cyfwng Hyder o 95% yn cynnwys y gwir werth. Po fwyaf yw'r cyfwng hyder, po leiaf manwl yw’r amcangyfrif.

Sylwch, wrth gynhyrchu cyfyngau hyder, nad oes dull ystadegol o'u hehangu ymhellach i ddal effaith gwall neu duedd samplu na ellir ei fesur, fel yr amlinellir uchod ac yn Adroddiad Technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Yn ôl asesiad yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae ffigurau lefel uchel ar gyfer y DU yn 2020-21 yn ddigon dibynadwy i'w cyhoeddi, felly rydym wedi cynnwys ystadegau diweddaraf y DU ochr yn ochr â'r ffigurau (annibynadwy) ar gyfer Cymru isod, er mwyn rhoi rhywfaint o wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd o ran tlodi ledled y DU yn ystod y pandemig. Rydym hefyd wedi cynnwys amcangyfrifon y DU yn y siartiau lle y bo'n bosibl, yn seiliedig ar gyfartaleddau tair blwyddyn ariannol er mwyn cyd-fynd â'r cyfnodau cyfeirio ar gyfer ffigurau Cymru.

Tlodi incwm cymharol

Mae bod mewn tlodi incwm cymharol yn golygu byw ar aelwyd lle mae cyfanswm yr incwm o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif). Mae'r ffigurau isod yn ymwneud â thlodi incwm cymharol yng Nghymru ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi dŵr ac yswiriant adeiladau.

Isod ceir tabl o amcangyfrifon tlodi incwm cymharol ar gyfer Cymru a'r DU, ac yna siartiau sy'n dangos drwy gyfyngau hyder lefel yr ansicrwydd ynghylch y gyfradd tlodi i Gymru, ar gyfer pob grŵp oedran ar wahân. Dylid nodi, yn ogystal ag amrywiad yn y gwaith samplu, fel y disgrifiwyd yn flaenorol, fod gogwyddion ychwanegol yn set ddata 2020-21 sy'n golygu bod y ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru hyd yn oed yn llai cywir.

Tabl 1: Amcangyfrifon tlodi incwm cymharol ar gyfer Cymru a'r DU
Mesur tlodi Cymru, 2017-18 i 2019-20 Cymru, 2018-19 i 2020-21,
Mae'r amcangyfrif hwn yn annibynadwy
DU, 2019-20 DU, 2020-21
Pobl sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol 23% 24% 22% 20%
Plant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol 31% 34% 31% 27%
Oedolion o oedran gweithio sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol 22% 22% 20% 20%
Pensiynwyr sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol 18% 19% 18% 15%

Ffynhonnell: Aelwydydd islaw'r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau

Image
Mae Siart 1, sy'n siart linell, yn dangos canran y bobl yng Nghymru a'r DU sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben 2017-18.
Image
Mae Siart 2, sy'n siart linell, yn dangos canran y plant yng Nghymru a'r DU sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben yn 2017-18.
Image
Mae Siart 3, sy'n siart linell, yn dangos canran yr oedolion o oedran gweithio yng Nghymru a'r DU sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben 2017-18.
Image
Mae Siart 4, sy'n siart linell, yn dangos canran y pensiynwyr yng Nghymru a'r DU sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben 2017-18.

Tlodi incwm absoliwt

Tlodi incwm cymharol (o'i gymharu ag incwm canolrifol cyfredol y DU) yw'r mesur allweddol a ddefnyddir gennym i ddisgrifio tlodi yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynhyrchu mesur o dlodi incwm absoliwt hefyd, a all ychwanegu at ein dealltwriaeth o dueddiadau dros amser.

Mae'r mesur absoliwt wedi'i gynllunio i asesu sut mae incymau isel yn gwneud gan gyfeirio at chwyddiant. Mae unigolyn ar incwm isel absoliwt os yw'n byw mewn cartref lle mae cyfanswm incwm y cartref yn is na 60% o incwm canolrifol 2010 i 2011 wedi'i addasu ar gyfer chwyddiant. Bydd canran yr unigolion mewn incwm isel absoliwt yn gostwng os bydd unigolion ag incwm is yn gweld eu hincwm yn codi mwy na chwyddiant. Mae hyn yn golygu ei fod yn fesur defnyddiol i'w ddefnyddio ochr yn ochr â mesurau cymharol, yn ystod cyfnod lle ceir newidiadau sylweddol i ddosbarthiad incwm dros amser, megis yn ystod dirwasgiad neu bandemig.

Dangosir data ar dlodi incwm absoliwt (ar ôl costau tai) isod er mwyn rhoi mwy o gyd-destun ar gyfer y dadansoddiad hwn o dlodi. Fodd bynnag, ystyrir bod y mesurau cymharol ac absoliwt ar gyfer Cymru yn annibynadwy ar gyfer y cyfnod diweddaraf a ddaeth i ben 2020-21.

Isod ceir tabl o amcangyfrifon tlodi incwm absoliwt ar gyfer Cymru a'r DU, ac yna siartiau sy'n dangos drwy gyfyngau hyder lefel yr ansicrwydd ynghylch y gyfradd tlodi i Gymru, ar gyfer pob grŵp oedran ar wahân. Dylid nodi, yn ogystal ag amrywiad yn y gwaith samplu, fel y disgrifiwyd yn flaenorol, fod gogwyddion ychwanegol yn set ddata 2020-21 sy'n golygu bod y ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru hyd yn oed yn llai cywir.

Tabl 2: Amcangyfrifon tlodi incwm absoliwt ar gyfer Cymru a'r DU
Mesur tlodi Cymru, 2017-18 i 2019-20 Cymru, 2018-19 i 2020-21,
Mae'r amcangyfrif hwn yn annibynadwy
DU, 2019-20 DU, 2020-21
Pobl sy'n byw mewn tlodi incwm absoliwt 19% 18% 18% 17%
Plant sy'n byw mewn tlodi incwm absoliwt 24% 25% 25% 23%
Oedolion o oedran gweithio sy'n byw mewn tlodi incwm absoliwt 19% 18% 17% 16%
Pensiynwyr sy'n byw mewn tlodi incwm absoliwt 14% 13% 13% 11%

Ffynhonnell: Aelwydydd islaw'r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau

Image
Mae Siart 5, sy'n siart linell, yn dangos canran y bobl yng Nghymru a'r Du sy'n byw mewn tlodi incwm absoliwt ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben 2017-18.
Image
Mae Siart 6, sy'n siart linell, yn dangos canran y plant yng Nghymru a'r DU sy'n byw mewn tlodi incwm absoliwt ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben 2017-18.
Image
Mae Siart 7, sy'n siart linell, yn dangos canran yr oedolion o oedran gweithio yng Nghymru a'r DU sy'n byw mewn tlodi incwm absoliwt ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben 2017-18.
Image
Mae Siart 8, sy'n siart linell, yn dangos canran y pensiynwyr yng Nghymru a'r DU sy'n byw mewn tlodi incwm absoliwt ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben 2017-18.

Amddifadedd Materol

Yn y cyhoeddiad ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn nodi amcangyfrifon o ganran y cartrefi â phlant sydd mewn amddifadedd materol, gan gynnwys ar y cyd â chyfres o drothwyon incwm isel, a hefyd amcangyfrif o ganran y cartrefi â phensiynwyr sydd mewn amddifadedd materol.

Mesur o safonau byw yw amddifadedd materol. Nodwn fod unigolyn yn byw mewn amddifadedd materol os all ef neu hi gael gafael ar nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Yn 2020-21, effeithiodd y cyfyngiadau cyfreithiol a gyflwynwyd mewn ymateb i bandemig y coronafeirws ar sawl un o'r cwestiynau a ofynnwyd fel rhan o'r mesur. Roedd hyn yn golygu na fu'n bosibl i'r rhai a oedd yn rhan o'r sampl fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol na gwasanaethau yn ystod y cyfyngiadau symud, ni waeth p'un a oeddent mewn amddifadedd ai peidio. 

Am y rheswm hwn, ni ellir cymharu amcangyfrifon o amddifadedd materol yn 2020-21 â blynyddoedd blaenorol, ac ni allwn ddweud a yw unrhyw newid yn yr amddifadedd materol a gofnodwyd yn ystod 2020-21 yn cynrychioli newid gwirioneddol mewn amgylchiadau cartrefi. Esbonnir hyn ymhellach yn Adroddiad Technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau. Hefyd, ar gyfer ffigurau sy'n seiliedig ar ddata o 2020-21, mae'r un materion o ran ansawdd sy'n ymwneud â'r sampl a gogwyddion ag a ddisgrifir uchod yn berthnasol ar gyfer dadansoddi amddifadedd materol, ond rydym yn dangos y ffigurau i sicrhau tryloywder llawn.

Ceir rhagor o fanylion am y mesurau ar ein tudalen we amddifadedd materol ac incwm isel.

Isod ceir tabl o amcangyfrifon amddifadedd materol ar gyfer Cymru a'r DU, ac yna siartiau sy'n dangos drwy gyfyngau hyder lefel yr ansicrwydd ynghylch y gyfradd amddifadedd materol i Gymru, ar gyfer plant a phensiynwyr ar wahân. Dylid nodi, yn ogystal ag amrywiad yn y gwaith samplu, fel y disgrifiwyd yn flaenorol, fod gogwyddion ychwanegol yn set ddata 2020-21 sy'n golygu bod y ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru hyd yn oed yn llai cywir.

Tabl 3: Amcangyfrifon amddifadedd materol plant a phensiynwyr ar gyfer Cymru a'r DU
Mesur amddifadedd materol Cymru, 2017-18 i 2019-20 Cymru, 2018-19 i 2020-21,
Mae'r amcangyfrif hwn yn annibynadwy
DU, 2019-20 DU, 2020-21
Plant sy’n byw mewn amddifadedd materol ac incwm isel 14% 14% 12% 10%
Pensiynwyr sy’n byw mewn amddifadedd materol 7% 6% 6% 5%

Ffynhonnell: Aelwydydd islaw'r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau

Image
Mae Siart 9, sy'n siart linell, yn dangos canran y plant yng Nghymru sy'n byw mewn amddifadedd materol ac ar incwm isel ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben 2017-18.
Image
Mae Siart 10, sy'n siart linell, yn dangos canran y pensiynwyr yng Nghymru sy'n byw mewn amddifadedd materol ers y cyfnod o dair blynedd a ddaeth i ben 2017-18.

Mesurau amgen

Mae'r adran hon yn nodi rhai ffynonellau amgen o wybodaeth sy'n ymwneud â thlodi, lle mae data lefel Cymru ar gael ar gyfer cyfnod ar ôl dechrau pandemig y coronafeirws yn 2020. Dangosir y ffigurau diweddaraf sydd ar gael (ym mis Mawrth 2022) ond efallai y bydd data arall sy'n cyfeirio at gyfnodau cynharach, ôl-bandemig ar gael o'r ffynonellau sylfaenol.

Mae canlyniadau arolwg ffôn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020-21 yn dangos y dywedodd 79% o oedolion eu bod yn ymdopi â'u holl filiau ac ymrwymiadau heb unrhyw anawsterau, o gymharu â 68% yn 2019-20. Er hynny, o gofio bod yr Arolwg Cenedlaethol wedi newid o'r modd wyneb yn wyneb i'r ffôn ym mis Ebrill 2020, dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol.

Mae'r Arolwg o farn y cyhoedd ar COVID-19 yn astudiaeth ar-lein gan Ipsos MORI o oedolion rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru.  Mae'n dangos y canlynol:

  • Arhosodd cyfran y bobl yng Nghymru a oedd yn pryderu na allent dalu eu biliau mewn mis yn gymharol debyg ers dechrau'r pandemig, sef tua 25%.
  • Mae'r ffigurau diweddaraf yn awgrymu cynnydd diweddar hyd at 35% ym mis Mawrth 2022, er y dylid dehongli gwahaniaethau rhwng tonnau yn ofalus oherwydd y cyfyngau hygrededd dan sylw.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal arolwg ffôn ymgysylltu â'r cyhoedd sy'n gofyn i aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru nodi sut mae'r coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a'u llesiant. Dechreuodd yr arolwg ym mis Ebrill 2020 ac mae'n cael ei gynnal yn fisol ar hyn o bryd. Yn ôl yr adroddiad diweddaraf (Iechyd Cyhoeddus Cymru) o fis Chwefror 2022, roedd 16% o oedolion 18+ wedi bod yn pryderu ‘llawer’ am eu sefyllfa ariannol dros yr wythnos ddiwethaf, ac roedd 28% o oedolion 18+ wedi bod yn pryderu ‘rhywfaint’ am eu sefyllfa ariannol dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi rhyddhau data ardal leol newydd “Plant mewn teuluoedd incwm isel” ar gyfer 2020-21, yn seiliedig ar setiau data gweinyddol ac wedi'u graddnodi i ffigurau rhanbarthol Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog. Cynghorir na ddylid gwneud cymariaethau rhwng gwledydd na blynyddoedd, ac mae'r ystadegau yn dangos amrywiadau ardal leol o fewn pob gwlad ar gyfer 2020-21 yn unig. 

Er nad ydynt yn ystadegau swyddogol, efallai y gall defnyddwyr gyfeirio at yr adroddiad hwn i gael cyd-destun ychwanegol: Cipolwg ar dlodi yn ystod Gaeaf 2021 (Sefydliad Bevan).

Nodiadau ar ddefnyddio erthyglau ystadegol

Yn gyffredinol, mae erthyglau ystadegol yn ymwneud â dadansoddiadau untro nad oes diweddariadau wedi'u cynllunio ar eu cyfer, o leiaf yn y tymor byr, ac maent yn sicrhau bod dadansoddiadau o'r fath ar gael i gynulleidfa ehangach nag a allai fod yn wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau sy'n archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:

  • cyflwyno cyfres arbrofol newydd o ddata
  • dadansoddiad rhannol o fater sy'n fan cychwyn defnyddiol ar gyfer ymchwil pellach ond sydd serch hynny yn ddadansoddiad defnyddiol ynddo'i hun
  • tynnu sylw at ymchwil a wnaed gan sefydliadau eraill, naill ai wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tynnu sylw at y casgliadau, neu adeiladu ymhellach ar yr ymchwil
  • dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o'r canlyniadau o hyd.

Lle mae ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:

  • methu â nodi'n gywir yr amserlen a ddefnyddir (fel sy'n bosibl wrth ddefnyddio ffynhonnell weinyddol)
  • ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddir
  • rhesymau penodol eraill.

Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n effeithio'n sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai nad yw'r union amserlen yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu tynnu, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa.

Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynwyd yn ystadegyn cenedlaethol, ond gall fod yn seiliedig ar allbynnau Ystadegau Gwladol a bydd, serch hynny, wedi bod yn destun ystyriaeth ofalus a gwiriad manwl cyn ei gyhoeddi. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad yn cael ei gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymariaethau â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellid defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd.

Ceir erthyglau yn amodol ar yr arferion rhyddhau fel y'u diffinnir gan y protocol arferion rhyddhau, ac felly, er enghraifft, cânt eu cyhoeddi ar ddyddiad a gyhoeddwyd ymlaen llaw yn yr un modd ag allbynnau ystadegol eraill.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Nia Jones
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Ebost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 107/2022