Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Rheoliad 16 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 ("Rheoliadau’r Coronafeirws") yn gosod gofynion ar bobl sy'n gyfrifol am fangreoedd sy'n agored i'r cyhoedd a phobl sy'n gyfrifol am waith a wneir mewn mangreoedd i gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws yn y fangre, ac i leihau'r risg o ledaenu coronafeirws gan y rhai sydd wedi bod yn y fangre. 

Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 16 roi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd am y mesurau hynny, o dan reoliad 18 o Reoliadau’r Coronafeirws. Mae methu â gwneud hynny yn drosedd lle gellir cymryd camau gorfodi. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i swyddogion gorfodi hefyd.

Mae Rheoliadau’r Coronafeirws yn darparu ar gyfer pedair Lefel Rhybudd, sy'n nodi gwahanol gyfyngiadau a gofynion y gellir eu cymhwyso yn dibynnu ar lefel y risg a aseswyd yng Nghymru, ond mae'r gofynion a osodir gan reoliad 16 yn gymwys waeth pa Lefel Rhybudd sy'n gymwys ar unrhyw adeg. Mae hyn yn cynnwys pan nad oes unrhyw Lefel Rhybudd mewn grym (a elwir yn gyhoeddus yn “Lefel Rhybudd Sero”). Bwriedir i'r canllaw hwn fod yn berthnasol mewn egwyddor bob amser tra mae Rheoliadau’r Coronafeirws mewn grym. Mae hyn yn cynnwys ar unrhyw Lefel Rhybudd neu pan nad oes unrhyw Lefel Rhybudd mewn grym (Lefel Rhybudd Sero). Darperir manylion am y Lefelau Rhybudd a'u harwyddocâd yn y Cynllun Rheoli'r Coronafeirws: lefelau rhybudd ar gyfer Cymru.

Mae’r canllawiau hyn (a wnaed o dan reoliad 18 y Rheoliadau Coronafeirws) ar gymhwyso’r gofyniad cyfreithiol hwn yn ymarferol wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i gyd-fynd â’r diwygiadau a wnaed i reoliad 16 a ddaeth i rym o 7 Awst 2021. Mae canllawiau hefyd wedi’u llunio ar gyfer personau cyfrifol i egluro’r newidiadau a disgrifio’r rhwymedigaethau cyfreithiol sydd mewn grym. Mae’r canllawiau hyn ar gael yma.

Mae’r canllawiau hyn bellach yn nodisut y gall y rhai sy’n gorfod cymryd mesurau rhesymol benderfynu pa fesurau rhesymol y dylent eu cymryd. Yn ogystal, mae’r pwyslais wedi newid o ran pa fesurau rhesymol y gallai fod yn angenrheidiol. Mae’r Rheoliadau yn llai caeth ar y cyfan o ran yn union pa fesurau y mae rhaid eu cymryd, gan roi mwy o hyblygrwydd yn y camau a gymerir gan ddibynnu ar y risgiau a nodwyd.

O 11 Hydref 2021 ymlaen, bydd yn ofynnol i rai lleoliadau roi mesurau ar waith ar gyfer gwirio tystiolaeth o statws brechu neu brofi pobl (drwy bàs COVID) fel mesur rhesymol gorfodol. Mae’r canllawiau hyn wedi cael eu diweddaru i ddarparu rhagor o wybodaeth i swyddogion gorfodi mewn perthynas â’r gofyniad newydd hwn i gael pàs COVID.

Mae angen gwneud asesiad risg penodol o hyd ar gyfer coronafeirws a dylai hyn fod yn sail ar gyfer y mesurau sy’n rhesymol i’w cymryd mewn unrhyw fangre i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’r risg o ledaenu’r coronafeirws.

Mae’r defnydd priodol o bwerau i orfodi’r cyfyngiadau a’r gofynion hyn a osodir gan reoliad 16 yn bwysig er mwyn:

  • hyrwyddo a chynnal cydymffurfiaeth barhaus fel mesur ataliol i helpu i reoli’r coronafeirws
  • sicrhau bod camau’n cael eu cymryd ar unwaith i ddelio â sefyllfaoedd lle mae perygl y bydd y coronafeirws yn lledaenu
  • sicrhau bod y rheini sy’n methu â chydymffurfio yn cael eu dwyn i gyfrif

Lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws

Mae rheoliad 16 yn nodi gofynion cyffredinol ar bersonau sy'n gyfrifol am fangreoedd neu am waith yn y mangreoedd, ac mae'r rhain i gyd er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws yn y fangre.

Mae dull tri cham wedi’i ddiweddaru sy’n amlinellu’r hyn sydd ei angen o dan reoliad 16. Mae canllawiau diwygiedig yn ymwneud â’r dull hwn wedi’u cyhoeddi nawr. Mae’r camau hyn yn cynrychioli dilyniant rhesymegol lle byddai’r camau’n cael eu hystyried, yn hytrach nag awgrymu pwysigrwydd cymharol pob cam. Er enghraifft, gwella awyriad (gan gynnwys cynnal gweithgaredd yn yr awyr agored) yw un o’r mesurau pwysicaf y gall mangre ei gymryd, ond nid yw wedi’i ddisgrifio yn y Rheoliadau Coronafeirws tan Gam 3.

Mae’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd ar agor i’r cyhoedd neu sy’n weithle gymryd y camau a ganlyn, sydd wedi’u seilio ar egwyddorion cyffredinol "hierarchiaeth mesurau rheoli" ym maes rheoli risg:

  1. Cam 1: ymgymryd ag asesiad risg penodol mewn perthynas â’r perygl o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn eu mangre (ac ymgynghori â phob person sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny wrth wneud hyn)
  2. Cam 2: darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n cael mynediad i’r fangre, neu sy’n gweithio ynddi, ynglŷn â sut y gellir lleihau’r perygl o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys, yn benodol, rhoi gwybodaeth i bawb sy’n gweithio yn y fangre am eu risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws fel y nodwyd yn yr asesiad risg, a’r mesurau i’w cymryd i leihau’r risg
  3. Cam 3: sicrhau bod pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i leihau’r perygl o ddod i gysylltiad â’r feirws yn y fangre, yn arbennig drwy geisio atal pobl y gallai fod ganddynt y coronafeirws rhag bod yn bresennol, drwy sicrhau bod pobl yn ymgynnull yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do pan fo hynny’n ymarferol, drwy wella’r awyru o dan do, drwy leihau cysylltiad agos wyneb yn wyneb rhwng pobl, a thrwy wella hylendid

Rhaid cymryd pob un o’r 3 Cham.

Mae rheoliad 16 yn gymwys i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am fangre sy'n agored i'r cyhoedd ac i'r person sy'n gyfrifol am y gwaith sy'n cael ei wneud mewn unrhyw weithle; hynny yw y person sy'n gyfrifol am reoli (nid, er enghraifft, perchennog rhydd-ddaliadol ffatri neu swyddfa ar brydles). Yn achos gweithgareddau wedi'u trefnu a gweithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer plant, mae'r ddyletswydd yn berthnasol i'r person sy'n gyfrifol am y fangre lle mae'r gweithgaredd yn digwydd a'r person sy'n gyfrifol am y gweithgaredd.

Mae hefyd yn berthnasol i dacsis ac i ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus (gan gynnwys canolfannau trafnidiaeth o dan do fel gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, meysydd awyr a phorthladdoedd fferi). Yn ogystal, rhaid i weithredwyr y gwasanaethau hyn ystyried canllawiau penodol ar y gofyniad statudol i deithwyr wisgo gorchudd wyneb ac am ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y rhwymedigaeth hon. Ynghyd â'r canllawiau trafnidiaeth manwl atodol a gynhyrchwyd yng nghyd-destun trafnidiaeth gyhoeddus.

O dan bob un o'r Lefelau Rhybudd, mae'n ofynnol i wahanol fangreoedd gau. Mae Rheoliadau’r Coronafeirws yn darparu rhestr o fusnesau ac adeiladau wedi’u heithrio y caniateir iddynt aros ar agor i'r cyhoedd, ond hyd yn oed ar gyfer y mangreoedd hynny y mae'n ofynnol iddynt gau mae amgylchiadau o hyd lle gall unigolion fod yn y fangre, ac felly bydd y gofyniad i gymryd mesurau rhesymol yn parhau i fod yn gymwys.

Ystyr y gofynion i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws

Mae'r gofynion yn rheoliad 16 wedi'u drafftio'n fras yn fwriadol. Mae hyn am ddau reswm. Y cyntaf yw bod y mesurau sy'n "rhesymol" yn dibynnu i raddau helaeth ar y cyd-destun ffisegol, mewn geiriau eraill ar y math o fangre a'r math o weithgareddau a gyflawnir yn y fangre. Fel yn achos deddfwriaeth iechyd a diogelwch, bydd yr hyn sy'n rhesymol hefyd yn dibynnu ar y gost – ac er nad dyna’r unig ffactor yn amlwg, gellir ystyried yr effaith economaidd ar fusnes. Yr ail yw bod y rhai sy'n gyfrifol am y fangre i gael rhywfaint o ddisgresiwn ynglŷn â'r mesurau penodol y maent yn eu cymryd lle mae dewis yn bosibl.

Nid yw cymryd mesurau rhesymol yn rheol absoliwt y mae'n rhaid ei chymhwyso drwy'r amser ym mhob amgylchiad – efallai na fydd angen rhai pethau gan na fyddai'n rhesymol eu gwneud yn ofynnol ac efallai y bydd angen pethau gwahanol ar adegau gwahanol ac mewn amgylchiadau gwahanol. Yn ogystal, efallai na fydd mesur penodol yn berthnasol yn yr un modd ym mhob sefyllfa.

Fodd bynnag, mae'n brawf gwrthrychol y bwriedir ei gymhwyso'n gyson – dylid asesu’r hyn sy'n "rhesymol" nid drwy gyfeirio at yr hyn y mae unrhyw un person yn credu sy’n rhesymol i’w wneud ond yn ôl yr hyn y mae person rhesymegol sy'n wynebu amgylchiadau tebyg yn credu sy'n rhesymol – ac mae’r ffaith ein bod yn wynebu pandemig byd-eang yn berthnasol yn y cyd-destun hwnnw gan y bydd y disgwyliad o ba fesurau sy'n debygol o fod yn rhesymol yn uchel o ganlyniad. Yn y cyd-destun hwn, mae’r Lefel Rhybudd sydd mewn grym hefyd yn berthnasol, oherwydd yr uchaf yw’r Lefel Rhybudd y mwyaf tebygol yw hi y bydd mesurau penodol yn rhai rhesymol i’w cymryd.

Yn ogystal, gellir categoreiddio'r gofynion mewn ffordd eithaf syml y gellir eu cymhwyso waeth beth fo natur y fangre:

  • darparu gwybodaeth i helpu pobl i ymddwyn fel y dylent
  • sicrhau y cedwir pellter corfforol
  • awyru’r lle’n well a defnyddio mannau awyr agored yn lle bod o dan do
  • ceisio atal pobl a allai fod yn heintus rhag bod yn y fangre (er enghraifft, drwy ddefnyddio profion a mynnu bod pobl wedi’u brechu, a sicrhau nad yw pobl sydd â symptomau’n bresennol)
  • gwella hylendid
  • mabwysiadu mesurau eraill i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws, yn bennaf er mwyn osgoi cysylltiad wyneb yn wyneb agos: e.e. newid sut mae pobl yn symud o gwmpas mangreoedd, gwella awyru, gosod sgriniau, defnyddio cyfarpar diogelu personol

Er bod y gofynion yn ymwneud yn gyffredinol â sut y gwneir pethau mewn mangreoedd neu yn y gweithle, efallai y bydd amgylchiadau lle y gallai fod angen ystyried yr hyn a wneir. Os yw gweithgaredd yn golygu risg uchel o ddod i gysylltiad â coronafeirws oherwydd yr angen i bobl fod yn agos, ac na ellir lliniaru hynny'n foddhaol (yn gyffredinol gyda sgriniau neu gyfarpar diogelu personol), efallai y byddai'n rhesymol disgwyl i fesurau gael eu cymryd i atal y gweithgaredd hwnnw neu i gau rhan o fangre. Yn achos gweithle, bydd p'un ai yw hynny'n wirioneddol resymol yn dibynnu'n rhannol ar natur y gweithgaredd dan sylw a pha mor hanfodol ydyw i weithrediad y busnes.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r canllawiau canlynol o dan reoliad 18, y mae'n rhaid i'r rhai y mae'r ddyletswydd yn gymwys iddynt eu hystyried. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr mangreoedd ar wisgo gorchuddion wyneb:

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau mwy cyffredinol sydd hefyd yn berthnasol:

Mae amryw o gyrff sy'n cynrychioli'r sector a'r diwydiant hefyd wedi cynhyrchu canllawiau manylach ar fathau penodol o fangreoedd y gellir eu hystyried lle mae'n gyson â'r gofynion rheoliadol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Pàs COVID

O ddydd Llun 11 Hydref ymlaen, bydd yn rhaid i bobl sy’n mynd i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos (neu fangreoedd tebyg) brofi eu bod naill ai wedi’u brechu’n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd (LFT) negatif yn y 48 awr ddiwethaf neu wedi cael canlyniad positif i brawf PCR a gymerir gan y person ddim mwy na 180 o ddiwrnodau a ddim llai na 10 niwrnod o flaen llaw.

Mae’r gofynion hyn a ddylai fod yn rhan o asesiad risg pwrpasol a bod yn un o’r mesurau rhesymol y mae gofyn ei roi ar waith, yn gymwys mewn perthynas â rhai mangreoedd a lleoliadau penodol (gweler isod). Caiff y darpariaethau penodol eu hamlinellu yn rheoliad 16A.

Mae’n bwysig nodi bod y gofyniad newydd hwn i wirio tystiolaeth yn rhan o gyfres o fesurau rhesymol a ddylai gael eu gweithredu’n gyffredinol yn ddibynnol ar y camau a nodir fel rhan o’r asesiad risg pwrpasol. Nid yw’n dileu’r angen i ystyried a gweithredu mesurau eraill.

Dylai’r asesiad risg pwrpasol hefyd amlinellu’r rhesymeg a’r cyfiawnhad dros sut y mae pob busnes a lleoliad wedi dewis gweithredu’r gofyniad hwn, a fydd fel arfer yn golygu bod unigolion sy’n dymuno mynychu neu gael mynediad yn gorfod dangos pàs COVID. Bydd yr hyn a ystyrir yn rhesymol o ran mesurau gwirio yn amrywio ar wahanol adegau ac ar gyfer gwahanol leoliadau gan ddibynnu ar nifer o amgylchiadau, gan gynnwys y capasiti a threfniadau mynediad. Efallai y ceir rhai amgylchiadau lle y byddai gwirio statws pawb sy’n cael mynediad i fangre benodol yn arwain at giwiau mawr a phobl yn ymgynnull, ond mewn mangreoedd eraill, bydd ganddynt eisoes weithdrefnau yn eu lle ar gyfer gwirio drwy system giwio, lle y byddai hefyd yn rhesymol i wirio a oes gan bob unigolyn bàs COVID dilys. Er enghraifft, mae’n arferol i glybiau nos reoli niferoedd drwy gael ciw y tu allan i fangre, a'r disgwyliad yw y byddant yn gwirio statws pob person sy’n dymuno cael mynediad. Ond gallai gwirio pàs pob person sy’n mynd i gêm rygbi neu gêm bêl-droed fawr arwain at broblemau diogelwch a chiwiau mwy nag arfer.

Byddem yn disgwyl y byddai clwb nos, er enghraifft, yn gallu gwirio pasys COVID pawb sy’n cael mynediad i’r lleoliad.

Bydd angen i bob lleoliad gynnal asesiad risg er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cyfiawnhau beth y mae’n ystyried yn fesur rhesymol yng nghyd-destun gwirio, gan ystyried ei ddyletswyddau statudol eraill, er enghraifft iechyd a diogelwch ei gwsmeriaid, materion ehangach o ran trefn gyhoeddus a risgiau terfysgaeth posibl.

Lleoliadau

Bydd y gofynion newydd yn golygu y bydd angen i bobl dros 18 oed yng Nghymru ddangos eu bod wedi’u brechu’n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd negatif yn y 48 awr ddiwethaf, neu wedi cael canlyniad positif i brawf PCR a gymerir gan y person ddim mwy na 180 o ddiwrnodau a ddim llai na 10 niwrnod cyn y cânt fynediad i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos neu leoliadau tebyg (gweler isod)
  • mangreoedd dan do lle cynhelir digwyddiad â thros 500 o bobl yn bresennol os nad ydynt i gyd yn eistedd fel arfer
  • unrhyw fangre awyr agored lle cynhelir digwyddiad â thros 4,000 o bobl yn bresennol, os nad ydynt i gyd yn eistedd fer arfer
  • unrhyw ddigwyddiad, o unrhyw natur, lle mae mwy na 10,000 o bobl yn bresennol

Yn achos digwyddiadau sy’n para mwy nag un diwrnod, sy’n cael eu cynnal mewn mwy nag un lleoliad neu ddigwyddiadau sydd â sioeau ar wahân yn ystod y dydd – mae’n ymwneud â faint o bobl sy’n bresennol ar unrhyw ddiwrnod neu mewn unrhyw sioe, ar unrhyw adeg. Nid yw’n cynnwys staff, contractwyr, perfformwyr neu wirfoddolwyr sy’n ymwneud â chynnal y digwyddiad.

Wrth benderfynu p’un a ddylid trin digwyddiadau fel rhai awyr agored ai peidio, dylid ystyried unrhyw gyfleuster dan do ar y safle y gallai pobl ymgasglu ynddo am y rhan fwyaf o’r diwrnod (er enghraifft, cyfleuster lletygarwch). Mewn rhai amgylchiadau, gall hyn olygu y dylid trin y digwyddiad fel un dan do. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried bod ardal lle mai ei hunig ddiben yw darparu bwyd a diod tecawê i’w bwyta a’u hyfed yn yr awyr agored yn y digwyddiad, a darpariaeth toileday, yn ddigwyddiad dan do.

Clybiau nos a lleoliadau tebyg

Bydd y gofyniad i wirio pasys COVID unigolion yn berthnasol i glybiau nos a lleoliadau lle caiff cerddoriaeth ei chwarae ar gyfer dawnsio – ond dim ond os ydynt wedi’u hawdurdodi i weini neu gyflenwi alcohol a’u bod ar agor ar unrhyw adeg rhwng hanner nos a 5 a.m.

Mae’r gofyniad i gael pàs COVID yn berthnasol i glybiau nos a lleoliadau eraill lle caiff cerddoriaeth ei chwarae ar gyfer dawnsio – ond dim ond os ydynt wedi’u hawdurdodi i weini neu gyflenwi alcohol a’u bod ar agor ar unrhyw adeg rhwng hanner nos a 5 a.m. (ac mae’r gofyniad i fod â phàs COVID yn gymwys i’r fangre unrhyw adeg, gan gynnwys amseroedd y tu allan i’r oriau hyn, os ydynt ar agor ac yn chwarae cerddoriaeth i bobl ddawnsio).

Mae hyn yn golygu y byddai’n ofynnol i dafarn, er enghraifft, sydd â lle i ddawnsio ac sy’n dechrau chwarae cerddoriaeth o 3 p.m. ymlaen ac yn cau ar ôl hanner nos ofyn am basys COVID er mwyn cael mynediad o 3 p.m. o leiaf (yn gynt os bydd y rheini sy’n cael mynediad yn gynnar yn aros yno pan fydd y gerddoriaeth yn dechrau).

Fodd bynnag, ni fyddai’n rhaid i dafarn sydd â lle i ddawnsio ac sy’n cau cyn hanner nos ofyn am basys COVID er mwyn cael mynediad (oni bai eu bod yn cynnal unrhyw fath o ddigwyddiad i fwy na 500 o bobl lle nad ydynt i gyd yn eistedd).

Yn yr un modd, ni fydd yn ofynnol i dafarn heb le i ddawnsio ac nad yw’n darparu cerddoriaeth ar gyfer dawnsio ofyn am basys COVID er mwyn cael mynediad (oni bai ei fod yn cynnal digwyddiad i fwy na 500 o bobl lle nad ydynt i gyd yn eistedd, yna byddai’n destun y ddarpariaeth benodol honno a byddai gofyn i’r dafarn wirio pasys COVID unigolion)

Esemptiadau ac eithriadau

Bydd y gofynion ddim ond yn berthnasol wrth wirio pasys COVID aelodau’r cyhoedd sy’n mynd i’r lleoliadau a'r digwyddiadau hyn – ond nid staff, contractwyr, perfformwyr neu wirfoddolwyr sy’n ymwneud â chynnal y digwyddiad. Fodd bynnag, er mwyn diogelu eu hunain ac eraill, a’n helpu i gadw’r sector ar agor, dylai perchnogion lleoliadau a threfnwyr digwyddiadau ystyried annog pawb ar y safle i wneud prawf llif unffordd (LFT) ddwy waith yr wythnos fel rhan o’u Hasesiad Risg.

Isod, ceir enghreifftiau o’r mathau o fangreoedd sydd wedi’u hesemptio’n benodol o’r gofyniad. Mangreoedd a ddefnyddir at y dibenion canlynol:

  • digwyddiad yn yr awyr agor pan na fo’n ofynnol i berson gael tocyn neu dalu ffi er mwyn cael mynediad, a phan fo dau neu ragor o bwyntiau mynediad i’r safle (byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, arddangosfa tân gwyllt mewn parc cyhoeddus, neu marchnad ffermwyr)
  • protest neu biced
  • digwyddiad chwaraeon cyfranogiad torfol yn yr awyr agored (megis marathon, triathlon neu ras feicio)
  • dathlu priodas neu bartneriaeth sifil, neu fywyd person ymadawedig (ond dim ond ar yr adegau hynny pan y’u defnyddir at y dibenion hynny)

Ni fydd angen i’r bobl ganlynol ddarparu tystiolaeth er mwyn cael mynediad i leoliad neu ddigwyddiad:

  • pobl dan 18 oed
  • pobl sy’n gweithio, yn gwirfoddoli neu’n perfformio yn y lleoliadau

Pwerau gorfodi ac egwyddorion gorfodi

Mae Rheoliadau’r Coronafeirws yn nodi system benodol ac ar wahân ar gyfer gorfodi rheoliad 16. Mae hyn yn golygu bod swyddogion gorfodi yr awdurdodau lleol yn gallu mynnu bod rhai mesurau yn cael eu cymryd mewn perthynas â mangreoedd, ac maent yn gallu eu cau os yw hynny’n angenrheidiol. Gall fod angen cau naill ai am nad yw mesurau rhesymol yn cael eu cymryd neu oherwydd bod torri'r gofynion yn ddigon difrifol i gyfiawnhau cau mangre ar unwaith neu gyda dim ond rhybudd cyfyngedig iawn.

Mae’r system orfodi yn cael ei phennu yn Atodlenni 8 a 9 yn Rheoliadau’r Coronafeirws ac yn canolbwyntio ar “Hysbysiad Gwella Mangre” neu “Hysbysiad Cau Mangre” neu’r naill a’r llall, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

Gorfodi pasys COVID

Caiff yr angen i gydymffurfio â’r gofynion newydd i wirio tystiolaeth o statws brechu neu brofi mewn rhai lleoliadau ei orfodi yn yr un ffordd â’r angen i gydymffurfio â’r gofynion eraill dan reoliad 16 (cynnal asesiadau risg a rhoi mesurau rhesymol ar waith). Mae hyn yn golygu y bydd angen i fusnesau a digwyddiadau sicrhau bod eu trefniadau arfaethedig yn cael eu cynnwys yn eu hasesiadau risg pwrpasol, gan gynnwys cyfiawnhad o beth y maent yn ei ystyried yn fesur rhesymol.

Gallai enghreifftiau o ystyriaethau gynnwys:

  • a ydynt wedi ystyried amseroedd mynediad cyfnodol i glwb nos neu ddigwyddiad er mwyn gallu gwirio statws brechu neu brofi unigolion?
  • a oes digon o le i bobl gadw digon o bellter corfforol mewn unrhyw giw?

Mae trosedd ehangach hefyd wedi cael ei chyflwyno sy’n gysylltiedig â darparu tystiolaeth ffug neu gamarweiniol o statws brechu neu brofi, os bydd angen y dystiolaeth honno fel rhan o’r gofyniad i ddarparu tystiolaeth ar gyfer cael mynediad.

Lle ceir adroddiadau bod unigolion yn darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, bydd swyddog heddlu neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) yn gallu cymryd camau dan y Rheoliadau.

Hysbysiad Gwella Mangre

Pan ganfyddir diffyg cydymffurfio â'r gofynion o dan reoliad 16 mewn mangre, dylai'r swyddog gorfodi fel arfer geisio unioni'r diffyg cydymffurfio drwy ddull graddedig a chymesur o orfodi.   Lle y bo'n bosibl, dylid ceisio addysgu personau cyfrifol, rhoi cyngor a gweithredu anffurfiol cyn unrhyw gamau gorfodi eraill. Fodd bynnag, pan fo angen, dylid cyflwyno Hysbysiad Gwella Mangre.

Gellir cyflwyno'r hysbysiad hwn os yw'r swyddog gorfodi o'r farn bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau hynny, er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws.  Rhaid i'r hysbysiad bennu'r mesurau y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16. Rhaid i'r hysbysiad bennu terfyn amser ar gyfer cydymffurfio (dim llai na 48 awr) a nodi'r hawl i apelio.

Caiff swyddog gorfodi derfynu Hysbysiad Gwella Mangre os yw wedi'i fodloni bod y person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo wedi cymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad neu wedi cymryd camau angenrheidiol fel arall i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 pan ganiateir i'r fangre fod ar agor.

Hysbysiad Cau Mangre

Caiff swyddog gorfodi gyhoeddi "Hysbysiad Cau Mangre" i berson sy'n gyfrifol am fangre sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r fangre, neu ran o'r fangre, gael ei chau am hyd at 672 o oriau (28 diwrnod) ar y tro. Gellir gwneud hyn os bodlonir un o ddau amod: 

  1. Pan fo Hysbysiad Gwella Mangre wedi ei gyflwyno i'r person a bod y swyddog gorfodi o'r farn:
    • bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad o fewn yr amser penodedig, a
    • bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws
  2. Pan fo'r swyddog gorfodi o'r farn:
    • nad yw'r person yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16 a
    • bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod Hysbysiad Gwella Mangre wedi ei gyflwyno) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws

Pan fo Hysbysiad Gwella Mangre wedi ei gyflwyno, mae’n rhaid i’r Hysbysiad Cau Mangre nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodi yn ystyried:

  • nad ydynt wedi eu cymryd, a
  • y mae’n rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16

Pan na fydd Hysbysiad Gwella Mangre wedi'i gyflwyno, rhaid i'r Hysbysiad Cau Mangre nodi'r rhesymau pam y mae'r swyddog gorfodi o'r farn bod y person cyfrifol yn methu â chydymffurfio â rheoliad 16.

Yn y naill achos a’r llall, mae’n rhaid i’r Hysbysiad Cau Mangre nodi hefyd y rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodi yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws. Rhaid i'r hysbysiad bennu'r cyfnod y mae'r hysbysiad yn effeithiol ar ei gyfer (dim mwy nag 28 diwrnod o'r adeg y cyhoeddir yr hysbysiad) a rhoi manylion yr hawl i apelio.

Gall swyddog gorfodi hefyd gyhoeddi Hysbysiad Cau Mangre os yw o'r farn bod y person cyfrifol wedi methu â chymryd y mesurau a bennir mewn Hysbysiad Gwella Mangre o fewn y terfyn amser penodedig a naill ai:

  • mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i gyflwyno, neu
  • mae achos wedi’i ddwyn am drosedd Hysbysiad Cau Mangre sy’n cael effaith o’r amser y’i cyhoeddwyd neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad

Cyfyngiadau

Ni chaniateir cyflwyno Hysbysiad Cau Mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Terfynu

Caiff swyddog gorfodi derfynu Hysbysiad Cau Mangre os yw wedi'i fodloni bod y person y cyflwynwyd yr Hysbysiad iddo wedi cymryd y mesurau neu fel arall wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 pan ganiateir i'r fangre fod ar agor. Bydd hyn yn golygu nad yw'r gofyniad i gau'r fangre yn gymwys mwyach. 

Apeliadau

Caiff person y cyflwynir Hysbysiad Gwella Mangre neu Hysbysiad Cau Mangre iddo apelio i Lys Ynadon yn erbyn yr hysbysiad o fewn 7 diwrnod. Mae gan Lysoedd Ynadon ddisgresiwn i atal effaith Hysbysiad Gwella Mangre neu Hysbysiad Cau Mangre hyd nes y penderfynir ar apêl ond oni bai bod y Llys yn gwneud hynny, mae'r hysbysiad o dan apêl yn parhau i gael effaith a rhaid cydymffurfio ag ef. Ar apêl yn erbyn Hysbysiad Gwella Mangre neu Hysbysiad Cau Mangre, caiff Llys Ynadon:

  • gadarnhau’r penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad
  • cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith
  • addasu’r hysbysiad
  • gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol

Os yw’r Llys Ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw i ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad.

Caiff apêl gan y naill barti neu’r llall yn erbyn penderfyniad Llys Ynadon ar apêl o dan yr adran hon ei chyflwyno i Lys y Goron.

Rhoi Hysbysiadau Gwella a Chau Mangreoedd a therfyniadau

Rhoddir Hysbysiad Gwella Mangre, Hysbysiad Cau Mangre neu rybudd o derfynu'r naill hysbysiad neu'r llall i'r person y mae'n ymwneud ag ef drwy ddarparu copi ysgrifenedig i'r person hwnnw. Ond os nad yw'r person hwnnw yn y fangre y mae'r hysbysiad neu'r terfyniad yn ymwneud â hi, dylid rhoi copi i berson yn y fangre y mae'n ymddangos ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth sy'n cael ei wneud yn y fangre, neu os nad oes person o'r fath yn y fangre pan fydd yr hysbysiad i'w gyflwyno, gellir rhoi copi o'r hysbysiad mewn man amlwg yn y fangre.

Rhoi cyhoeddusrwydd i Hysbysiadau Gwella a Chau Mangreoedd

Pan fo Hysbysiad Gwella Mangre neu Hysbysiad Cau Mangre wedi'i gyflwyno, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyflwyno’r hysbysiad, rhaid i'r swyddog gorfodi—

  • arddangos copi o'r Hysbysiad ac arwydd cyfatebol yn y ffurflen a nodir isod (a ragnodir yn Atodlen 9 yn Rheoliadau’r Coronafeirws), mewn man amlwg ger pob mynedfa i'r safle a
  • trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.  

Rhaid i'r hysbysiad a'r arwydd y mae'n ofynnol eu harddangos a'u cyhoeddi barhau i gael eu harddangos a'u cyhoeddi cyhyd ag y byddant yn cael effaith. Dylid argraffu'r arwydd mewn lliw ym maint A4.

Hysbysiad gwella mangre

Image
Enforecement notice: improvement needed

 

Hysbysiad cau mangre

Image
Enforcement notice: premises closed

 

Hysbysiadau cosb benodedig

Gellir cyflwyno hysbysiad cosb benodedig am rai troseddau penodedig sy'n ymwneud â busnesau a gwasanaethau. Nodir y rhain yn rheoliad 42, ac maent yn cynnwys methu â chau busnes neu fangre pan ofynnir iddynt wneud hynny, yn dibynnu ar y Lefel Rhybudd sy'n gymwys a mangre drwyddedig sy'n gwerthu neu'n cyflenwi alcohol y tu allan i oriau a ganiateir. Yn bwysig, yng nghyd-destun gorfodi'r gofynion o dan reoliad 16, mae troseddau hefyd yn gymwys pan fo person yn cyflawni trosedd os yw heb esgus rhesymol:

  1. yn methu â sicrhau bod mangre y rhoddir hysbysiad cau arni ar gau ac na ddarperir unrhyw fusnes ac na ddarperir gwasanaeth yn y fangre nac oddi arni; neu
  2. yn methu â sicrhau nad oes unrhyw berson yn mynd i mewn i nac yn unrhyw fangre y rhoddir hysbysiad cau iddi; neu
  3. yn cuddio neu ddifrodi hysbysiad neu arwydd y mae'n ofynnol ei arddangos

Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei gyflwyno mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig, swm y gosb benodedig yw £1,000. Ond, os yw'r person y rhoddir hysbysiad cosb benodedig iddo mewn perthynas â throsedd busnes honedig eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol, mae'r swm yn cynyddu i £2,000 yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o'r fath, £4,000 am y trydydd a £10,000 ar gyfer y pedwerydd ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig dilynol a gafwyd.

Egwyddorion cyffredinol a chymorth ymarferol i asesu

Nodir yr egwyddorion cyffredinol ar gyfer gorfodi rheoliad 16 yn Atodiad 1 a gellir gweld rhestr o gwestiynau ymarferol i gynorthwyo swyddogion gorfodi i asesu a dorrwyd rheoliad 16 yn Atodiad 2.

Atodiad 1: egwyddorion gorfodi

Dylid cymhwyso'r egwyddorion canlynol wrth arfer pwerau i orfodi rheoliad 16: 

  • cymesuredd wrth weithredu
  • targedu camau gorfodi
  • dull gweithredu cyson       
  • tryloywder ynglŷn â sut mae swyddogion gorfodi yn gweithredu a'r hyn y gellir ei ddisgwyl, a
  • atebolrwydd am y camau a gymerwyd

Mae'r egwyddorion hyn yn berthnasol i orfodi ei hun ac i reoli gweithgareddau gorfodi yn gyffredinol.  Nid ydynt yn cael eu cymhwyso ar eu pennau eu hunain ond cânt eu llywio gan ddealltwriaeth o'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws.

Cymesuredd

Rhaid pwyso a mesur nifer o bethau wrth ystyried pa gamau i'w cymryd ac a yw'n gymesur – difrifoldeb y toriad, cost cydymffurfio, effeithiolrwydd y camau gorfodi, a'r amser a roddir i gydymffurfio. Dylid asesu hyn i gyd yng ngoleuni'r bygythiad difrifol a buan i iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig ag amlder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru ac i ddifrifoldeb unrhyw achos o dorri'r gyfraith.  

Mae cymhwyso'r egwyddor o gymesuredd yn golygu y dylai swyddogion gorfodi ystyried i ba raddau y mae personau cyfrifol wedi methu â bodloni'r gofynion yn rheoliad 16 a graddau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws, ac felly o’r risg neu ledaeniad coronafeirws, sydd wedi dilyn. Wrth ystyried cymesuredd, dylai’r cyd-destun ehangach o ran iechyd y cyhoedd a’r Lefel Rhybudd sydd mewn grym ar y pryd fod yn ystyriaeth allweddol.

Mae Rheoliadau’r Coronafeirws yn seiliedig ar y syniad o gymryd "mesurau rhesymol" a ddylai ynddo’i hun sicrhau dull cymesur. Mae'r cysyniad sefydledig o weithredu "i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol" yn berthnasol.  Mae'r penderfyniad ynghylch yr hyn sy'n rhesymol ymarferol i reoli'r risg o haint sy'n gysylltiedig â coronafeirws yn golygu arfer barn yng ngoleuni'r cyngor iechyd cyhoeddus presennol. 

Bydd swyddogion gorfodi, wrth ystyried digonolrwydd y mesurau amddiffynnol a gymerir, yn cydbwyso graddau'r risg yn erbyn cost, amser neu gymhlethdod y mesurau sydd eu hangen i leihau'r risg honno.  Ond oni ellir dangos bod y risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws yn ddibwys o'i gymharu â'r gost, rhaid i berson cyfrifol gymryd camau (a mynd i gostau) i leihau'r risg.

Bydd swyddogion gorfodi hefyd yn ystyried a yw'n briodol, gan ystyried i ba raddau na chydymffurfiwyd â rheoliad 16 a graddau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws a achosir gan y diffyg cydymffurfio hwnnw, i roi cyfle i unioni'r sefyllfa cyn cymryd camau ffurfiol. Fodd bynnag, dim ond pan fo'r toriad yn fach y dylid gwneud hyn, a dylai'r cyfnod a glustnodir fel cyfle i unioni'r sefyllfa fod yn fyr.

Gorfodi wedi'i dargedu

Dylid defnyddio dull wedi'i dargedu wrth benderfynu pa fangreoedd a gweithgareddau i'w monitro a'u harolygu'n rhagweithiol, gan ystyried ffactorau fel maint, math o weithgareddau, i ba ddiwydiant y mae’r sector yn perthyn, y boblogaeth sydd mewn perygl, y risgiau cysylltiedig i heintiau coronafeirws a chwynion am ddiffyg cydymffurfio a dderbyniwyd.  

Dylai adnoddau arolygu ac ymchwilio ganolbwyntio'n bennaf ar y gweithgareddau, y diwydiannau a'r sectorau hynny sy'n arwain at y risg fwyaf difrifol o ddod i gysylltiad, ble a phryd y mae peryglon coronafeirws yn cael eu rheoli leiaf, neu lle mae amheuaeth ynghylch cymhwysedd i reoli'r risg o ddod i gysylltiad. 

Ni fydd gweithgareddau risg isel, er enghraifft gweithgareddau sy'n digwydd yn yr awyr agored ac mewn amgylchedd rheoledig, yn flaenoriaeth, yn gyffredinol.

Bydd gorfodi wedi'i dargedu hefyd yn dibynnu ar y Lefel Rhybudd sydd ar waith a'r fangre a ganiateir i agor neu weithgareddau a ganiateir yn gyfreithiol. Er enghraifft, ar Lefel Rhybudd 4, gall gorfodaeth ganolbwyntio ar fanwerthu hanfodol. Gall y flaenoriaeth orfodi newid mewn lefelau is i fusnesau a gwasanaethau na chaniatawyd iddynt agor ar lefelau rhybudd uwch. Er enghraifft, ar lefel rhybudd dau, efallai y bydd angen mwy o ffocws ar leoliadau adloniant ac atyniadau i ymwelwyr.

Cysondeb

Dylid mabwysiadu dull cyson o orfodi'r gofynion o dan reoliad 16 ar draws gwahanol fangreoedd, lleoliadau a gweithgareddau, gan gydnabod pwysigrwydd triniaeth deg i bawb.  Fodd bynnag, nid yw cysondeb dull gweithredu o reidrwydd yn golygu unffurfiaeth.  Mae'n golygu cymryd ymagwedd debyg mewn amgylchiadau tebyg i gydymffurfio â'r gyfraith, gan gydnabod efallai na fydd yn briodol mynnu'r un mesurau ym mhob achos.

Gall sicrhau cysondeb fod yn anodd.  Mae pob sefyllfa'n wahanol – yn rhinwedd y math o weithgaredd busnes, y fangre lle mae'r gweithgaredd hwnnw'n cael ei wneud, y diwydiant, nodweddion y boblogaeth sydd mewn perygl a'r risgiau a gyflwynir gan coronafeirws. Rhoddir elfen o ddisgresiwn i'r personau sy'n gyfrifol i benderfynu pa fesurau rhesymol y dylid eu cymryd ym mhob achos.

Felly, mae unrhyw benderfyniad gorfodi yn gofyn am arfer disgresiwn a barn broffesiynol unigol yn briodol.

Tryloywder

Dylai camau gorfodi amlinellu'n glir i berson cyfrifol nid yn unig yr hyn y mae'n rhaid iddo ei wneud ond, lle y bo'n berthnasol, yr hyn nad yw'n ei wneud.

Lle nodwyd diffyg cydymffurfio, dylai swyddogion gorfodi egluro'n glir ac yn brydlon y penderfyniad a wnaed, eu rhesymau, y camau sydd eu hangen i gydymffurfio ac egluro beth fydd yn digwydd os bydd person yn methu â chydymffurfio.

Bydd swyddogion gorfodi yn gwahaniaethu rhwng y camau sydd eu hangen i gydymffurfio â'r gyfraith, ac unrhyw gyngor a roddir i gyflawni arfer da. Bydd hyn yn sicrhau nad yw beichiau economaidd diangen yn cael eu gosod ar fusnesau.

Atodiad 2: asesiad ymarferol o’r gofynion cyfreithiol

Asesu diffyg cydymffurfio

Wrth benderfynu a fydd angen cymryd camau gorfodi, neu pa gamau gorfodi penodol i'w cymryd, bydd gofyn i swyddogion gorfodi ystyried nifer o ffactorau ac arfer eu barn yn unol â hynny.  Gall y rhain gynnwys:

  • y risg y mae'r diffyg cydymffurfio yn ei achosi i ledaeniad coronafeirws
  • i ba raddau y mae'n rhesymol credu nad yw person sy'n gyfrifol yn ymwybodol o'r gofynion ac y dylid rhoi cyfle iddo gydymffurfio  
  • unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod methiant i gydymffurfio yn fwriadol ei natur neu’n deillio o ymddygiad byrbwyll neu fod gwybodaeth ffug wedi'i darparu’n fwriadol, neu y bu bwriad i dwyllo
  • a roddwyd rhybudd
  • a yw'r methiant i gydymffurfio yn rhywbeth a ddigwyddodd unwaith yn unig neu a wnaed hynny fwy nag unwaith
  • amgylchiadau gwaethygedig megis rhwystro swyddog neu ymddygiad ymosodol tuag at y cyhoedd
  • sut mae eraill mewn sefyllfa debyg wedi cael eu trin

Yn ogystal, dylid ystyried y cwestiynau mwy penodol canlynol wrth asesu a yw'r holl fesurau rhesymol wedi'u cymryd, a darparu gwybodaeth, yn unol â rheoliad 16.

Dyletswydd i gynnal asesiad risg penodol o'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws

Mae egwyddor asesu risg wedi'i hen sefydlu yn y Gyfraith Iechyd a Diogelwch. Wrth asesu cydymffurfiaeth â’r gofyniad hwn, dylid cyfeirio at Reoli ar gyfer iechyd a diogelwch (HSG65) (hse.gov.uk) a chanllaw asesu risg yr HSE.

A yw pobl sy'n gweithio yn y fangre yn ymwybodol o'r asesiad risg, y cynnwys ac unrhyw fesurau lliniaru?

A yw pobl yn glynu/gweithredu at y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr asesiad risg?

Pa addasiadau sydd wedi'u gwneud o ganlyniad i'r asesiad risg?

A ymgynghorwyd â chyflogeion neu gynrychiolwyr ynglŷn â'r asesiad risg?

A yw'r asesiad risg yn ystyried hierarchaeth rheolaethau a amlygir gan yr HSE?

Cadw pellter corfforol

A oes ystyriaeth wedi bod i opsiynau i leihau nifer y bobl sy'n bresennol yn gorfforol yn y fangre (neu sy'n aros i fynd i mewn i'r fangre) ac (os yw'n berthnasol) wedi eu gweithredu? Gallai hyn gynnwys:

  • galluogi staff i weithio gartref
  • trefnu gwaith shifft er mwyn lleihau nifer y staff sy'n bresennol yn y fangre ar unrhyw un adeg
  • darparu gwasanaethau dosbarthu neu wasanaeth clicio a chasglu o ran benodol o'r fangre
  • darparu gwasanaethau neu drefnu cyfarfodydd o bell
  • gwneud unrhyw beth arall a wnaed yn flaenorol neu fel arfer yn y fangre o bell

A oes system ar waith i wybod faint o bobl sydd yn y fangre?

A gyfrifwyd uchafswm diogel o bobl sy'n eu galluogi i gadw pellter corfforol yn y fangre?

A oes mecanwaith rheoli ar waith i sicrhau na ragorir ar yr uchafswm diogel?

A oes angen cyfyngu'n rheolaidd ar nifer y bobl yn y fangre?

Os felly, sut mae hynny'n cael ei wneud? A oes system giwio?

A oes system ar gyfer cadw pellter corfforol ymhlith y rhai sy'n ciwio, naill ai mewn rhannau awyr agored o'r fangre neu oddi ar y fangre?

A ellir rhoi system apwyntiadau ar waith?

A yw pwyntiau mynediad ac ymadael yn cael eu rheoli er mwyn osgoi tagfeydd neu gysylltiad agos? A ellir defnyddio dau bwynt gwahanol i alluogi pobl i gael mynediad mewn un man ac i ymadael mewn man arall?

A yw tramwyfeydd a grisiau'n cael eu rheoli er mwyn osgoi tagfeydd neu ryngweithio agos? A ddylid mabwysiadu systemau un ffordd neu aildrefnu dodrefn i hwyluso hyn?

Sut mae mynediad i lifftiau yn cael ei reoli? A all mynediad i lifftiau fod yn gyfyngedig?

A ellir gosod y lleoliad y mae pobl yn gweithio ynddo (os yw'n sefydlog) ymhellach ar wahân? A ellir mabwysiadu parthau i leihau neu atal y cysylltiad rhwng pobl â’i gilydd?

A ellir defnyddio dodrefn neu labeli ar ddodrefn i nodi lle y dylai pobl weithio?

A ellir tynnu dodrefn diangen neu ffitiadau eraill i ddarparu mwy o le ac i atal pobl rhag defnyddio'r lle sydd ar gael mewn modd amhriodol?

Pa gamau y gellir eu cymryd i gadw pellter corfforol rhwng y cyhoedd ac unrhyw gyflogeion sy'n dod i gysylltiad agos â’r cyhoedd yn rheolaidd?

A ddylai mynediad i unrhyw ran o'r fangre sy'n dueddol o gael tagfeydd neu lle mae pobl yn dod i gysylltiad agos gael ei gyfyngu neu ei atal lle na ellir bob amser cadw pellter corfforol, neu lle na ellir sicrhau hyn?

Awyru

Mae gwella awyru yn fesur arbennig o bwysig. Bydd cynnal gweithgareddau yn yr awyr agored yn darparu awyru naturiol. Gellid darparu awyru naturiol dan do drwy agor drysau a ffenestri os nad yw hyn yn mynd yn groes i ofynion diogelwch tân. Bydd gwelliannau mewn awyru mecanyddol hefyd yn helpu i leihau risgiau os cânt eu gwneud yn effeithiol.

Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) y gwneir darpariaeth effeithiol ac addas i sicrhau bod pob gweithle caeedig yn cael ei awyru gan ddigon o aer ffres neu aer wedi’i buro. Mae gan Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu ganllawiau ar yr hyn sy'n "ddigonol", y cyfeirir ato yng nghanllawiau COVID yr HSE.

Gall awyru weithio ar y cyd â mesurau eraill megis lleihau hyd gweithgareddau neu gyfyngu arnynt, a gwell defnydd o orchuddion wyneb mewn lleoliadau sydd â risg uwch o drosglwyddo aerosol.

Mae'n bwysig nodi ardaloedd nad ydynt wedi'u hawyru'n dda ac ymdrin â nhw. Y mwyaf o bobl sydd mewn ardal sydd wedi'i hawyru'n wael, a'r hiraf y maent yn aros ynddi, y mwyaf yw'r risg o ledaenu’r coronafeirws.

Gellir sicrhau bod cymaint o awyr iach â phosibl drwy:

  • awyru naturiol
  • awyru mecanyddol
  • cyfuniad o awyru naturiol a mecanyddol, er enghraifft, pan mae awyru mecanyddol yn dibynnu ar awyru naturiol i sicrhau cymaint o awyr iach â phosibl

A dylai asesiadau risg ystyried y canlynol:

  • awyru awyr iach effeithiol, ochr yn ochr â gorchuddion wyneb, cadw pellter ac arferion hylendid gwell
  • lleihau hyd gweithgareddau dan do neu gyfyngu arnynt
  • cynllun yr ystafell
  • defnyddio ystafelloedd ag awyru da ac osgoi defnyddio'r rhai sydd heb hynny
  • defnyddio systemau monitro ansawdd aer a dyfeisiau glanhau aer addas i wella ansawdd yr aer dan do
  • sicrhau bod systemau awyru mecanyddol yn cael eu cynnal a’u cadw yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
  • osgoi awyru sydd ond yn ailgylchu aer
  • os na ellir osgoi ffaniau bwrdd neu bedestal, sicrhau nad yw aer yn cael ei chwythu oddi wrth un person (neu grwpiau o bobl) at berson arall (neu grŵp o bobl) drwy ddod ag aer i mewn o'r tu allan yn rheolaidd drwy agor ffenestri neu ddrysau
  • defnyddio ffaniau nenfwd ac awyr iach i wella cylchrediad aer o'r tu allan ac osgoi pocedi o aer segur sy'n ffurfio dan do

Dylai cyflogwyr roi arweiniad clir i weithwyr ar awyru, pam y mae'n bwysig, a chyfarwyddyd ar sut i sicrhau a chynnal awyru naturiol da neu ar sut i weithredu’r systemau os yw’r dyfeisiau rheoli yn rhai y mae modd i’r staff eu defnyddio.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru ac ychwanegu at ei gyngor er mwyn helpu cyflogwyr i ddarparu awyru digonol yn eu gweithleoedd a'u hadeiladau yn ystod y pandemig. Mae hefyd yn rhoi arweiniad ar ffactorau eraill i'w hystyried wrth asesu'r risg o drosglwyddo’r feirws drwy aerosol, ac wrth benderfynu a oes digon o awyru i leihau'r risg honno. Mae cyngor pellach gan yr HSE i’w weld yma

Ceir cyngor ac arweiniad pellach i gyflogwyr, rheolwyr adeiladu a'r rhai sy'n gyfrifol am weithleoedd, adeiladau cyhoeddus annomestig isod:

Mabwysiadu mesurau eraill i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws

Lle na ellir osgoi cysylltiad agos rhwng pobl:

  • a all ei hyd fod yn gyfyngedig?
  • a ellir atal cysylltiad wyneb yn wyneb agos?
  • a all hyd y cysylltiad agos wyneb yn wyneb fod yn gyfyngedig?
  • a ellir lleihau agosrwydd y cysylltiad wyneb yn wyneb?
  • a ellir rhoi sgriniau ar waith?
  • a fyddai gwisgo cyfarpar diogelu personol yn ddichonadwy ac yn effeithiol?
  • a ellir gwneud gweithgareddau, neu wasanaethau a ddarperir, yn yr awyr agored yn hytrach na dan do?

I ba raddau y mae unrhyw weithgareddau a gyflawnir yn y fangre yn golygu lefelau uchel o ymarfer (er enghraifft, pobl allan o anadl oherwydd ymarfer corff)? A yw hyn wedi'i ystyried? A yw'r ardal wedi'i hawyru'n dda? A yw awyru (neu ddyfeisiau oeri fel ffaniau) yn cael eu defnyddio'n briodol?

A ddylid atal rhai gweithgareddau yn y fangre os na ellir lliniaru'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws oherwydd cysylltiad agos rhwng pobl â’i gilydd?

Pa systemau sydd ar waith i sicrhau nad yw cyfyngiadau coronafeirws, megis peidio ag ymgynnull o dan do gyda'r rhai nad ydynt ar aelwyd person, yn cael eu torri yn y fangre?

Gwella hylendid

A oes cyfleusterau golchi dwylo ychwanegol wedi'u rhoi ar waith?

A yw hylif diheintio dwylo ar gael mewn mannau cyfleus, yn enwedig wrth fynedfeydd ac allanfeydd?

A yw'r defnydd o gyfleusterau a rennir fel toiledau a cheginau yn cael ei reoli? A yw hylif diheintio dwylo ar gael i bobl cyn defnyddio cyfleusterau a rennir?

A all nifer y bobl sy'n mynd i gyfleusterau a rennir fod yn gyfyngedig?

A yw cyfleusterau a rennir yn cael eu glanhau'n aml? (Yr amlder priodol yn dibynnu ar faint y defnydd).

A oes systemau ar waith i atal neu gyfyngu ar bobl sy'n cyffwrdd â gwrthrychau neu arwynebau, neu’n rhannu gwrthrychau?

A ellir mabwysiadu trefniadau talu ymlaen llaw neu dalu heb arian parod (lle bo'n berthnasol)?

Darparu gwybodaeth i helpu pobl i ymddwyn yn briodol

A oes arwyddion i'w gweld yn glir yn atgoffa'r rhai yn y fangre i gadw pellter corfforol a chynnal hylendid da?

A oes arwyddion neu farcwyr ar waith i helpu pobl i gadw pellter corfforol?

A oes arwyddion i'w gweld yn glir gan esbonio systemau a roddwyd ar waith ar gyfer:

  • cael mynediad ac ymadael
  • llywio tramwyfeydd a grisiau (gan gynnwys systemau un ffordd)
  • defnyddio cyfleusterau a rennir
  • defnyddio lifftiau

Os oes angen defnyddio gorchuddion wyneb neu gyfarpar diogelu personol arall ac a oes arwyddion ar waith yn atgoffa pobl o'r angen i wneud hyn?

A yw dodrefn wedi'u labelu'n glir fel rhai sy'n briodol i'w defnyddio ai peidio (os na ellir eu symud o’r fangre)?

A ydy parthau a ddefnyddir ar gyfer cadw pellter corfforol wedi'u marcio'n glir?

A oes arwyddion ar waith yn tynnu sylw at gyfleusterau golchi dwylo neu hylif diheintio dwylo, ac yn atgoffa pobl i olchi eu dwylo'n aml?

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 230 KB.

Maint Ffeil 230 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.