Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Chwefror 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 38 MB
Mynegai ymatebion , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 941 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi lansio ymgynghoriad sef · 'Mesurau Rheoli Newydd Arfaethedig ar gyfer y Bysgodfa Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion'. Noder mai ail-lansiad yw hwn felly mae'r dyddiad cau wedi ei ymestyn.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
O dan y mesurau rheoli cyfredol ar gyfer cregyn bylchog yn y safle gwarchodedig ym Mae Ceredigion (Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Ceredigion) dim ond un ardal o fewn yr ACA y gellir ei hagor am gyfnod cyfyngedig bob blwyddyn er mwyn gallu llusgrwydo cregyn bylchog. Daeth y mesurau hyn i rym yn 2010 ac roeddent yn seiliedig ar y dystiolaeth gyfyngedig oedd ar gael adeg eu creu.
Mae Prifysgol Bangor wedi cynnal rhaglen ymchwil yn cynnwys Arbrawf Dwysedd Pysgota Cregyn Bylchog dros 2 Flynedd. Mae’r dystiolaeth newydd hon yn cefnogi pysgodfa wedi’i rheoli yn yr ardal o’r ACA lle mae pysgota wedi’i wahardd ar hyn o bryd.
Bellach mae Llywodraeth Cymru am greu pysgodfa cregyn bylchog hyfyw a chynaliadwy o fewn yr ardal honno o ACA Bae Ceredigion lle na chaniateir pysgota ar hyn o bryd. Ein bwriad yw cyflwyno system reoli newydd hyblyg a ddylai sicrhau cyflenwad cynaliadwy o gregyn bylchog yn y dyfodol tra’n diogelu rhywogaethau a chynefinoedd morol pwysig.