Neidio i'r prif gynnwy

Chyrchfannau dysgwyr ar gyfer sefydliadau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ay gyfer Awst 2020 i Orffennaf 2021.

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar gyrchfannau dysgwyr ôl-16 (hynny yw, yr hyn y mae dysgwyr yn ei wneud ar ôl iddynt gwblhau eu rhaglen ddysgu), gan gynnwys y dysgwyr hynny sy'n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith.

Mae'n rhan o gyfres o dri mesur perfformiad cyson a ddatblygwyd ar gyfer addysg ôl-16. Mae adroddiad ar wahân yn rhoi gwybodaeth am gyflawniad dysgwyr. Ystadegau swyddogol dan ddatblygiad yw’r rhain ac fe fyddwn yn ymgynghori ymhellach gyda darparwyr dysgu ynghylch y fethodoleg.

Mae'r datganiad hwn yn darparu ystadegau ddysgwyr yn 2020/21 a'u cyrchfannau’r flwyddyn ganlynol, felly, mae'n cwmpasu cyfnod o'r pandemig coronafeirws ac yn dangos yr effaith bosibl ar y dysgwyr hyn.

Ffigur 1: Cyrchfannau dysgwyr ôl-16, 2014/15 i 2020/21

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart llinell hon yn dangos cynnydd bach o ran cyrchfan barhaus ers 2014/15, gan gyrraedd 86% yn 2020/21. Mae gan fwy o ddysgwyr gyrchfan gyflogaeth barhaus na chyrchfan ddysgu barhaus ym mhob blwyddyn. Roedd gostyngiad mewn cyflogaeth barhaus a chynnydd mewn dysgu parhaus yn 2019/20. Arhosodd y gyfradd dysgu parhaus yn sefydlog yn 2020/21 (sef 49%) a dychwelodd cyflogaeth barhaus i gyfraddau cyn 2019/20 (sef 62%).

Ffynhonnell: Astudiaeth Hydredol Canlyniadau Addysg

(r) Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi'u diwygio gyda'r data diweddaraf, gweler yr adran am wybodaeth ansawdd am fanylion

Prif bwyntiau

O’r 110,895 o ddysgwyr a gwblhaodd raglen ddysgu yn 2020/21:

  • Roedd gan 86% gyrchfan barhaus yn 2021/22 i naill ai cyflogaeth neu ddysgu, sydd 1 pwynt canran yn uwch na dysgwyr 2019/20.
  • Roedd 62% mewn cyflogaeth barhaus, sydd 6 pwynt canran yn uwch na dysgwyr 2019/20 ac roedd 49% yn dysgu’n barhaus, sydd yr un fath â llynedd.

Mae'n bosibl bod y gostyngiad mewn cyflogaeth barhaus yn 2019/20 wedi digwydd oherwydd yr amhariad a achoswyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae cyfraddau cyrchfan barhaus, cyflogaeth barhaus a dysgu parhaus ar gyfer dysgwyr 2020/21 gyda’r uchaf yn ystod 7 mlynedd y dadansoddiad hwn.

Mae'r gyfradd cyrchfan barhaus wedi cynyddu'n raddol o 83% yn 2014/15 i 86% yn 2021/22.

Mae’r gyfradd cyrchfannau cyflogaeth parhaus wedi amrywio o 56% yn 2019/20 i 62% yn 2017/18, 2018/19 a 2020/21.

Mae’r gyfradd dysgu’n barhaus wedi amrywio o 44% yn 2014/15 i 49% yn 2016/17, 2019/20 a 2020/21.

Adroddiadau

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyrchfannau dysgwyr): Awst 2020 i Orffennaf 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyrchfannau dysgwyr): Awst 2020 i Orffennaf 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 30 KB

ODS
Saesneg yn unig
30 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rebecca Armstrong

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.