Neidio i'r prif gynnwy

Chyrchfannau dysgwyr ar gyfer sefydliadau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ay gyfer Awst 2016 i Orffennaf 2017.

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar gyrchfannau dysgwyr ôl-16 (hynny yw, yr hyn y mae dysgwyr yn ei wneud ar ôl iddynt gwblhau eu rhaglen ddysgu), gan gynnwys y dysgwyr hynny sy'n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith.

Mae'r siart bar hwn yn dangos cyrchfannau dysgwyr ôl-16 am y blynyddoedd academaidd 2014/15 i 2016/17.   Mae'n dangos bod gan 83% o'r holl ddysgwyr a oedd yn gadael addysg ôl-16 yn 2016/17 gyrchfan barhaol yn 2017/18, gyda 81% yn 2015/16 a 82% yn 2014/15.

Prif bwyntiau

O’r 114,740 o ddysgwyr a gwblhaodd raglen ddysgu yn 2016/17:

  • Roedd gan 83% gyrchfan barhaus yn 2017/18 i naill ai cyflogaeth neu ddysgu, sydd ddau bwynt canran yn uwch na dysgwyr 2015/16 ac un pwynt canran yn uwch na 2014/15
  • Roedd 57% mewn cyflogaeth barhaus, a 41% o’r rheiny hefyd yn dysgu’n barhaus
  • Roedd 49% yn dysgu’n barhaus, a 47% o’r rheiny hefyd mewn cyflogaeth barhaus

Gwybodaeth bellach

Mae'n rhan o gyfres o dri mesur perfformiad cyson a ddatblygwyd ar gyfer addysg ôl-16. Mae adroddiad ar wahân yn rhoi gwybodaeth am gyflawniad dysgwyr. Data arbrofol yw’r rhain ac fe fyddwn yn ymgynghori ymhellach gyda darparwyr dysgu ynghylch methodoleg.

Adroddiadau

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: cyrchfannau dysgwyr, Awst 2016 i Orffennaf 2017 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 634 KB

PDF
Saesneg yn unig
634 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: cyrchfannau dysgwyr, Awst 2016 i Orffennaf 2017 (ystadegau arbrofol): tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 35 KB

ODS
Saesneg yn unig
35 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.