Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar gyfraddau cwblhau a llwyddo dysgwyr ar raglenni galwedigaethol, rhaglenni addysg gyffredinol (gan gynnwys Safon Uwch) a Bagloriaeth Cymru ar gyfer Awst 2021 i Orffennaf 2022.

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â deilliannau ar gyfer addysg gyffredinol ac addysg alwedigaethol yn y chweched dosbarth ac mewn colegau.

Prif bwyntiau

Mae deilliannau dysgwyr mewn addysg gyffredinol (Safon Uwch) wedi gwella ar y cyfan o'i gymharu â chyn y pandemig. Mae deilliannau ar gyfer dysgwyr galwedigaethol wedi bod yn waeth.

Newidiwyd y ffordd yr oedd arholiadau ac asesiadau yn cael eu cynnal a'u dyfarnu yn ystod y pandemig. Roedd cyfnod arholiadau 2021/22 yn flwyddyn drosiannol i ddysgwyr. O ran arholiadau, nid oedd pethau wedi dychwelyd i union fel yr oeddent cyn y pandemig. Mae mwy o gyd-destun ar gael yn y datganiad.

Addysg gyffredinol

Roedd y graddau i ddysgwyr yn uwch ym mhob pwnc o gymharu â 2018/19.

Daeth y cynnydd mwyaf o'r graddau canol ac uwch:

  • llwyddodd 20% o'r dysgwyr llawn amser a ddechreuodd gymhwyster Safon UG ym mlwyddyn academaidd 2020/21 i ennill cymwysterau cyfwerth â thair Safon Uwch graddau A* i A yn 2021/22, o gymharu â 9% yn 2018/19
  • llwyddodd 58% i gael o leiaf tair gradd A* i C, o gymharu â 42% yn 2018/19
  • llwyddodd 75% i gael tri neu ragor o gymwysterau Safon Uwch o unrhyw radd, o gymharu â 65% yn 2018/19

Roedd canran y dysgwyr a gwblhaodd eu cymhwyster UG ac a aeth ymlaen i'w hail flwyddyn Safon Uwch yn uwch na chyn y pandemig.

Roedd y deilliannau yn llai cyfartal na chyn y pandemig:

  • ni welwyd yr un lefel o gynnydd mewn graddau ymhlith dysgwyr o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Cymraeg a Du Prydeinig o gymharu â dysgwyr eraill
  • cynyddodd graddau fwy ymysg dysgwyr iau
  • fe wnaeth y bwlch rhwng dysgwyr o'r cymdogaethau mwyaf difreintiedig a'r cymdogaethau lleiaf difreintiedig dyfu

Roedd dysgwyr a oedd yn astudio Mathemateg, Cemeg, Bioleg a Ffiseg yn arbennig o debygol o gael graddau uchel. Cafodd hanner y dysgwyr mathemateg a oedd yn eu hail flwyddyn Safon Uwch radd A o leiaf.

Addysg alwedigaethol

Roedd deilliannau ar gyfer dysgwyr galwedigaethol yn is nag yn 2018/19 ar draws pob lefel o ddysgu:

  • cwblhawyd 84% o raglenni llawn amser yn 2021/22, o gymharu ag 88% yn 2018/19
  • cyflawnwyd 74% o'r prif gymwysterau galwedigaethol yn llwyddiannus, o gymharu ag 80% yn 2018/19

Roedd deilliannau lefel 3 yn is nag yn 2018/19, yn wahanol i'r deilliannau yn ystod dwy flynedd y pandemig pan oeddent yn uwch.

Roedd y cwymp mwyaf mewn cyfraddau llwyddo ymhlith dysgwyr Gwyddorau Cymdeithasol; Gwyddoniaeth a Mathemateg; Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus, a Gofal; a Thechnolegau Peirianneg a Gweithgynhyrchu.

Fel arfer roedd gan ddysgwyr 16 oed, a rhwng 20 a 24 oed, gyfraddau llwyddo uwch na dysgwyr eraill yn 2018/19, ond nid dyna'r sefyllfa yn 2021/22.

Roedd llai o fwlch yn y deilliannau i ddysgwyr o ardaloedd mwy difreintiedig nag yn 2018/19.

Bagloriaeth Cymru

Roedd deilliannau ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn well na chyn y pandemig i ddysgwyr ar raglenni addysg gyffredinol, ond nid i ddysgwyr galwedigaethol.

Nodyn

Ni chynhyrchwyd y mesurau perfformiad safonol ym mlynyddoedd academaidd 2019/20 a 2020/21 oherwydd y tarfu a achoswyd gan y pandemig. Yn hytrach, cynhyrchwyd adroddiadau arbennig ar Ddeilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Ni ellir cymharu'r ystadegau hynny â'r adroddiad hwn.

Adroddiadau

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyflawniad): Awst 2021 i Orffennaf 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Thomas Rose

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.