Heddiw, bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, yn cyhoeddi mesurau newydd i ychwanegu at lwyddiant Cymru ac i wella’r cyfraddau ailgylchu ymhellach.
Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi y bydd mwy na £50 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei ddarparu dros y tair blynedd nesaf i helpu i newid gwasanaethau ac i ddarparu seilwaith newydd yng Nghymru.
Bydd ymgyrch newid ymddygiad a gorfodi gwerth £500,000 yn cael ei chyflwyno i godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'r hyn ddylai aelwydydd ei ailgylchu. Byddwn yn gwneud hynny drwy weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a WRAP. Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod modd ailgylchu mwy na hanner y gwastraff sy'n cael ei roi mewn biniau du yng Nghymru.
Bydd y Gweinidog yn cadarnhau na fydd grantiau ailgylchu awdurdodau lleol yn cael eu cwtogi i ariannu gwasanaethau eraill a bydd £15.5 miliwn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i wella casgliadau ym Mro Morgannwg, Sir Benfro a Sir Ddinbych.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu ymgynghori ar ganllawiau statudol newydd ar gyfer awdurdodau lleol. Bwriedir cyflwyno rheoliadau newydd i'w gwneud yn ofynnol i fusnesau roi eu gwastraff yn y biniau cywir fel sydd eisoes yn digwydd mewn cartrefi.
Bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar Gynllun Dychwelyd Ernes a Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr cyn y Nadolig. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn trafod gyda Llywodraeth y DU fesurau trethu posibl i fynd i'r afael â gwastraff plastig, gan gynnwys y posibilrwydd o godi treth ar blastigau untro.
Mae'r ffigyrau blynyddol diweddaraf yn dangos bod cyfradd ailgylchu gwastraff trefol bellach yn 63%, o gymharu â'r targed cenedlaethol o 58%. Cymru yw'r gorau yn y DU, y gorau ond un yn Ewrop a'r gorau ond dau yn y byd am ailgylchu.
Dywedodd Hannah Blythyn:
"Mae ailgylchu yn stori lwyddiant i Gymru ac mae'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono. Mae pobl Cymru wedi croesawu'r angen i ailgylchu ac mae Llywodraeth Cymru a'n partneriaid wedi cefnogi hynny drwy bolisïau arloesol, cymorth ariannol ac ymgyrchoedd addysgol.
"Ond rydym am wneud mwy. Bydd angen mwy o gymorth ac ymyriadau mwy dwys ac unedig os ydym am wella'r cyfraddau ailgylchu ymhellach. Dyna pam rwy’n cyhoeddi mesurau newydd heddiw i ychwanegu at y llwyddiant hwn. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn darparu mwy na £50 miliwn o gyfalaf i gyflwyno seilwaith newydd ac yn y pen draw, i wireddu ein huchelgais. Rydym hefyd yn gweithio gyda llywodraethau lleol i gynyddu eu gallu i ailgylchu eitemau fel matresi, cewynnau, pren a thecstilau.
"Mae Cymru ar flaen y gad am ailgylchu yn y DU, ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Rydym am barhau i weithio gyda'n partneriaid, a phobl Cymru, i sicrhau mai ni yw'r gorau yn y byd, nid yn unig y DU, am ailgylchu."