Neidio i'r prif gynnwy

Cyn i dymor y sioeau ddechrau, mae mesurau newydd wedi eu cyflwyno ar gyfer Unedau Cwarantîn er mwyn diogelu ardaloedd TB isel ac i roi mwy o ryddid i geidwaid gwartheg ddangos eu hanifeiliaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers mis Hydref y llynedd, sefydlwyd Ardaloedd TB Isel, Canolradd ac Uchel yng Nghymru wedi ei seilio ar nifer yr achosion o TB. Lluniwyd y dull hwn o weithredu er mwyn diogelu buchesi mewn ardal TB Isel, er mwyn ceisio lleihau nifer yr achosion yn yr Ardaloedd TB Canolradd ac Uchel.

Mae’n ofynnol i wartheg sy’n dychwelyd i’r Ardal TB Isel o sioe heb ei heithrio yn Ardaloedd TB Canolradd neu Uchel yng Nghymru, neu Ardaloedd Risg Uchel neu Ffiniol yn Lloegr gael Prawf ar ôl Symud rhwng 60 a 120 o ddiwrnodau ar ôl iddynt ddychwelyd neu ôl iddynt gael eu symud. Hyd nes y bydd y gwartheg hyn yn cael prawf Ar Ôl Symud clir, ni chaiff y gwartheg symud oddi ar y daliad i fynd i sioeau eraill.  

Felly bydd gan geidwaid gwartheg mewn ardaloedd TB isel bellach yr hyblygrwydd i symud eu gwartheg sioe i Uned Gwarantîn Ardystiedig, a’u cadw yn yr Uned honno (pan nad ydynt mewn sioe) drwy gydol tymor y sioeau, hyd nes y cynhelir  Prawf ar ôl Symud  terfynol sy’n glir. Bydd hyn yn caniatáu i’r gwartheg gael eu symud sawl tro yn ystod tymor y sioeau. 

Bydd yn ofynnol i wartheg sioe gael prawf ar ôl Symud  rhwng 60 a 120 o ddiwrnodau ar ôl dychwelyd am y tro cyntaf o’u sioe gyntaf heb ei heithrio ac unwaith eto ar ôl dychwelyd am y tro olaf o sioe heb ei heithrio.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:  

“Ein blaenoriaeth yw dileu TB. Bydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau bod  gwartheg a buchesi yn yr Ardal TB Isel yn cael eu diogelu’n fwy.

“Mae Unedau Cwarantîn, a sefydlwyd mewn cydweithrediad â’r diwydiant yn cynnig lefel uchel o fioddiogelwch a chânt eu harchwilio er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal. Bydd gan geidwaid gwartheg mewn Ardal TB Isel bellach hyblygrwydd i ddefnyddio’r Unedau hyn i wneud sawl symudiad a dangos eu hanifeiliaid mewn sioeau yn ystod y tymor a byddwn ni’n gallu parhau i ddiogelu’r ardal rhag TB.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Dileu TB ynghyd â Chwestiynau Cyffredin ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.