Mae creu Comisiwn a fyddai'n gyfrifol am hybu'r Gymraeg ymhlith y cynigion sydd i'w gweld mewn Papur Gwyn a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, 9 Awst).
Mae’r Comisiynydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth roi y gyfundrefn Safonau ar waith i sicrhau argaeledd gwasanaethau Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ehangu ac adeiladu ar waith y Comisiynydd i ddod â’r gwaith o hybu a rheoleiddio’r Gymraeg at ei gilydd i sicrhau’r strwythurau mwyaf effeithlon i wireddu ein gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Taro'r cydbwysedd iawn: Cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg', yn nodi amryw gynigion sydd â'r nod o daro'r cydbwysedd iawn rhwng hybu'r Gymraeg a rheoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau tuag at y Gymraeg.
Mae’r argymhellion yn y Papur Gwyn yn cynnwys:
- Sefydlu Comisiwn y Gymraeg i drefnu a chydlynu'r gwaith o hybu'r iaith ledled Cymru.
- Ei gwneud yn gliriach i'r cyhoedd, cyrff cyhoeddus a busnesau at bwy y gallan nhw droi os ydyn nhw eisiau datblygu eu defnydd o'r Gymraeg.
- Rhoi mwy o eglurder i siaradwyr Cymraeg o ran pa wasanaethau y mae'n rhaid i gyrff eu darparu yn Gymraeg, a gweithio tuag at gynyddu'r defnydd o'r gwasanaethau hynny.
- Helpu cyrff i ddatblygu eu capasiti i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.
- Symleiddio'r prosesau o lunio Safonau'r Gymraeg a'u gorfodi, a chael gwared ar y fiwrocratiaeth sy'n rhan o ddelio â diffyg cydymffurfiaeth cyrff â'r Safonau er mwyn sicrhau bod achosion yn cael eu hunioni'n gyflym.
- Bod Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am osod Safonau ar gyrff drwy reoliadau a hysbysiadau cydymffurfio. Bod Comisiwn y Gymraeg yn gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth â'r Safonau.
- Cael gwared â'r cyfyngiadau yn y ddeddfwriaeth bresennol fel bod modd gosod Safonau ar unrhyw gorff, cyn belled â bod hynny o fewn pwerau'r Cynulliad.
Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
“Yn gynharach eleni, gofynnais i sefydliadau o bob cwr o Gymru rannu eu barn â ni am Fesur a Safonau presennol y Gymraeg. Roedd yr ymatebion a ddaeth i law yn dangos bod cefnogaeth gyffredinol i'r Safonau a'u heffaith gadarnhaol ar wasanaethau Cymraeg. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y gwaith caled mae'r Comisiynydd a'i staff wedi'i wneud wrth gyflwyno'r Safonau i gyrff ledled Cymru.
“Er hyn, roedd yr ymatebion hefyd yn tynnu sylw at y fiwrocratiaeth sydd ynghlwm â'r Safonau. Gwnaeth hyn inni feddwl nad ydyn ni wedi taro'r cydbwysedd iawn rhwng y gwaith o hybu'r Gymraeg ar yr un llaw, a rheoleiddio gwasanaethau Cymraeg ar y llaw arall.
“Mae'r cynigion hyn yn y Papur Gwyn yn adlewyrchu'r adborth hwn. Ry'n ni eisiau canolbwyntio o’r newydd ar y gwaith hybu, ynghyd â newid sut mae system y Safonau'n gweithio i sicrhau ei bod yn rhoi hawliau i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosib. Dw i'n credu y bydd Comisiwn y Gymraeg yn gyfrwng cryf i gyflawni’r ddwy nod.
“Byddaf yn edrych i wneud gwelliannau i'r broses Safonau tra ein bod yn cytuno cyfeiriad polisi y dyfodol ac yn paratoi’r ddeddfwriaeth angenrheidiol i’w roi ar waith. Fel y dywedais yn fy natganiad ar 19 Gorffennaf rydw i’n parhau’n ymroddedig i gyflwyno'r Safonau a byddaf yn gosod rheoliadau Safonau ar gyfer cyrff iechyd cyn diwedd y flwyddyn. Bydd y Comisiynydd yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth gyflawni'r gwaith yma nes bod unrhyw drefniadau newydd mewn lle.
“Heddiw, wrth gyhoeddi’r Papur Gwyn, rwy’n cychwyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus fydd yn parhau am 12 wythnos tan ddiwrnod olaf mis Hydref. Byddaf yn cynnal digwyddiadau ym mis Medi a Hydref. Rwy’n gobeithio bydd y cynigion yn sbarduno trafodaeth egnϊol i’n helpu i lywio y camau nesaf.
“Lai na mis ers imi gyhoeddi ein strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'r cynigion yn y Papur Gwyn hwn yn gam arall ymlaen ar y daith i wireddu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer yr iaith.”