Neidio i'r prif gynnwy

Data canlyniadau dysgwyr fesul lefel astudio, math yr amcan dysgu, ardal pwnc/sector a nodweddion y dysgwr ar gyfer Awst 2021 i Orffennaf 2022.

Prentisiaethau

  • Roedd cyfradd llwyddiant y prentisiaethau 14.6 pwynt canran yn is yn 2021/22 na chyn y pandemig yn 2018/19, gan ostwng o 80.9% i 66.3% (r).
  • Gadawodd mwy o ddysgwyr eu prentisiaeth yn gynnar ar gyfer cyflogaeth mewn mannau eraill yn 2021/22.
  • Y gostyngiadau mwyaf yn y gyfradd llwyddiant oedd ar gyfer prentisiaethau sylfaen; prentisiaethau ym meysydd pwnc y sectorau Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal; Lletygarwch ac Arlwyo; a Gwallt a Harddwch; a'r rhai gan brentisiaid rhwng 20 a 24 oed.
  • Ehangodd y bwlch yn y gyfradd llwyddiant rhwng dysgwyr sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a'r ardaloedd lleiaf difreintiedig o'i gymharu â 2018/19.

Dysgu Oedolion

  • Roedd cyfradd llwyddiant cyrsiau dysgu oedolion 7.9 (r) pwynt canran yn is yn 2021/22 nag yn 2018/19.
  • Gweithgareddau a ddarparwyd gan awdurdodau lleol drwy sefydliadau addysg bellach oedd â'r gostyngiad mwyaf mewn llwyddiant o'i gymharu â 2018/19
  • Roedd cynnydd yn nifer y gweithgareddau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill a gymerwyd sy'n rhannol yn egluro'r gostyngiad yn y gyfradd llwyddiant.

Hyfforddeiaethau

  • Trosglwyddodd 1,825 o'r rhai sy'n gadael hyfforddeiaeth i fathau eraill o ddysgu ym mis Mawrth 2022, yn unol â diwedd y cynllun hyfforddeiaethau.
  • O'r rhai a adawodd na throsglwyddodd ym mis Mawrth, roedd 72.0% (r) o'r rhain yn gwneud rhyw fath o ddilyniant cadarnhaol.

Nodiadau

Ni chynhyrchwyd y mesurau canlyniadau safonol ym mlynyddoedd academaidd 2019/20 a 2020/21 oherwydd y pandemig. Cyhoeddwyd adroddiadau arbennig ar Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Nodyn adolygu

Mae’r adroddiad hwn wedi’i ddiwygio. Roedd problem â dyblygu cofnodion, ac roedd y cofnodion dysgu oedolion a ddarparwyd gan Sir y Fflint wedi’u cadw allan yn anghywir. Effeithiodd y mater ar 4.0% o’r cofnodion dysgu oedolion ac ar 0.5% o’r cofnodion prentisiaethau.

Roedd y cyfraddau llwyddo cyffredinol ar gyfer dysgu oedolion yn flaenorol wedi eu nodi yn 82.9% ac maent wedi eu diwygio i 81.6%. Roedd y cyfraddau llwyddo cyffredinol ar gyfer prentisiaethau yn flaenorol wedi eu nodi yn 66.4% ac maent wedi eu diwygio i 66.3%. Nid yw’r tueddiadau yn yr adroddiad wedi newid.

Adroddiadau

Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion, Awst 2021 i Orffennaf 2022 (diwygiedig) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 966 KB

PDF
Saesneg yn unig
966 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Thomas Rose

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.