Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mater y Gorchymyn Amddiffyn Wrth Bontio. Yng Nghymru, drwy gyflwyno trothwy incwm a enillir ar gyfer teuluoedd sy'n cael Credyd Cynhwysol (CC) o 1 Ebrill 2019, neilltuwyd prydau ysgol am ddim i'r rhai sydd ag enillion net blynyddol o lai na £7,400 o'u cyflogaeth neu hunangy flogaeth. Nod y gorchymyn amddiffyn wrth bontio, a gyflwynwyd ochr yn ochr â'r trothwy incwm, oedd amddiffyn aelwydydd sy'n symud i Gredyd Cynhwysol rhag colli eu hawl i brydau ysgol am ddim er nad yw enillion y cartref yn newid. Felly nod darparu Gorchymy n Amddiffyn wrth Bontio ochr yn ochr â throthwy enillion net blynyddol o £7,400 oedd darparu sefydlogrwydd i deuluoedd drwy sicrhau na fyddai unrhyw blentyn yn colli ei hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod yr amserlen ar gyfer cyflwyno Credyd Cynhwysol fel y’i deallwyd ar y pryd.

Er mwyn amddiffyn y teuluoedd a nodwyd, rhoddwyd y Gorchymyn Amddiffyn Wrth Bontio ar waith mewn deddfwriaeth o 1 Ebrill 2019 (Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019, Darpariaethau Darfodol Erthygl 3), gyda dyddiad gorffen penodedig, sef 31 Rhagfyr 2023. Rhagwelwyd y byddai Credyd Cynhwysol wedi'i gyflwyno'n llawn ledled Cymru erbyn hynny. Mae'r amddiffyniad yn berthnasol i bob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o ganlyniad i fudd-daliadau cymwys, gan gynnwys plant oed meithrin sy'n bresennol am ddiwrnodau llawn. Gellir crynhoi'r polisi amddiffyn wrth bontio presennol fel a ganlyn:

Bydd prydau ysgol am ddim unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n gymwys i'w cael, hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2023, yn parhau i fod wedi'u hamddiffyn tan ddiwedd eu cyfnod ysgol presennol (er enghraifft, addysg gynradd neu addysg uwchradd). Bydd hyn yn wir hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau yn newid, ac nad ydynt bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwystra.

Fel rhan o ddatganiad yr Hydref 2022 (GOV.UK, Saesneg yn unig), cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd oedi tan fis Medi 2028 cyn y caiff Credyd Cynhwysol ei gyflwyno'n llawn. Ym mis Chwefror 2023 estynnodd Adran Addysg y DU y Gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio yn Lloegr hyd at 31 Mawrth 2025, erbyn pryd y disgwylir i bob achos credyd treth fod wedi symud i Gredyd Cynhwysol. Felly, mae angen ystyried pa gamau, os o gwbl, sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r oedi i'r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol ar gyfer teuluoedd y tu hwnt i ddyddiad gorffen y Gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio presennol.

Felly, mae'r Asesiad Effaith Integredig hwn yn ystyried yn benodol effaith penderfyniad i ymestyn y Gorchymyn wrth Bontio ("y Gorchymyn") tan 31
Mawrth 2025 ai peidio. Pe bai amserlen DWP y DU ar gyfer symud teuluoedd â phlant i Gredyd Cynhwysol yn llithr o eto, byddai angen ystyried a oes angen diwygio'r asesiad effaith integredig hwn i ddeall sut y bydd newid y dyddiad y daw’r estyniad i ben yn effeithio ar wahanol grwpiau

Mae ein hamcangyfrifon o niferoedd y garfan a amddiffynnir wrth bontio yng Nghymru wedi'u seilio ar y rhai a amcangyfrifir ar gyfer Lloegr gan Adran Addysg y DU. Gellir dod o hyd i amlinelliad o'u methodoleg a'r ffynonellau data. Mae amlinelliad o'u methodoleg a'r ffynonellau data a ddefnyddir ar gael ar wefan GOV.UK. Oherwydd i'r ddogfen hon gael ei chyhoeddi yn 2018, defnyddiwyd data/rhagolygon mwy diweddar na'r rhai a grybwyllwyd. Rydym wedi cymryd cyfran gymesur o'r ffigurau ar gyfer Lloegr, wedi'u seilio ar ddata llwyth achosion prydau ysgol am ddim y Cyfrifiad Ys golion B lynyddol Lefel Disgyblion (CYBLD). Mae'r amcangyfrifon sy'n deillio o ddefnyddio'r dull hwn wedi cael eu cymharu â'n ffigurau alldro CYBLD ar gyfer nifer y disgyblion a amddiffynnir wrth bontio, gan gymharu’n benodol y cynnydd o flwyddyn i flwyddyn. Mae hy n yn rhoi canlyniadau tebyg i'r dewis arall o gynyddu'r nifer sydd wedi'u hamddiffyn wrth bontio yn unol â'r duedd a welwyd hyd yma. Felly, mae hyn yn awgrymu bod yr amcangyfrifon yn rhesymol.

Mae gan ein hamcangyfrifon lefel uchel o ansicrwydd, sy'n cael ei adlewyrchu gan y ffaith bod yr amcangyfrifon yn gallu amrywio hyd at +/-20%. Mae'r amcangyfrifon hyn hefyd yn destun newid wrth i ddata newydd ddod i law ac wrth i ragolygon gael eu diweddaru.

O ran cyd-destun, mae dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn gymwys2 i gael Prydau Ysgol am Ddim os yw eu rhieni'n cael unrhyw rai o'r taliadau cymorth canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm.
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm.
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm.
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
  • Credyd Treth Plant (ar yr amod nad ydynt hefyd yn cael Credyd Treth Gwaith a bod eu hincwm blynyddol yn £16,190 neu'n is cyn treth).
  • Elfen warantedig y Credyd Pensiwn.
  • Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol, telir hwn am bedair wythnos ar ôl iddynt beidio â bod yn gymwys i'w gael.
  • Credyd Cynhwysol: rhaid i enillion yr aelwyd fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau.

O dan y polisi Amddiffyn wrth Bontio presennol, unwaith y bydd plant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, maent yn cael eu hamddiffyn rhag colli’u hawl hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid. Mae dadansoddiad manwl o'r garfan hon, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig, wedi'i gynnwys yn yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant (Atodiad A) a'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (Atodiad B).

Y garfan o ddysgwyr a'u teuluoedd y mae'r cam gweithredu arfaethedig yn berthnasol iddynt

Mae'r oedi yn y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn peri risg efallai y gall rhai cwsmeriaid â budd-dal etifeddol golli'u hawl i gael prydau ysgol am ddim oherwydd eu bod wedi symud i Gredyd Cynhwysol ar ôl i'n Gorchymyn amddiffyn wrth bontio presennol ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2023 (yn bennaf y rhai hynny sy'n cael Credyd Treth Plant ac yn ennill mwy na'r trothwy o £7,400 pan gânt eu symud). Fodd bynnag, nid yw'r oedi ynghylch Credyd Cynhwysol yn cael effaith gyfartal ar bob plentyn, gan y bydd teuluoedd â phlant yn cael eu symud i Gredyd Cynhwysol erbyn 31 Mawrth 2025. Bydd y rhan fwyaf o grwpiau blwyddyn yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol drwy ein polisi Amddiffyn wrth Bontio presennol tan ddiwedd y cyfnod addysg yr addysgir y plant ynddo ar 31 Rhagfyr 2023 (cynradd neu uwchradd).

Effaith yr oedi Credyd Cynhwysol (grŵp blwyddyn yn cael ei addysgu ar 31 Rhagfyr 2023)
Grŵp blwyddyn: meithrin amser llawn i Flwyddyn 5
  • Gwarchodir gan y polisi Amddiffyn wrth Bontio presennol tan: o leiaf tan ddiwedd tymor yr haf 2025 (erbyn hynny byddai'r teuluoedd wedi symud i Gredyd Cynhwysol)
Grŵp blwyddyn: Blwyddyn 6
  • Gwarchodir gan y polisi Amddiffyn wrth Bontio presennol tan: Diwedd tymor yr haf 2024
Grŵp blwyddyn: Blwyddyn 7 i Flwyddyn 10
  • Gwarchodir gan y polisi Amddiffyn wrth Bontio presennol tan: o leiaf tan ddiwedd tymor yr haf 2025 (erbyn hynny byddai'r teuluoedd wedi symud i Gredyd Cynhwysol)
Grŵp blwyddyn: Blwyddyn 11, Blwyddyn 12 (mewn lleoliad chweched dosbarth a gynhelir gan ALl), a Blwyddyn 13 (mewn lleoliad chweched dosbarth a gynhelir gan ALl)
  • Gwarchodir gan y polisi Amddiffyn wrth Bontio presennol tan: child leaves secondary phase of education (byddai prydau ysgol am ddim yn dod i ben yn naturiol bryd hynny beth bynnag)

Felly, y brif garfan sy'n wynebu risg oherwydd yr oedi o ran cyflwyno Credyd Cynhwysol yw plant sy'n cael eu haddysgu ym mlwyddyn 6 ar 31 Rhagfyr 2023, sy'n byw ar aelwydydd Credyd Treth Plant gydag enillion dros £7,400 pan fyddant yn symud i Gredyd Cynhwysol rhwng diwedd tymor yr haf 2024 a mis Mawrth 2025. Dyma garfan felly a ystyriwyd wrth fynd ati i ddrafftio'r Asesiad Effaith Integredig hwn.

Gan ddefnyddio data o Adran Gwaith a Phensiynau'r DU a CYBLD, amcangyfrifwyd bod gan tua 2,800 o blant sy'n cael eu haddysgu ym mlwyddyn 5 ar ddiwrnod y cyfrifiad ysgolion ym mis Ionawr 2023, hawl i Brydau Ysgol am Ddim o ganlyniad i gael budd-dal etifeddol. Dyma'r nifer fwyaf felly o blant a allai fod mewn perygl o golli'u hawl ar ôl cwblhau eu haddysg gynradd.

Gan wneud sawl rhagdybiaeth mewn perthynas â'r ffigur hwn, gan gynnwys cyfradd symud yr achosion hyn i Gredyd Cynhwysol a chanran yr achosion hyn a fyddai'n parhau i fod â hawl i brydau ysgol am ddim ar ôl cael eu symud, amcangyfrifir pe na bai'r Gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio yn cael ei ymestyn tan fis Mawrth 2025, gallai tua 1,000 o ddisgyblion sydd ym mlwyddyn 6 ar 31 Rhagfyr 2023 golli'u hawl i brydau ysgol am ddim o ganlyniad yn unig i'r broses o drosglwyddo o fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol rhwng diwedd eu haddysg gynradd ym mis Gorffennaf 2024 a 31 Mawrth 2025 (y dyddiad erbyn pryd mae Adran Gwaith a Phensiynau’r DU yn rhagweld y bydd teuluoedd â phlant wedi cael eu symud i Gredyd Cynhwysol).

Yn ogystal, ni fydd plant sy'n dod yn gymwys am y tro cyntaf i gael prydau ysgol am ddim o 1 Ionawr 2024 ymlaen, neu sy'n cadw eu hawl i gael prydau ysgol am ddim wrth symud i ysgol uwchradd, yn cael eu diogelu bellach os bydd eu hamgylchiadau'n newid. Er nad y grŵp hwn yw'r dysgwyr y cyflwynwyd y polisi gwreiddiol i'w hamddiffyn, maent yn grŵp a fyddai'n cael ei effeithio gan benderfyniad i beidio ag ymestyn. Dyma garfan felly a ystyriwyd wrth fynd ati i ddrafftio'r Asesiad Effaith Integredig hwn.

Ar y llaw arall, rhagwelir y byddai estyniad (wedi'i anelu'n bennaf at ddiogelu'r garfan o 1,000 a nodwyd yn y paragraff blaenorol) yn golygu y byddai tua 8,000 (mae gan ein hamcangyfrifon lefel uchel o ansicrwydd, sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod yr amcangyfrifon yn gallu amrywio hyd at +/- 20%. Mae'r amcangyfrifon hyn hefyd yn destun newid wrth i ddata newydd ddod i law ac wrth i ragolygon gael eu diweddaru) o ddisgyblion ychwanegol yn cael eu hamddiffyn wrth bontio ym mis Ionawr 2026 o'i gymharu â phe na fyddai estyniad. Mae hyn yn cynnwys cefnogi teuluoedd lle mae amgylchiadau neu enillion yr aelwyd wedi gwella'n sylweddol, o bosibl i'r graddau nad ydynt bellach yn cael budd-dal cymwys gyda chymorth ac, yn yr achosion hyn, nid ydynt o fewn cwmpas bwriad gwreiddiol y polisi. Fodd bynnag, pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i beidio ag ymestyn, yna ni fyddai pob un o'r 8,000 o disgyblion hyn yn cael eu heffeithio'n i'r un graddau â’i gilydd.

O'r amcangyfrif o 8,000 o ddisgyblion a nodwyd, bydd tua 2,000 o ddisgyblion o oedran cynradd, sy'n golygu y byddent, heb estyniad i'r Gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio, yn parhau i gael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd pe bai amgylchiadau'r cartref yn newid. Felly, ni fyddai penderfyniad i beidio ag ymestyn yn cael effaith negyddol arnynt.

Felly, mae penderfyniad i beidio ag ymestyn yn effeithio'n anghymesur ar y 6,000 o ddisgyblion oedran uwchradd sy'n weddill, na fyddent yn cael eu hamddiffyn bellach pe bai eu hamgylchiadau'n newid. Byddai'r rhain yn cynnwys y 1,000 o ddisgyblion sy’n cael eu haddysgu ym mlwyddyn 6 ar 31 Rhagfyr 2023 a allent golli'u hawl i brydau ysgol am ddim o ganlyniad yn unig i symud o fudd daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol rhwng diwedd eu haddysg gynradd ym mis Gorffennaf 2024, a 31 Mawrth 2025.

O ystyried goblygiadau gwerth am arian a chost ymestyn y polisi, gan gydnabod bod y rhan fwyaf o blant yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol trwy ein polisi Amddiffyn wrth Bontio presennol, a chan gydnabod nifer isel y plant (yn gyfrannol) sydd mewn perygl drwy beidio ag ymestyn, ystyrir y gellid lliniaru'r effaith ar deuluoedd sydd mewn perygl yn well trwy archwilio opsiynau i awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau dewisol i beidio â chodi tâl am brydau ysgol mewn amgylchiadau penodol.

Er y gellid dadlau bod manteision eglur o blaid ymestyn y Gorchymyn i fis Mawrth 2025, rhaid ystyried penderfyniad i wneud hynny yng nghyd-destun bwriad gwreiddiol y polisi a'r amgylchiadau ariannol presennol, a chael ein harwain gan ein hegwyddorion i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd cyn belled ag y bo modd a pharhau i anelu cymorth tuag at y rhai sydd ei angen fwyaf.

Pum Ffordd o Weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (futuregenerations.wales)

Atal

Ar hyn o bryd, os yw teulu'n gymwys ar gyfer Amddiffyn wrth Bontio (hyd at 31 Rhagfyr 2023), byddant yn parhau i gael gwarchod eu prydau ysgol am ddim tan ddiwedd eu cyfnod addysg presennol (cynradd neu uwchradd), hyd yn oed os bydd eu sefyllfa'n newid ac nad ydynt bellach yn bodloni'r meini prawf cymhwystra.

Byddai ymestyn amddiffyniad wrth bontio yr hawl i gael prydau ysgol am ddim y tu hwnt i ddyddiad dod i ben y gorchymyn presennol, sef 31 Rhagfyr 2023, yn helpu rhai teuluoedd ychwanegol yn ariannol (teuluoedd disgyblion sydd newydd ddod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2025), drwy gadw arian yn eu pocedi wrth i'w hamgylchiadau newid. Byddai hefyd yn cynnig amddiffyniad wrth bontio i blant sy'n cael eu haddysgu ym mlwyddyn 6 ar 31 Rhagfyr 2023, sy'n byw ar aelwydydd Credyd Treth Plant gydag enillion dros £7,400 pan fyddant yn symud i Credyd Cynhwysol rhwng diwedd tymor yr haf 2024 a mis Mawrth 2025. Roedd y grŵp olaf hwn yn rhan o'r garfan y cyflwynwyd y polisi yn wreiddiol i'w diogelu. Gallai hyn helpu ein hymdrechion i ddileu tlodi plant a chwarae rhan mewn mynd i'r afael â phlant yn mynd heb fwyd. Gall mynediad at ddigon o fwyd maethlon chwarae rôl allweddol o ran atal anghydraddoldebau iechyd sy'n fwy tebygol o effeithio ar bobl, a phlant yn arbennig, sy'n byw dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Nododd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022 i 2023 fod 6% o aelwydydd wedi cael bwyd o fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf neu wedi bod eisiau gwneud hynny. Felly, gallai ymestyn y Gorchymyn helpu i leddfu rhywfaint o bwysau ariannol ar rai teuluoedd a chynyddu mynediad plant at bryd iach a maethlon yn yr ysgol bob dydd.

Fodd bynnag, mae'r mwyafrif llethol o blant sy'n gymwys i gael pryd o fwyd am ddim yn bresennol eisoes yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol trwy ein polisi Amddiffyn wrth Bontio presennol, a gellid cefnogi’r nifer isel o blant yn y garfan y cyflwynwyd y polisi i’w hamddiffyn heb ymestyn dyddiad y Gorchymyn, drwy awdurdodau lleol yn defnyddio'u pwerau disgresiwn i beidio â chodi tâl am brydau ysgol. Yn ogystal, gan nad yw incwm/enillion aelwydydd yn cael eu cofnodi na'u hadolygu o dan y polisi Amddiffyn wrth Bontio, mae'n bosibl y gallai estyniad i'r ddarpariaeth yn ei hunan waethygu anghydraddoldeb yn anfwriadol trwy gynyddu'r potensial i gefnogi grŵp ehangach na dim ond y rhai yr ystyrir eu bod â'r angen mwyaf, er enghraifft, y rhai sy’n parhau i gael amddiffyn eu prydau drwy drefniadau Amddiffyn wrth Bontio er gwaethaf cynnydd sylweddol yn enillion yr aelwyd.

Integreiddio

Byddai ymestyn y Gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio yn cyd-fynd ag uchelgeisiau'r Strategaeth Tlodi Plant ddrafft ar gyfer 2023, sy'n cynnwys y ddau nod canlynol: 

  1. lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd
  2. cefnogi llesiant plant a theuluoedd, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig

Mae hefyd yn cefnogi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried hawliau plant fel y'u nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) ym mhopeth a wna (fel yr ystyrir yn fanwl isod yn Atodiad A). Mae CCUHP yn darparu safon ofynnol, lefel na ddylai unrhyw blentyn gwympo'n is na hi. Yn benodol, mae'n ei gwneud yn ofynnol i fudd pennaf y plentyn fod yn brif ystyriaeth.

Yn 2011, Cymru oedd y weinyddiaeth gyntaf yn y DU i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) mewn cyfraith ddomestig, drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r Mesur yn ymgorffori'r ddyletswydd i ystyried CCUHP a'r Protocolau Dewisol yng nghyfraith Cymru, ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i ofynion CCUHP wrth wneud eu penderfyniadau.
Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei drin yn deg, a chael mynediad cyfartal at y cymorth a'r cyfleoedd i wneud y mwyaf o'i fywyd a'i ddoniau. Ni ddylai unrhyw blentyn ddioddef cyfleoedd bywyd gwael oherwydd gwahaniaethu neu annhegwch o ran ei allu i hawlio'i hawliau.

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei drin yn deg, a chael mynediad cyfartal at y cymorth a'r cyfleoedd i wneud y mwyaf o'i fywyd a'i ddoniau. Ni ddylai unrhyw blentyn ddioddef cyfleoedd bywyd gwael oherwydd gwahaniaethu neu annhegwch o ran ei allu i hawlio'i hawliau.

Mae'n bwysig bod y cynnig hwn yn cysylltu'n uniongyrchol â pholisïau amrywiol y Rhaglen Lywodraethu a'r nodau llesiant ar gyfer Cymru sy'n fwy cyfartal a Chymru iachach, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Yn ogystal, mae gan hyn y potensial i gyfrannu at nifer o'r nodau llesiant drwy feithrin cydnerthedd, lleihau anghydraddoldeb a helpu i sicrhau Cymru fwy llewyrchus ac iachach.

Byddai'r nodau, y polisïau a'r dyletswyddau hyn yn parhau i fod yn berthnasol hyd yn oed heb ddarpariaeth benodol o ran Amddiffyn wrth Bontio, a byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio eu cyflawni drwy weithio gyda phartneriaid i ddefnyddio'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd drwy ddulliau er aill a'i integreiddio. Byddai hyn yn cynnwys polisi hawl i brydau ysgol am ddim yn gyffredinol, Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, y cymorth presennol a gynigir drwy'r polisi amddiffyn wrth bontio fel y mae (heb estyniad pellach), annog aw durdodau lleol i ddefnyddio'u pwerau
disgresiwn i beidio â chodi tâl am brydau ysgol o dan rai amgylchiadau, yn ogystal â hyrwyddo cymorth sydd ar gael drwy'r sector gwirfoddol, drwy elusennau, a chynigion gan y sector preifat â'r nod o fynd i'r afael â ph lant yn mynd heb fwyd.

Cydweithio

Bydd angen cydweithio agos â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau'r cymaint o gymorth â phosibl i'r teuluoedd a allai elwa o estyniad i'r polisi Amddiffyn wrth Bontio, p'un a’i hestynnir ai peidio.

Mae darparu prydau ysgol am ddim i blant sy'n gymwys yn draddodiadol drwy feini prawf sy'n gysylltiedig â budd-daliadau neu a amddiffynnir wrth bontio, yn gofyn am gydweithio agos â'n partneriaid cyflenwi allweddol a'r rhai sy'n cynrychioli buddiannau plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Arlwywyr Awdurdodau Lleol Cymru (LACA Cymru).

Trwy weithio'n agos gyda'n partneriaid cyflenwi allweddol, byddai'r dull cydweithredol hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn well i ystyried ac ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg, i fonitro'r sefyllfa, a byddai hefyd yn darparu cymorth rhagweithiol i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi wrth fynd ati i gyflawni’r gwaith.

Yn ogystal, bydd gofyn dal ati i gydweithio â chydweithwyr a rhanddeiliaid sy'n gweithio i ddileu tlodi plant er mwyn helpu i sicrhau cydlyniant a gwella'r gwaith o nodi cyfleoedd i groesgyfeirio neu gyfeirio'n uniongyrchol at y pecynnau cymorth sydd ar ga el i deuluoedd cymwys, gan sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn elwa ar yr help sydd ar gael iddynt.

Effaith

Mae Amddiffyn wrth Bontio yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod plant teuluoedd gwarchodedig yn cael o leiaf un pryd maethlon iach yn yr ysgol a thrwy hynny'n helpu i atal anghydraddoldeb o ran iechyd. Gallai penderfyniad i beidio ag ymestyn y Gorchymyn gynyddu'r risg o anghydraddoldeb sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol, fel anghydraddoldeb o ran iechyd a chyrhaeddiad, ar gyfer carfan o deuluoedd.

Er y gellid dadlau bod manteision eglur i ymestyn y Gorchymyn hyd at fis Mawrth 2025, rhaid ystyried penderfyniad i wneud hynny yng nghyd-destun bwriad gwreiddiol y polisi (atal teuluoedd sy'n symud i Gredyd Cynhwysol rhag colli eu hawl i brydau ysgol am ddim er bod enillion y cartref yn aros yr un fath), a'r amgylchiadau ariannol presennol, a chael ein harwain gan ein hegwyddorion o ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd cyn belled ag y bo modd a pharhau i anelu cymorth tuag at y rhai sydd fwyaf ei angen.

Y brif garfan sydd mewn perygl o ganlyniad i beidio ag ymestyn Amddiffyn wrth Bontio hyd at 31 Mawrth 2025, yng nghyd-destun oedi cyflwyno Credyd Cynhwysol, yw plant sy'n cael prydau ysgol am ddim sydd ym mlwyddyn 6 ar 31 Rhagfyr 2023 ac yn byw ar aelwydydd Credyd Treth Plant gydag enillion dros £7,400 pan fyddant yn symud i Gredyd Cynhwysol rhwng diwedd tymor yr haf 2024 a mis Mawrth 2025.

Amcangyfrifir pe na bai Amddiffyn wrth Bontio yn cael ei ymestyn i fis Mawrth 2025, gallai tua 1,000 o ddisgyblion sydd ym mlwyddyn 6 ar 31 Rhagfyr 2023 golli'u hawl i brydau ysgol am ddim o ganlyniad yn unig i symud o fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol rhwng diwedd eu cyfnod addysg cynradd ym mis Gorffennaf 2024, a 31 Mawrth 2025.

Er y byddai ymestyn y Gorchymyn hyd at 31 Mawrth 2025 yn amddiffyn y plant hyn, byddai hefyd yn gwarchod 8,000 yn ychwanegol erbyn mis Ionawr 2026 o'i gymharu â pheidio â'i ymestyn. Serch bod hyn ar y cyfan yn debygol o gefnogi aelwydydd sy'n gweithio sy'n fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi cymharol, byddai hefyd yn cynnwys y canlyno:

  • Rhai nad ydynt wedi symud oddi ar fudd-daliadau etifeddol ac nad ydynt felly mewn perygl o golli'u hawl i brydau ysgol am ddim oherwydd symud i Gredyd Cynhwysol.
  • Rhai a hawliodd Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf ar ôl cyflwyno'r trothwy o £7,400 ac nad ydynt felly mewn perygl o golli'u hawl i brydau ysgol am ddim o ganlyniad i gyflwyno'r trothwy enillion.
  • Sefyllfaoedd lle mae amgylchiadau wedi newid, ac nid yw'r aelwyd yn cael budd-dal cymwys bellach.
  • Lle mae enillion wedi cynyddu'n sylweddol ac, mewn rhai achosion, wedi tynnu’r aelwyd o'r system budd daliadau lles yn llwyr.

O'r amcangyfrif o 8,000 o ddisgyblion a nodwyd, bydd tua 2,000 o ddisgyblion o oedran cynradd, sy'n golygu y byddent yn parhau i dderbyn prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd pe bai amgylchiadau'r cartref yn newid ac felly ni fyddai penderfyniad i beidio ag ymestyn yn effeithio'n negyddol arnynt.

Felly, mae penderfyniad i beidio ag ymestyn yn effeithio'n anghymesur ar y 6,000 o ddisgyblion oedran uwchradd sy'n weddill a fyddai'n cael eu hamddiffyn gan estyniad hyd at fis Mawrth 2025, a fyddai'n cynnwys y 1,000 o ddisgyblion a nodwyd fel rhai sydd mewn perygl oherwydd oedi cyflwyno Credyd Cynhwysol. Dull o weithredu sydd wedi'i dargedu'n well fyddai edrych ar opsiynau awdurdodau lleol o ran defnyddio eu pwerau disgresiwn i beidio â chodi tâl am brydau ysgol mewn amgylchiadau penodol fel dull o helpu'r 1,000 o ddisgyblion hyn.

Fodd bynnag, mae hyn yn debygol o barhau i gyflwyno her o ran anghydraddoldeb y ddarpariaeth mewn ysgolion uwchradd ac addasrwydd y trothwy o £7,400. Nid yw'r trothwy wedi cadw i fyny â'r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol ac mae hefyd yn is na'r gofyniad am isafswm enillion o £8,040 a osodir trwy ymrwymiadau hawlwyr Credyd Cynhwysol (mae rhaid i deuluoedd y mae'n ofynnol iddynt chwilio am waith ac sy'n ennill llai na £8,040 y flwyddyn chwilio am oriau ychwanegol/gwaith â gwell cyflog neu maent mewn perygl o wynebu sancsiynau).

Yn absenoldeb estyniad i'r Gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio, mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i feithrin gwytnwch a lleihau anghydraddoldeb yn y garfan hon a byddai'n parhau i weithio gyda phartneriaid i ddefnyddio ac integreiddio'r help arall sydd ar gael i deuluoedd. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi mai Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb cyntaf dros ddarparu cyllid cynhaliaeth i deuluoedd i sicrhau bod plant yn cael bwyd ynghyd â'i gweinyddiaeth o'r system nawdd cymdeithasol.

Ceir esboniad pellach yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn Atodiad B isod.

Costau a manteision

Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol sy'n ychwanegu at gostau'r polisi gwreiddiol. Fodd bynnag, mae costau rhagamcanol diweddaraf y polisi Amddiffyn wrth Bontio yn uwch na'r £6 miliwn (Darparodd Llywodraeth Cymru £7 miliwn ychwanegol drwy'r Setliad yn 2019 i 2020 i helpu i dalu'r costau amcangyfrifedig a oedd yn gysylltiedig ag amddiffyn wrth bontio (tua £6 miliwn) a'r cynnydd yn nifer y disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y meini prawf diwygiedig (tua £1 filiwn) ac mae hyn wedi'i gynnwys yn llinell sylfaen y Grant Cynnal Refeniw) sydd ar gael bob blwyddyn ers 2019-20 drwy'r Setliad Llywodraeth Leol i dalu'r costau amcangyfrifedig sy'n gysylltiedig ag amddiffyn wrth bontio, gan greu pwysau tymor byr ar gyllidebau llywodraeth leol.

Yn absenoldeb estyniad, mae disgwyl i nifer y disgyblion sy'n cael eu hamddiffyn wrth bontio ddechrau gostwng erbyn CYBLD ym mis Ionawr 2026. Fodd bynnag, rhagwelir y byddai ymestyn y Gorchymyn tan fis Mawrth 2025 i gyd-fynd â chynlluniau cyfredol Adran Gwaith a Phensiynau'r DU i symud pob teulu sy'n cael credydau treth i Gredyd Cynhwysol, yn gweld tua 8,000 o ddisgyblion ychwanegol yn cael eu hamddiffyn wrth bontio ym mis Ionawr 2026 o'i gymharu â phe na fyddai estyniad i'r Gorchymyn. Byddai hyn yn cynnwys cefnogi teuluoedd lle mae amgylchiadau neu enillion yr aelwyd wedi gwella'n sylweddol, efallai i'r graddau nad ydynt bellach yn cael budd-dal cymwys.

Bydd y cynnydd hwn yn cael ei yrru gan y canlynol:

  • Darparu amddiffyniad i ddisgyblion sy'n dod yn gymwys o'r newydd i gael prydau ysgol am ddim rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2025, gyda'r amddiffyniad hwn yn ymestyn hyd at ddiwedd y cyfnod ysgol ar 31 Mawrth 2025.
  • Darparu amddiffyniad i ddisgyblion Blwyddyn 6 a oedd yn cael prydau ysgol am ddim ym mis Rhagfyr 2023 (drwy hawl i gael prydau am ddim neu'r cynllun Amddiffyn wrth Bontio) tan ddiwedd eu haddysg uwchradd yn hytrach na'u haddysg gynradd.
  • Y dyddiad pryd y bydd y disgyblion cyntaf yn colli'u hamddiffyniad drwy gyrraedd diwedd eu haddysg gynradd yn cael ei ohirio o fis Gorffennaf 2024 i fis Gorffennaf 2025.

Er na chafwyd cais penodol gan awdurdodau lleol am gyllid ychwanegol hyd yma, mae'r ymarfer ail ddilysu diweddar a gynhaliwyd ar gyfer CYBLD 2023 yn debygol o amlygu'r cynnydd parhaus yn nifer y disgyblion a amddiffynnir wrth bontio. Mae hyn yn risg arben nig yng nghyd destun barn yr awdurdodau lleol nad yw'r gyfradd o £2.90 yr un ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn ddigon i dalu'r gost fesul pryd o fwyd y maent yn ei ysgwyddo.

Petai Amddiffyn wrth Bontio yn cael ei ymestyn, gan nad oes cyllideb ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer hyn yn y Grant Cynnal Refeniw, mae'n bosibl y byddai angen dod o hyd i gyllid o fewn y Prif Grŵp Gwariant Addysg presennol ac ailddyrannu cyllid o raglenni/polisïau eraill. Gallai unrhyw doriadau o'r fath i wasanaethau craidd gael canlyniadau difrifol ac effeithiau negyddol ar bob plentyn ledled Cymru. Mae angen ystyried hyn yn erbyn yr effaith gadarnhaol y mae'r polisi yn ei chael ar deuluoedd incwm isel, yn bennaf o ran y ffordd mae'r ddarpariaeth yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd.

Bydd y gost yn amrywio gan ddibynnu ar faint sy'n manteisio ar y cynnig go iawn a chyfradd y gost fesul pryd, ond yr amcangyfrifon canolog o gost amddiffyn wrth bontio o fis Ionawr 2024 hyd at fis Ionawr 2028 yw £48.3 miliwn, (gan dybio cyfradd fanteisio o 77% a chost fesul pryd o £2.41) sy'n ddangos diffyg o £24.3 miliwn mewn cyllid trwy'r Grant Cynnal Refeniw wrth gyfrif am y gyllideb flynyddol o £6 miliwn ar gyfer Amddiffyn wrth Bontio dros yr un cyfnod. Mae'r amcangyfrif hwn yn destun cryn ansicrwydd ac mae hefyd yn destun newid wrth i ddata newydd ddod i law ac wrth i ragolygon gael eu diweddaru.

Mae'r gost a'r adnoddau sydd eu hangen ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i gefnogi'r 8,000 o blant ychwanegol hyn (mewn ymgais i warchod y nifer isel o ddisgyblion sydd mewn perygl os na chaiff y cynllun Amddiffyn Wrth Bontio ei ymestyn) yn cael ei ystyried yn anghymesur yn y sefyllfa gyllidol bresennol.

Dylid nodi, yn y tymor hwy, wrth i gost Amddiffyn wrth Bontio ddechrau gostwng, a dod i ben yn gyfan gwbl yn y pen draw, bydd awdurdodau lleol yn parhau i elwa (o un flwyddyn i'r llall) ar y £6 miliwn ychwanegol o gyllid a ddarparwyd yn 2019 i 2020 sydd bellach wedi'i gynnwys yn llinell sylfaen y Grant Cynnal Refeniw.

Dull gweithredu

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i ddarparu prydau ysgol am ddim i'r plant hynny sy'n gymwys drwy fudd-daliadau perthnasol neu drwy'r gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio. Byddai ymestyn y polisi yn cynyddu nifer y plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o’i herwydd, fodd bynnag, byddai'r dull gweithredu ar gyfer dosbarthu yn aros yr un fath.

Casgliad

Sut mae'r bobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Ni ymgynghorwyd ar y cynnig penodol hwn i ystyried ymestyn y gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio, fodd bynnag ymgynghorwyd ar gyflwyno trothwy enillion Credyd Cynhwysol a'r polisi Amddiffyn wrth Bontio cysylltiedig yn 2018.

Croesawodd nifer o'r ymatebwyr ar y pryd y cynlluniau ar gyfer amddiffyn wrth bontio, gan nodi eu bod yn deg ac y byddent yn ei gwneud yn bosibl i effaith y polisi gael ei fonitro'n effeithiol, ac yn sicrhau na fyddai plant nad oeddent yn gymwys i gael pry dau ysgol am ddim bellach o dan y meini prawf cymhwystra newydd yn cael eu rhoi dan anfantais, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd ynghylch nifer y teuluoedd a fydd yn colli'u cymhwystra o dan y meini prawf newydd.

Crybwyllodd sylwadau eraill y gallai cynlluniau amddiffyn wrth bontio arwain at anghydraddoldeb i deuluoedd sydd o dan yr un amgylchiadau ac yn ennill yr un maint, â rhai yn cael prydau ysgol am ddim diolch i amddiffyn wrth bontio ac eraill ddim yn gallu c ael prydau am ddim oherwydd nad ydynt erioed wedi bod yn gymwys o'r blaen. Bu galw i'r cynllun amddiffyn wrth bontio gael ei adolygu'n flynyddol i sicrhau bod pawb sydd ei angen yn ei gael, yn hytrach na bod y rheini y mae eu sefyllfa cyflogaeth wedi gwell a yn parhau i fod yn gymwys i'w gael.

Rydym hefyd wedi cael gwybodaeth, drwy weithgarwch ymgysylltu cyn ymgynghori, ynghylch Strategaeth Tlodi Plant newydd Cymru. Mae'r ymarfer cyn ymgynghori hwn wedi cynnwys ymgysylltu â 3,358 o blant, pobl ifanc a theuluoedd â phrofiad bywyd, gan gynnwys 1,953 â nodweddion gwarchodedig. Roedd tlo di bwyd yn thema gyffredin, a nodwyd bod cost bwyd, yn enwedig bwyd iach, yn broblem a chafwyd tystiolaeth am ddefnyddio Banciau Bwyd a chynigion bwyd eraill rhad neu am ddim. Yn ogystal, nododd arolwg adroddiad Comis iynydd Plant Cymru, Gobeithion i Gymru, fod bwyd yn destun pryder mawr ymhlith yr 8,000 o blant a phobl ifanc a arolygwyd, er enghraifft, mae 44% o blant 7 i 11 oed a 25.9% o blant 11 i 18 oed, yn poeni am gael digon o fwyd i'w fwyta.

Yn ogystal, mynegwyd pryderon gan awdurdodau lleol, sy'n rhoi'r gorchymyn ar waith ar ran Llywodraeth Cymru, ynghylch y baich gweinyddol mwy yn sgil y polisi amddiffyn wrth bontio yn ystod gwaith ymchwil a lywiodd y gwaith o ddatblygu arweinlyfr arfer gora u ar gyfer symleiddio prosesau ymgeisio ar gyfer budd daliadau a weinyddir gan awdurdodau lleol. Mae nifer o awdurdodau lleol yn dweud bod eu systemau prosesu presennol yn ei chael hi'n anodd rheoli hawliadau prydau ysgol am ddim sy'n cael eu hamddiffyn wrth bontio. O ganlyniad, mae rhai wedi troi at reoli'u llwyth achosion â llaw gan ddefnyddio taenlenni. Gall hyn fod yn llawer o waith ac mae'n cynyddu'r risg o gamgymeriadau yn setiau data Hawl i Brydau Ysgol Am ac mae'n cynyddu'r risg o gamgymeriadau yn setiau data Hawl i Brydau Ysgol Am Ddim ac Amddiffyn wrth Bontio.Ddim ac Amddiffyn wrth Bontio.

Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, y rhai cadarnhaol a'r rhai negyddol?

Y bobl sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig hwn yw plant a phobl ifanc (nodwyd y garfan benodol a fydd o bosibl yn cael ei heffeithio yn gynharach yn yr asesiad effaith integredig hwn).

Byddai effeithiau cadarnhaol ymestyn y gorchymyn yn cynnwys y canlynol:

  • Byddai plant ychwanegol yn gallu cael pryd yn ystod gwyliau'r ysgol, gan atal iechyd gwael o ran corff a meddwl.
  • Byddai rhai teuluoedd y poeni llai a rhai plant yn pryderu llai am y posibilrwydd o fod heb fwyd.
  • Byddai rhieni yn gallu diwallu anghenion hanfodol eu plant yn well.
  • Ni fyddai teuluoedd a phlant yn gorfod ‘mynd heb’ bethau angenrheidiol eraill. Er enghraifft, cynhesu'r tŷ, rhieni ac aelodau eraill o'r teulu yn mynd heb fwyd, y gallu i achub ar gyfleoedd.

Heb estyniad i'r Gorchymyn, byddai pawb sy'n cael eu hamddiffyn gan y polisi ar hyn o bryd yn parhau i gael eu gwarchod hyd at ddiwedd cam presennol eu haddysg, a byddai'r rhan fwyaf o blant cynradd yn parhau i gael pryd o fwyd am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, a bydd y sefyllfa hon yn ymestyn i bob plentyn mewn ysgol gynradd o fis Medi 2024.

Os nad yw'r Gorchymyn yn cael ei ymestyn, bydd hyn yn cael effaith anghymesur ar blant ysgolion uwchradd, yn benodol yr amcangyfrif o 1,000 o ddisgyblion a fydd yn dechrau blwyddyn 7 ym mis Medi 2024 a allai golli'u cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim o ganlyniad i symud i Gredyd Cynhwysol yn unig, a hefyd tua 2,600 o blant a fydd yn colli eu hawl (a amddiffynnir wrth bontio) i brydau ysgol am ddim yn haf 2024 wrth iddynt gyrraedd diwedd eu haddysg gynradd. Yn ogystal ni fydd y plant ysgol uwchradd sy'n cael hawl newydd i brydau ysgol am ddim o 1 Ionawr 2024 neu sy'n cadw eu hawl i brydau ysgol am ddim wrth iddynt bontio o'r ysgol gynradd bellach yn cael eu gwarchod os bydd eu sefyllfa'n newid gan gynnwys os bydd enillion yr aelwyd yn mynd dros y trothwy o £7,400.

Nid yw'r trothwy hwn wedi cadw i fyny â'r cynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol ac mae hefyd yn is na'r gofyniad am isafswm enillion o £8,040 a osodir trwy ymrwymiadau hawlwyr Credyd Cynhwysol (mae rhaid i deuluoedd y mae'n ofynnol iddynt chwilio am waith ac sy'n ennill llai na £8,040 y flwyddyn chwilio am oriau ychwanegol/gwaith â gwell cyflog neu maent mewn perygl o wynebu sancsiynau).

Yn unol ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu, gwnaed gwaith i adolygu'r meini prawf cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim gan gynnwys y trothwy o £7,400. Mae'r gwaith hwn yn nesáu at ei derfyn ac mae wedi cynnwys adolygu arlwy prydau ysgol uwchradd, ochr yn ochr â'n polisi ar Amddiffyn wrth Bontio. Mae hefyd wedi cynnwys ystyried agweddau eraill ar gyflenwi bwyd mewn ysgolion a'r cynnig ehangach o ran bwyd mewn ysgolion.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant, a/neu, yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Effaith fwyaf sylweddol ymestyn y polisi hwn fyddai sicrhau nad yw plant a phobl ifanc yng Nghymru efallai’n mynd heb fwyd yn ystod y diwrnod ysgol. Byddai'r polisi yn gam ychwanegol pwysig tuag at gyflawni ein nod cyffredin o fynd i'r afael â thlodi plant ac yn cyfrannu'n sylweddol at amcan llesiant Cymru iachach drwy weithio tuag at leihau anghydraddoldeb iechyd (gweler 2.5), ac amcan Cymru sy'n fwy cyfartal, fel y nodir yn yr asesiadau penodol o'r effaith ar gydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae'n bosibl ei fod hefyd yn cefnogi amcan llesiant Llywodraeth Cymru "i ddileu anghydraddoldeb o bob math”. Fodd bynnag, o ystyried y nifer fach o deuluoedd sydd mewn perygl o ganlyniad i beidio ag ymestyn y Gorchymyn, dull o weithredu sydd wedi'i dargedu'n well fyddai edrych ar opsiynau awdurdodau lleol o ran defnyddio eu pwerau disgresiwn i beidio â chodi tâl am brydau ysgol o dan amgylchiadau penodol.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i barhau i ateb y cynnydd yn y galw am Brydau Ysgol Am Ddim sy'n deillio o'r pandemig ac i adolygu'r meini prawf cymhwystra, gan ymestyn yr hawl cyn belled ag y bydd adnoddau'n caniatáu. Mae’r gwaith hwn yn mynd rh agddo gyda’r ffocws uniongyrchol ar ymestyn yr hawl drwy gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. Wrth gyflwyno’r cynnig, rydym yn dysgu gwersi gwerthfawr a fydd yn llywio unrhyw gynlluniau yn y dyfodol mewn perthynas ag ehangu'r cynnig prydau ysgol am ddim ymhellach.

Ar wahân i nodi cyllideb ddigonol, mae sawl her arall yn golygu y byddai angen paratoadau helaeth ar gyfer ehangu'r ddarpariaeth mewn ysgolion uwchradd cyn y gallai'r gwasanaeth ddechrau (o leiaf 12 mis). Mae’r rhain yn cynnwys: yr angen posibl am system gwirio cymhwystra newydd i Gymru os mabwysiadir trothwy gwahanol o’i gymharu â Llywodraeth y DU, heriau logistaidd a chapasiti sylweddol i ysgolion ac awdurdodau lleol (sy'n canolbwyntio ar gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd), amcangyfrif o gostau cyfalaf anhysbys a’r angen i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y gweithlu, cyfathrebu a buddsoddi.

Ochr yn ochr â hyn, ac er mwyn lleihau'r risg ymhellach, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi pobl â'r cynnydd mewn costau byw drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rheini sydd ei angen fwyaf a thrwy raglenni a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Mae hyn yn amrywio o bresgripsiynau am ddim a sesiynau nofio am ddim i helpu cannoedd ar filoedd o bobl gyda biliau'r dreth gyngor. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi taliadau arian parod i bobl sy'n wynebu argyfyngau ariannol ac yn ariannu gwasanaethau cyngor ar arian a dyled ac undebau credyd. Yn ystod 2022 i 2023 a 2023 i 2024, roedd y cymorth hwn werth dros £3.3 biliwn. Mae'r dull gweithredu hwn yn parhau i gynorthwyo aelwydydd incwm isel, drwy gynyddu eu hincwm gwario y gellir ei ailgyfeirio wedyn i fwydo eu plant yn ystod y gwyliau.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei hymgynghoriad ar y Strategaeth Tlodi Plant ddrafft yn ddiweddar, sy'n nodi pum amcan ac yn amlinellu cyfres o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni'r rhain, mae Amcanion 1 a 3 yn arbennig o berthnasol:

  • Amcan 1: lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd.
  • Amcan 3: cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ar draws Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a chael gwell canlyniadau.

Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi mai prif ffynhonnell incwm y teuluoedd hyn yw system fudd-daliadau'r DU sy'n darparu cymorth ariannol ar lefel cynhaliaeth. Mae rhai pecynnau cymorth ariannol ar gael gan Lywodraeth Cymru hefyd. Ochr yn ochr â hyn, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol, a swyddogaethau lles craidd eraill, yn camu i'r adwy os bydd plant yn wynebu risg ac angen cymorth.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac wedi iddo gael ei gwblhau?

Y cynnig yw peidio â chymryd unrhyw gamau pellach ac i beidio ag ymestyn y gorchymyn Amddiffyn wrth Bontio y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2023. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid cyflawni allweddol a'r rhai sy'n cynrychioli buddiannau plant a phobl ifanc gan gynnwys ysgolion ac awdurdodau lleol, yn ogystal â CLlLC, i fonitro effaith y penderfyniad hwn ochr yn ochr â'n dull trawslywodraethol o ymdrin â thlodi plant. Bydd nifer y rhai a amddiffynnir wrth bontio'n parhau i gael ei fesur a'i fonitro a bydd deialog barhaus gydag awdurdodau lleol ac ysgolion yn helpu i ddarparu gwybodaeth leol i ddeall effaith y cynnig ymhellach.