Neidio i'r prif gynnwy

Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Gorffennaf i Fedi 2019.

Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)

  • Cafodd 6,195 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2019.
  • Ym mis Medi 2019, roedd 74.2% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
  • Cafodd 78.5% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2019.

Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth

  • Roedd 22,661 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2019. O'r rhain, roedd gan 20,034 (88.4%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd

  • Yn ystod mis Medi 2019, roedd 89.9% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.