Neidio i'r prif gynnwy

Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2018.

Gwybodaeth sy’n dangos cydymffurfiaeth â chynllun gofal a thriniaeth, a hefyd nifer yr adroddiadau ar ganlyniadau asesu a gafodd eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith.

Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)

  • Cafodd 5,856 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2018.
  • Ym mis Medi 2018, roedd 78.0% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
  • Cafodd 81.6% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2018.

Rhan 2: Cynlluniau gofal a thriniaeth

  • Roedd 22,474 o gleifion yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2018. O'r rhain, roedd gan 19,822 (88.2%) gynllun gofal a thriniaeth dilys.

Rhan 3: Asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd

  • Yn ystod mis Medi 2018, roedd 100.0% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.