Neidio i'r prif gynnwy

Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)

O dan 18 oed

  • Cafodd 910 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2024.
  • Ym mis Medi 2024, roedd 93.0% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad. 
  • Cafodd 59.1% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2024.

18 oed a throsodd

  • Cafodd 5,179 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2024.
  • Ym mis Medi 2024, roedd 69.6% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad. 
  • Cafodd 70.7% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2024.

Pob oedran

  • Cafodd 6,089 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2024.
  • Ym mis Medi 2024, roedd 73.6% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad. 
  • Cafodd 68.4% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2024.

Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth

O dan 18 oed

  • Roedd 795 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2024. O'r rhain, roedd gan 715 (89.9%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

18 oed a throsodd

  • Roedd 18,062 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2024. O'r rhain, roedd gan 15,018 (83.1%) CTP dilys.

Pob oedran

  • Roedd 18,857 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2024. O'r rhain, roedd gan 15,733 (83.4%) CTP dilys.

Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd

  • Yn ystod mis Medi 2024, roedd 90.6% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099