Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Gorffennaf i Fedi 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Gwybodaeth am y gyfres:
Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)
- Cafodd 6,029 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2022.
- Ym mis Medi 2022, roedd 80.6% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 64.9% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2022.
Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
- Roedd 19,126 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2022. O'r rhain, roedd gan 15,850 (82.9%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd
- Yn ystod mis Medi 2022, roedd 92.5% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.