Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Gorffennaf i Fedi 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Gwybodaeth am y gyfres:
Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)
- Cafodd 5,720 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2020.
- Ym mis Medi 2020, roedd 80.1% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 86.4% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2020.
Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
- Roedd 21,218 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2020. O'r rhain, roedd gan 18,120(r) (85.4%)(r) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
(r) Diwygiedig ar 3 Rhagfyr 2020
Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd
- Yn ystod mis Medi 2020, roedd 91.8% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.