Ystadegau, Dogfennu
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Ionawr i Fehefin 2024
Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Ionawr i Fehefin 2024.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 90 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)
O dan 18 oed
- Cafodd 981 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2024.
- Ym mis Mehefin 2024, roedd 87.0% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 57.2% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2024.
18 oed a throsodd
- Cafodd 4,727 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2024.
- Ym mis Mehefin 2024, roedd 68.2% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 77.4% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2024.
Pob oedran
- Cafodd 5,708 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2024.
- Ym mis Mehefin 2024, roedd 72.3% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 72.8% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2024.
Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
O dan 18 oed
- Roedd 814 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2024; o'r rhain, roedd gan 732 (89.9%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
18 oed a throsodd
- Roedd 18,192 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2024; o'r rhain, roedd gan 14,831 (81.5%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Pob oedran
- Roedd 19,006 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2024; o'r rhain, roedd gan 15,563 (81.9%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd
- Yn ystod mis Mehefin 2024, roedd 82.9% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099