Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Ebrill i Fehefin 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Gwybodaeth am y gyfres:
Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)
- Cafodd 6,213 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2023.
- Ym mis Mehefin 2023, roedd 66.5% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 70.2% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2023.
Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
- Roedd 18,677 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2023; o'r rhain, roedd gan 14,524 (77.8%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd
- Yn ystod mis Mehefin 2023, roedd 92.1% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.