Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Ebrill i Fehefin 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
Gwybodaeth am y gyfres:
Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)
- Cafodd 6,434 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2021.
- Ym mis Mehefin 2021, roedd 67.8% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 78.5% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mehefin 2021.
Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
- Roedd 20,230 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mehefin 2021; o'r rhain, roedd gan 17,782 (87.9%) Gynllun Gofal a Thriniaeth dilys.
Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd
- Yn ystod mis Mehefin 2021, roedd 93.5% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.