Tynnu sylw at bwysigrwydd rhoi'r sgiliau a'r cyfleoedd cywir i'n gweithlu a sut nad yw un llwybr yn addas i bawb.
Wrth i’n heconomi drawsnewid i gefnogi uchelgeisiau sero net Llywodraeth Cymru, mae’n bwysig ein bod yn paratoi ein gweithlu gyda’r cyfleoedd a’r sgiliau iawn. Mae yna eisoes nifer o ddewisiadau, sy’n cynyddu’n barhaus, o hyfforddiant a sgiliau, lle nad oes un trywydd pendant sy’n addas i bawb.
Cymerwch Molly Salter a Tesni James o ogledd Cymru; er bod y ddwy ohonynt yn gweithio i ennill cymwysterau i’w paratoi ar gyfer gyrfa mewn sero net, maent yn dilyn llwybrau cwbl wahanol.
Mae Molly yn ferch 20 oed sydd â phum cymhwyster Safon Uwch ond mae wedi penderfynu nad yw dilyn cwrs prifysgol amser-llawn yn addas iddi hi. Gyda’i diddordeb mawr mewn newid hinsawdd, llwyddodd i gael ei derbyn ar brentisiaeth gradd mewn Effeithlonrwydd Ynni Carbon Isel ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, a chaiff ei chyflogi gan Gyngor Sir Y Fflint.
“Roeddwn i wastad eisiau gyrfa a oedd ar reng flaen cymdeithas ac yn flaengar. Pan welais yr hysbyseb ar gyfer y brentisiaeth hon, dyma fy swydd ddelfrydol er nad oeddwn i’n gwybod ei fod yn bodoli! Roedd yn berffaith gan fy mod yn chwilio’n benodol am brentisiaeth gradd ac rwy’n wir angerddol dros newid hinsawdd. Rwy’n mynd i’r brifysgol un diwrnod yr wythnos ac wedyn rwy’n gweithio yn fy rôl fel Cynorthwyydd Prosiect Newid Hinsawdd i’r cyngor gweddill yr wythnos.”
Mae ei diwrnod arferol yn cynnwys ceisio caffael tir ar gyfer prosiectau’r cyngor, megis plannu coed, bioamrywiaeth, paneli solar a thyrbinau gwynt a pharatoi cylchlythyr newid hinsawdd y cyngor, sy’n cynyddu ymwybyddiaeth ymysg bobl yr ardal o sut mae’r awdurdod lleol yn lleihau allyriadau carbon.
Dechreuodd y brentisiaeth ym mis Medi 2022, ac mae’n gyffrous iawn ar gyfer ei dyfodol:
“Mae’r maes gwaith hwn yn tyfu. Dyma’r ffordd ymlaen. Rwy’n gyffrous ynglŷn â’r dyfodol – dydw i ddim yn gwybod pa sector y byddaf i’n gweithio ynddo yn y pendraw, ond rwy’n gwybod, gyda’r sgiliau rwy’n eu dysgu, y gallaf gael effaith fawr.”
Mae Tesni James, ar y llaw arall, wedi ail-hyfforddi ar ôl cael ei theulu. Bu’n weithiwr cymdeithasol am naw mlynedd, a phenderfynodd ymuno â busnes adeiladu’r teulu, a leolir ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd Tesni eisiau ennill cymwysterau yn y diwydiant ond, gyda thri phlentyn ifanc, roedd eisiau astudio mewn ffordd hyblyg.
Yn ei choleg lleol, ymunodd â chwrs Cyfrif Dysgu Personol a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ennill Tystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol NEBOSH. Nod y cymhwyster yw rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ddysgwyr i helpu sefydliadau i ddelio â’u materion amgylcheddol.
Meddai Tesni:
"Enillais fy Nhystysgrif Rheolaeth Amgylcheddol drwy’r cwrs PLA sy’n cael ei ariannu yn ogystal â gwahanol gymwysterau Iechyd a Diogelwch. Mae PLAs yn wych – fe wnes i fy un i drwy Goleg Llandrillo, ond ar-lein. Roedd yn fy siwtio i beidio â gorfod teithio i’r coleg oherwydd roedd e’n gweithio o amgylch y plant a’r busnes."
Mae’r Cyfrifon Dysgu Personol yn gymwysterau ac yn gyrsiau a ariennir yn llawn, maen nhw’n hyblyg fel bod pobl yn gallu hyfforddi o amgylch eu cyfrifoldebau er mwyn datblygu yn eu swydd bresennol neu newid gyrfa yn gyfan gwbl.
Mae buddsoddiad ychwanegol o £2 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn Cyfrifon Dysgu Personol gwyrdd yn cefnogi ymgyrch Cymru i gyrraedd sero net. Gall y cap cyflog ar gyfer cymhwyso gael ei ddileu i rai sy’n gwella’u sgiliau neu’n dysgu sgiliau newydd mewn cymwysterau gwyrdd ym maes adeiladu, peirianneg, gweithgynhyrchu ac ynni.
“Fel busnes, rydyn ni’n awyddus i edrych ar ffyrdd y gallwn ni fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd,” ychwanega Tesni. “Ers fy astudiaethau, rydyn ni wedi cynyddu ein hymdrechion i ailgylchu ac rydyn ni’n edrych ar sut allwn ni inswleiddio a gwresogi ein swyddfeydd yn fwy effeithlon. Fe wnaeth y cwrs fi yn fwy ymwybodol o’r rheoliadau ac mae wedi ein helpu i ddangos ein hymrwymiad fel busnes i sero net. Byddwn yn annog eraill yn y diwydiant i edrych ar y Cyfrifon Dysgu Personol – maen nhw’n gymwysterau rhad ac am ddim ac maent ar gael mewn colegau lleol ar draws Cymru.”
Mae Tesni, sy’n ymwybodol o sut fydd sero net yn cael effaith uniongyrchol ar y diwydiant adeiladu, yn awr yn pwyso a mesur dewisiadau i astudio gradd MSc mewn Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Rheolaeth Amgylcheddol.
Yn gweithio y tu ôl i’r llen yn ymdrechion Cymru i gyrraedd sero net y mae pedair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol. Sian Lloyd Roberts yw Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru:
“Mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod gweithwyr sydd â’r sgiliau priodol yn bodloni anghenion cyflogwyr. Rydyn ni’n gweithredu fel pont rhwng darparwyr hyfforddiant – fel colegau – a chyflogwyr, gan gynyddu proffil yr hyfforddiant sydd ar gael ond gan hefyd feithrin dealltwriaeth o’r sgiliau sydd eu hagen ar draws Cymru.
“Mae sgiliau gwyrdd neu sgiliau sy’n gysylltiedig â charbon isel ar flaen ein cylch gwaith ac mae’n rhan fawr iawn o’r hyn a wnawn. Ein rôl ni yw helpu i roi sylw i brinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau, drwy weithio’n agos â Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni’n falch dros ben o gryfder ac amrywiaeth yr hyfforddiant a’r cymwysterau sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.”
Ond mae’n bendant nad oes neb yn llaesu dwylo ym Mhartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru:
“Mae yna wastad ragor i’w wneud, wrth gwrs, yn enwedig mewn sector sy’n datblygu mor gyflym.”