Cyfleoedd mentora cymunedol ym maes gofal plant a gwaith chwarae
Rydym yn chwilio am bobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) sydd â phrofiad o'r sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru i lywio polisi Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022 a'i adnewyddu ym mis Tachwedd 2024. Mae'r cynllun yn nodi nifer o nodau a chamau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn y sectorau gofal plant a gwaith chwarae.
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo drwy grŵp Llywodraethiant a thri is-grŵp, sef:
- Dysgu proffesiynol;
- Ymchwil; a
- Mentora cymunedol a chynghreirio.
Ers mis Gorffennaf 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu mentoriaid cymunedol i gydweithio a chefnogi'r grwpiau hyn a rhanddeiliaid allanol allweddol, gan sicrhau llais i brofiad bywyd pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a sicrhau eu bod nid yn unig yn cael eu clywed, ond ein bod yn gweithredu ar hynny wrth lunio adnoddau, polisïau a gweithdrefnau.
Mae'r cyfle i fod yn fentor cymunedol ar gael unwaith eto, drwy'r hysbyseb hon i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) sydd â phrofiadau bywyd ac arbenigedd mewn gofal plant a chwarae.
Am beth yr ydym yn chwilio?
Er mwyn cefnogi ein nod i greu Cymru wrth-hiliol a'n camau mewn perthynas â'r sector gofal plant a gwaith chwarae, mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am unigolion o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) yng Nghymru sydd â gwybodaeth am effaith hiliaeth o fewn amgylcheddau gofal plant a chwarae, a phrofiad o hynny.
Os ydych yn dod o gymuned Ddu, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) ac os oes gennych brofiad o'r sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru, naill ai fel aelod presennol neu gyn-aelod o'r gweithlu neu fel rhiant/gofalwr plentyn sy'n defnyddio, neu a ddefnyddiodd wasanaethau gofal plant neu chwarae, rydym am glywed gennych.
Gall mentoriaid cymunedol ddod o'r sectorau gwirfoddol neu breifat, neu gallant fod yn ymarferwyr cymunedol profiadol.
Rydym yn chwilio am hyd at 10 unigolyn o ystod amrywiol o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) i ddarparu gwasanaethau ymgynghori am dâl. Bydd pob penodiad am hyd at 10 diwrnod gwaith (80 awr) rhwng nawr a Mawrth 2026, gyda'r opsiwn i ymestyn am flwyddyn arall.
Beth yw Mentoriaid Cymunedol?
Mae mentoriaid cymunedol yn unigolion sy'n dod o gymunedau Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) sy'n meddu ar wybodaeth am effaith hiliaeth ym maes gofal plant, gwaith chwarae a'r blynyddoedd cynnar, neu brofiad o hynny.
Nid oes angen i fentoriaid cymunedol fod yn arbenigwyr mewn gofal plant a gwaith chwarae neu ddatblygu polisi, ond rydym am iddynt fod yn chwilfrydig ac yn ddewr i gael sgyrsiau am sut y gallwn helpu i wneud newidiadau er gwell.
Gall mentor cymunedol:
- aelodau o'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae, rhywun sydd wedi gadael y gweithlu
- rhiant/gofalwr sydd â phrofiad cyfredol neu ddiweddar o ddefnyddio gwasanaethau gofal plant a gwaith chwarae.
- gweithwyr cymunedol mewn un neu fwy o'r meysydd polisi.
Beth maen nhw'n ei wneud?
Mae rôl mentor cymunedol yn un bwysig iawn ac mae wedi bod yn hanfodol wrth helpu Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i fireinio a llunio polisïau, gweithdrefnau ac adnoddau wrth gyflawni nodau a chamau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol hyd yn hyn.
Mae'n bwysig eich bod, fel mentor cymunedol, yn gallu rhannu eich profiad bywyd gyda ni a darparu mewnbwn, arbenigedd a chyngor annibynnol i gefnogi grŵp Llywodraethiant Gofal Plant a Gwaith Chwarae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Is-grwpiau gyda'n rhanddeiliaid allweddol
Fel mentor cymunedol, byddai eich rôl yn cynnwys y canlynol:
- Dod â'ch profiad bywyd eich hun o'r sector gofal plant a gwaith chwarae o safbwynt cymuned Ddu, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) fel gweithiwr, cyn-weithiwr, rhiant neu arbenigwr yn y maes hwn.
- Darparu gwybodaeth am sut mae hiliaeth yn effeithio ar wahanol rannau o'r sector gofal plant a gwaith chwarae, a dealltwriaeth o hynny.
- Gweithio'n adeiladol gydag eraill i lywio'r ddealltwriaeth o ba newidiadau sydd eu hangen i gefnogi pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) yn y sector drwy sgyrsiau heriol am hil.
- Dod â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf i rannu gwybodaeth am sut mae hiliaeth sefydliadol a systemig yn effeithio ar fywydau gwahanol bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr), a dealltwriaeth o hynny.
- Helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu ymddygiadau a pholisi gwrth-hiliol yn y sector gofal plant a gwaith chwarae.
Pa dasgau y mae mentoriaid cymunedol yn ymgymryd â nhw?
Mae mentoriaid cymunedol yn ymgymryd ag ystod o dasgau ystyrlon ac amrywiol sy'n cynnig cyfleoedd i ddylanwadu a chydweithio â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol. Nid oes disgwyl ichi gyfrannu at yr holl weithgareddau, a gellir trefnu'r gwaith o amgylch ymrwymiadau personol neu broffesiynol eraill.
Fel mentor cymunedol, byddai eich tasgau yn cynnwys:
- Cynghori, cefnogi, cydgynllunio, a herio Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ehangach ar gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a'i weledigaeth a'i bwrpas ar gyfer Cymru wrth-hiliol.
- Mynychu ein Grŵp Llywodraethu Gofal Plant a Chwarae ArWAP ac is-grwpiau perthnasol i roi cipolwg trwy lens gwrth-hiliol.
- Adolygu adnoddau, a dogfennau fel polisïau, gweithdrefnau, canllawiau, a deunyddiau hyfforddi i sicrhau eu bod yn adlewyrchu egwyddorion gwrth-hiliol.
- Rhannu eich safbwynt a'ch arbenigedd ar ymchwil arfaethedig er mwyn ystyried rhwystrau mynediad at wasanaethau yn y sector gofal plant a chwarae.
- Ein helpu i ystyried y ffordd orau o ymgysylltu â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr) er mwyn dod o hyd i ffordd well o gofnodi llais a phrofiadau bywyd pobl yn y cymunedau hyn fel rhan o'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei gynnal.
- Cefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall yn well sgyrsiau cymhleth a heriol gyda phobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr).
Dyma rai o dasgau mentor cymunedol hyd yma:
- Cyd-ddylunio'r pecyn cymorth arfer gorau Creu lleoliad gwrth-hiliol.
- Adolygu ac adnewyddu nodau a gweithredoedd ArWAP
- Adolygu polisïau, templedi a strategaethau cydraddoldeb partneriaid Cwlwm.
- Adolygu adnoddau lleferydd, iaith a chyfathrebu
- Gweithio gyda Chwarae Cymru i ddatblygu cwestiynau arolwg ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
- Gweithio gydag arolygiaeth Gofal Cymru ar adolygiad cychwynnol o'r Fframwaith Arolygu
- Gweithio gydag ymchwilwyr cymdeithasol i ddylunio methodolegau ymchwil ac offer ymchwil
Pa brofiad fydda i'n ei gael?
Fel Mentor Cymunedol, byddwch yn ennill profiad arweinyddiaeth a chyfathrebu gwerthfawr ac yn helpu Llywodraeth Cymru a'i bartneriaid i ddylanwadu ar newid cadarnhaol yn y sector gofal plant a gwaith chwarae. Isod mae rhai dyfyniadau gan Fentoriaid Cymunedol cyfredol:
Dw i mor falch o gael cwrdd â phawb yn bersonol a gwybod bod ein holl waith wedi cael ei werthfawrogi'n fawr.
Dw i'n credu bod y gwaith mentora cymunedol wedi fy newid yn fawr o bryd i'w gilydd. Mae fy meddylfryd yn tyfu'n gryfach ac yn well.
Faint o amser y bydd disgwyl i rywun ei ymrwymo?
Mae hon yn rôl ymgynghori gyflogedig am hyd at 10 diwrnod gwaith (80 awr) o ddyddiad y penodiad hyd at fis Mawrth 2026. Gall yr oriau fod yn hyblyg ac nid oes angen eu cwblhau mewn blociau diwrnod llawn; gellir gweithio blociau tair neu bedair awr i gyfanswm o hyd at 80 awr dros gyfnod y penodiad tan fis Mawrth 2026.
Efallai y bydd opsiwn i ymestyn y penodiad y tu hwnt i fis Mawrth 2026.
Sut fydda i'n cael fy nhalu?
Fel mentor cymunedol, byddwch yn cael eich talu £37.50 yr awr, am hyd at 8 awr y dydd. Y cyfanswm sydd ar gael i'w hawlio yw £3,000, yn seiliedig ar 80 awr (10 diwrnod gwaith) o waith ymgynghori. Gellir hawlio treuliau a gytunwyd ymlaen llaw hefyd.
Byddwch yn cael templed taflen amser i gofnodi eich oriau bob mis. Byddwn yn gofyn am i'r holl daflenni amser gael eu cwblhau a'u cyflwyno erbyn y 7fed o bob mis. Cewch eich talu mewn ôl-daliadau a gaiff eu prosesu ar ddiwrnod gwaith olaf y mis.
Ar ôl cael eich penodi, byddai angen ichi lenwi holiadur Statws Cyflogaeth, yn ddarparu manylion i Dîm TAW a Threth Llywodraeth Cymru er mwyn penderfynu a fyddwch yn hunangyflogedig neu a fyddwch yn derbyn ffioedd, a byddwn yn prosesu'r taliad yn unol â hynny.
Os ydych eisoes yn was cyhoeddus yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, rydym yn rhagweld y byddwch yn cytuno â'ch cyflogwr fod hyn yn rhan o'ch cytundeb presennol ac na fyddwch yn cael eich talu. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru yn hapus i drafod y trefniant hwn fel rhan o ddyletswydd gwasanaeth cyhoeddus gyda'ch cyflogwyr os ydym yn eu hariannu neu’n cydweithio â nhw.
Noder, bydd gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn cael eu cwblhau cyn penodi. Bydd hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, chwiliadau ar y cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd. Os byddant yn llwyddiannus, gofynnir i fentoriaid cymunedol hefyd ddarparu enwau dau ganolwr (cyflogwr a phersonol) y byddwn yn cysylltu â nhw, a byddwn yn gwneud y gwiriadau diwydrwydd dyladwy angenrheidiol cyn penodi. Gall Llywodraeth Cymru ofyn i fentoriaid cymunedol gwblhau gwiriadau heddlu'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) os oes angen.
Fel mentor cymunedol, ni chewch liniadur gan Lywodraeth Cymru. Bydd y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd y bydd angen ichi eu mynychu yn rhithwir drwy Microsoft Teams, a bydd angen cwblhau eich tasgau yn electronig. Bydd disgwyl ichi fod â mynediad at yr offer angenrheidiol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y modd hwn.
Pa gymorth fydda i'n ei gael?
Bydd Tîm y Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar o fewn Llywodraeth Cymru yn darparu'r holl gefnogaeth, arweiniad a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch. Bydd y Tîm:
- Yn darparu Pecyn Sefydlu sy'n amlinellu'r rôl a'r gefnogaeth, ac yn cynnig arweiniad.
- Yn eich cefnogi ac yn ymgysylltu â chi yn rheolaidd, gan sicrhau bod gennych fynediad at swyddogion a enwebwyd ichi godi unrhyw bryderon gyda nhw, a threfniadau addas i gefnogi eich lles, gan gynnwys unrhyw beth sy'n achosi gofid.
- Yn darparu mynediad at sesiynau galw heibio misol i fentoriaid cymunedol a hwylusir gan DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth), lle gall mentoriaid ddod at ei gilydd a ffurfio rhwydwaith o gefnogaeth.
- Yn darparu templedi a nodiadau atgoffa ynghylch cyflwyno hawliadau am daliad.
- Yn sicrhau eich bod yn gwybod beth yw'r disgwyliadau o ran rôl a chylch gwaith.
- Yn sefydlu llinell gyfathrebu agored a chadarnhad ynghylch sut y bydd eich amser yn cael ei ddyrannu a'r adnoddau i gefnogi hyn.
- Yn darparu gwybodaeth glir am sut y byddwch yn cael eich talu mewn modd amserol.
Sut caiff y gwaith ei fonitro?
- Fel mentor cymunedol, byddwch yn mynychu Grŵp Llywodraethiant Gofal Plant a Gwaith Chwarae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac un o'r is-grwpiau.
- Byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn tasgau gwaith diffiniedig a byddwn yn darparu amcangyfrif o faint o amser y dylid ei neilltuo i bob tasg.
- Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chi'n uniongyrchol i sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael cefnogaeth briodol, ac yn gallu codi unrhyw faterion yn ôl yr angen.
Gwerthuso
Ni fyddwn yn cynnal gwerthusiad ffurfiol, fodd bynnag, byddwn yn gwerthuso'r cynnydd tuag at nodau a chamau gweithredu ArWAP a sut mae'r Mentor Cymunedol wedi cyfrannu a chefnogi'r gwaith hwn.
Sut y galla i wneud cais?
I wneud cais:
- Darparwch ddatganiad personol (dim mwy na 900 o eiriau) yn amlinellu sut rydych chi'n meddwl y gallwch gyfrannu at y rôl hon, ynghyd â'ch CV erbyn 23 Mehefin 2025 i HSCEY-EYCPD. Correspondence@gov.wales
- Ni fydd yn rhaid ichi gael cyfweliad; bydd panel yn ystyried y ceisiadau ac yn cysylltu â'r ymgeiswyr llwyddiannus.
- Efallai y bydd angen geirdaon ar gyfer y rhai a roddir ar y rhestr fer ar gyfer rôl mentor cymunedol.
- Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn clywed gan
- Lywodraeth Cymru ac yn cael manylion pellach, gan gynnwys eich statws fel person hunangyflogedig gan Lywodraeth Cymru.
Beth os oes gen i gwestiynau pellach?
Os hoffech ofyn unrhyw gwestiynau pellach, yna anfonwch e-bost at: