Bydd plant ac athrawon yng Nghymru yn cael y gefnogaeth emosiynol ac iechyd meddwl sydd ei hangen arnynt mewn ysgolion.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, a'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi cytuno ar fuddsoddiad gwerth £1.4 miliwn i gryfhau'r gefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed arbenigol (CAMHS) mewn ysgolion.
Bydd ymarferwyr CAMHS pwrpasol yn cael eu recriwtio i weithio gydag ysgolion fydd yn rhan o'r rhaglen beilot mewn tair ardal yng Nghymru. Bydd yr ymarferwyr yn rhoi help a chyngor ar y safle i athrawon, gan sicrhau bod disgyblion sydd ag anawsterau megis gorbryder, hwyliau isel a hunan-niweidio cymhellol neu anhwylderau ymddygiad yn cael help yn gynnar mewn ysgolion gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n briodol, gan atal problemau mwy difrifol rhag digwydd yn hwyrach yn eu bywydau.
Bydd y model:
- yn rhoi cefnogaeth i athrawon wella eu dealltwriaeth o drallod a phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl yn ystod plentyndod, a lleihau'r pwysau ar athrawon sy'n poeni am eu disgyblion drwy ddatblygu eu sgiliau i gydnabod problemau lefel isel a delio â hwy o fewn eu gallu
- yn sicrhau, pan fydd problemau yn codi sydd y tu allan i gymhwysedd a sgiliau'r athro, bod cyswllt, ymgynghoriaeth a chyngor arbenigol ar gael er mwyn i'r person ifanc gael ei gyfeirio at wasanaethau mwy addas megis CAMHS neu'r Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol, ac er mwyn cefnogi'r athro a'r ysgol i ddarparu ar gyfer anghenion addysgol y person ifanc
- yn sicrhau bod systemau ar waith er mwyn rhannu gwybodaeth briodol rhwng CAMHS ac ysgolion, y cytunir ar drefniadau gofal a rennir ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd angen cefnogaeth fwy dwys, a bod trefniadau ar gael i uwchgyfeiro/isgyfeirio yn ôl anghenion y person ifanc.
Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU drwy fod yr unig wlad sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth cwnsela yn eu hardal i blant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed, yn ogystal â phlant ym mlwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd. Mae'r fenter hon yn ategu'r gwaith hwnnw drwy ddarparu haen ychwanegol o gefnogaeth mwy arbenigol mewn ysgolion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:“Bydd un o bob pedwar person yng Nghymru yn wynebu problemau iechyd meddwl rywbryd yn ystod ei fywyd. Mae cael y driniaeth gywir yn gynnar, yn ogystal â mwy o ymwybyddiaeth o gyflyrau, mewn nifer o achosion, yn gallu rhwystro effeithiau negyddol yn yr hirdymor.
"Bydd y fenter unigryw newydd hon, yr ydym yn ei chyhoeddi heddiw, yn galluogi gwasanaethau arbenigol GIG Cymru i ehangu i'r ystafell ddosbarth. Bydd hyn yn sicrhau bod plant, athrawon ac eraill sy'n gofalu am blant yn ein hysgolion yn cael cefnogaeth i hyrwyddo iechyd meddwl ac emosiynol da. Bydd yn helpu i nodi a mynd i'r afael â phroblemau yn gynnar, ac yn helpu i rwystro problemau mwy difrifol rhag digwydd yn hwyrach mewn bywyd.
Un o brif amcanion Llywodraeth Cymru yw gwella iechyd a lles pobl Cymru. Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais, sef ffyniant i bawb, tra'n cymryd camau sylweddol i newid ein dull o drin i atal.
"Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn gwneud gwasanaethau cymorth yn fwy hygyrch, yn mynd i'r afael â straen sy'n gysylltiedig ag ysgol, ac yn codi'r pwysau oddi ar CAMHS arbenigol drwy leihau cyfeiriadau anaddas. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn hwyluso diwylliant ehangach sy'n hyrwyddo ac sy'n gwerthfawrogi iechyd meddwl a lles cadarnhaol yn ein hysgolion."
"Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn treulio cyfran fawr o'u hamser yn yr ysgol, felly mae'n amlwg bod angen i athrawon allu eu helpu a'u cefnogi os byddant yn cael anhawster mewn bywyd megis gorbryder, hwyliau isel, hunan-niweidio cymhellol neu anhwylderau ymddygiad.
"Drwy'r fenter newydd hon, rydym yn gwneud ysgolion yn lleoedd sy'n hyrwyddo iechyd meddwl a lles cadarnhaol, ac sy'n atal ac ymyrryd yn fuan ar sail tystiolaeth pan fo'i angen.
“Bydd yn galluogi plant a phobl ifanc i fynd i'r afael a'u problemau yn gynt, cyn iddynt ddatblygu. Bydd hefyd yn sicrhau bod athrawon yn teimlo'n hyderus i ddelio â thrallod emosiynol a’u bod yn gwybod ble i gael cefnogaeth."