Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod presenoldeb Cymru ar lwyfan y byd mor gryf ag y bo modd, ac mae’n ymrwymo i ‘gysylltiadau agosach â’r UE ym meysydd yr economi ac ymchwil’.

Bydd cydweithredu â gwledydd a rhanbarthau eraill yn helpu i

  • Gynyddu proffil Cymru ar lwyfan y byd
  • Tyfu economi Cymru
  • Sefydlu Cymru fel gwlad sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae gweithio ar y cyd yn rhoi cyfleoedd i rannu syniadau, nodi’r arferion gorau, ehangu arloesi a chystadleurwydd a mynd i’r afael â phroblemau sy’n estyn ar draws ffiniau. Hoffem weld Cymru Ystwyth sy’n edrych tuag allan at bartneriaid yn y DU, yn Ewrop ac yn rhyngwladol, nawr ac yn y dyfodol – i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cyffredin a mynd i’r afael â heriau cyffredin. 

Mae Horizon Ewrop yn darparu cyfle mawr i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gydweithio â'r gorau yn y byd, denu talent fyd-eang a chyflawni gwyddoniaeth ac arloesedd blaengar er budd cymdeithas.

Nawr mae’r DU yn gymwys i gael cyllid yr UE gan Horizon Ewrop, mae angen ailadeiladu ymddiriedaeth fel mater o frys a chwarae rhan weithredol yn rhwydweithiau Horizon Ewrop, ac estyn ymwybyddiaeth o’r rhaglen i bob cymdeithas y mae’n bosibl y gall gyfrannu. Mae amrediad o grantiau teithio a chyllid sbarduno i gefnogi hyn, ac mae’r ecosystem gymorth hon yn parhau i esblygu. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi angen i ganolbwyntio ei chymorth ar gysylltiadau strwythuredig a strategol sy’n gallu ehangu manteision cysylltiad y DU i sectorau cyfan a chlystyrau ledled Cymru. Wrth wneud hyn, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i lenwi bylchau yn yr ecosystem gymorth. 

Menter

Mae'r fenter hon yn targedu sefydliadau ‘ymbarél’ neu sefydliadau sy'n gallu cynrychioli cymuned thematig yng Nghymru. Mae cyfleoedd yn Horizon Ewrop yn helaeth ac yn gymhleth, a hefyd yn gystadleuol iawn. Bydd arbenigwyr sydd â gwybodaeth am eu sectorau yn gallu nodi cyfleoedd a rhwystrau penodol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol yn y DU a'r UE, ond yn aml maent yn brin o amser. Yr amcan yw rhoi rhagor o hyblygrwydd i glystyrau Cymru i weithredu ac integreiddio â rhwydweithiau Ewropeaidd.

Yr amcan yw cynyddu ansawdd, nifer a maint y cyfranogwyr o Gymru sy’n cymryd rhan ym mhrosiectau Horizon Ewrop mewn ffordd systematig. Rhaid i brosiectau gael effaith y gellir ei mesur ar geisiadau i raglenni gwaith 2025

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dangos hanes o gydweithio rhyngwladol neu amcan strategol i ymgysylltu â Horizon Ewrop dros gyfnod o flynyddoedd. Dylai ymgeiswyr fod yn barod i gynrychioli a lledaenu gwybodaeth i amrywiaeth o sefydliadau mewn meysydd o arbenigedd Cymreig.

Bydd gweithgareddau â chymorth yn datblygu cysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol blaenllaw ac yn nodi diddordebau/cryfderau ymchwil cydfuddiannol sy'n cyd-fynd â chyfleoedd Horizon Ewrop. Gallai camau gweithredu gynnwys:

  • Datblygu ceisiadau ar gyfer Horizon Ewrop yn 2025
  • nodi'r ymgeiswyr mwyaf addawol mewn sector penodol yng Nghymru
  • Ymchwilio i'r consortia, y partneriaethau a'r cymdeithasau perthnasol yn Ewrop
  • Mynychu digwyddiadau a chyfarfodydd ac adeiladu cysylltiadau mewn meysydd arb/node/53254enigedd
  • Cychwyn cydweithio
  • Lledaenu gwybodaeth i glwstwr ehangach
  • Nodi beth sy'n rhwystro'r clwstwr rhag cymryd rhan a mynd i'r afael â'r rhain, ee cyfranogiad yn y sector preifat, ymchwilwyr sy'n dechrau ar eu gyrfa, cydbwysedd rhwng y rhywiau, profiad cydlynu.  

Bydd themâu o fewn Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru yn flaenoriaeth, lle maent yn gorgyffwrdd â chyfeiriad strategol Horizon Ewrop. 

Bydd cais cryf yn adlewyrchu’r cyd-destun strategol a amlinellir yn y ddogfen hon yn ogystal â:

  • Chreu nifer o geisiadau i Horizon Ewrop
  • Trechu rhwystrau uniongyrchol i ragor o geisiadau a cheisiadau o ansawdd uwch 
  • Bod â mynediad at ymgeiswyr credadwy i Horizon Ewrop sydd â’r rhagoriaeth angenrheidiol (neu’r arloesi tarfol) ac sy’n cysylltu ag effeithiau (e.e. diwydiannol, polisi)
  • Cynrychioli clwstwr neu gymuned thematig arall yng Nghymru 
  • Ysgogi ymgysylltu rhyngwladol mewn themâu â blaenoriaeth
  • Datblygu a gweithredu cynllun i ymgysylltu â phartneriaethau/rhwydweithiau arwyddocaol yn Horizon Ewrop 

Bydd angen i bob ymgeisydd ddangos bod y cynnig yn hyfyw ac yn rhoi gwerth am arian. Byddwn hefyd yn disgwyl cyfraniad priodol at allbynnau a chanlyniadau perthnasol Cymru Ystwyth.

Mae gan y fenter gyllideb o £50,000. Rydym yn disgwyl ariannu 4 i 6 prosiect, gan gynnig cyfraniad grant fesul prosiect o tua £10,000 ar 100% o'r costau cymwys, ond caiff Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i ceisiadau sy’n ysgogi cyllid arall.

Lle nad yw'r arian sydd ar gael yn ddigonol i fynd i'r afael â'r holl gyfleoedd/materion a nodwyd, dylid creu cynllun byr ar gyfer gweithredu yn y dyfodol fel allbwn. Nid oes sicrwydd o gyllid dilynol, ond dylai prosiectau greu syniadau ar gyfer gweithredu rhag ofn y bydd cyfleoedd yn codi. 

Os yw eich cynnig yn cynnwys cydweithredu â gwledydd neu ranbarthau eraill a/neu ffocws llai penodol ar Horizon Ewrop, yna dylech ystyried y cymorth arall sydd ar gael o dan Cymru Ystwyth. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i gefnogi hyfforddiant a datblygu cynigion unigol i Horizon Ewrop pan fydd modd – cysylltwch ag Uned Horizon Ewrop os yw eich cynnig yn y categori hwnnw: HorizonEurope@llyw.cymru 

Costau cymwys

Oni nodir yn benodol yn yr alwad hon, mae rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth yn berthnasol.

Gall y gwariant gynnwys gweithgareddau partneriaid y tu allan i Gymru, ar yr amod mai’r partner yng Nghymru sy’n ysgwyddo’r costau yr hawlir amdanynt ac y gellir dangos gwerth am arian. Fodd bynnag, rydym yn eich argymell i gysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y gwaith o ddatblygu eich cynnig i sicrhau ei fod yn cydymffurfio.

Ni fyddwn yn cefnogi gweithgareddau na gwariant ar ôl 31 Mawrth 2025. 

Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol ac anhyblygrwydd, nid ydym yn gosod rhestr gaeth o gostau cymwys, ond rhaid i’r costau fod yn angenrheidiol er mwyn hyrwyddo, gweithredu a lledaenu’r prosiectau y cytunwyd arnynt yn y broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, wedi cael eu dilysu ac wedi’u hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Gweler rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth am ragor o fanylion. Rydym hefyd yn eich argymell i ganolbwyntio ar eitemau gwariant mwy ynghyd â thrywydd tystiolaeth cadarn i symleiddio’r broses hawlio.   

Nid yw costau a ysgwyddwyd cyn y dyddiad cymeradwyo’n gymwys, oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig.

Cyflwyno ceisiadau

Rydym yn derbyn ceisiadau nawr. Os nad yw eich cynnig yn ‘gryf’ fel y diffinnir uchod, cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno cais. Fel arall cwblhewch y ffurflen gais a’i hanfon at Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn AgileCymru@llyw.cymru.

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail y graddau y maent yn cyd-fynd â nodau’r fenter hon, a Llywodraeth Cymru a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gall y penderfyniad hwn gynnwys cynnig grant is na’r grant y gofynnwyd amdano. Mae’n bosibl y byddwn yn ceisio cyngor gan gydweithwyr arbenigol neu gydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol. Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail ‘y cyntaf i’r felin’, ond bydd rhywfaint o gyfleoedd ar gyfer eglurhad pellach, ac mae’n bosibl y bydd ceisiadau nad ystyrir eu bod yn ‘gryf’, fel y diffinnir yn y ddogfen hon, yn cael eu rhoi ar restr wrth gefn i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio dull portffolio er mwyn rheoli’r cydbwysedd rhwng risg ac amrediad o ganlyniadau. Bydd hyn yn cynnwys lledaenu gweithgareddau ar draws themâu, ardaloedd a sectorau lle y byddant yn atgyfnerthu canlyniadau cyffredinol y fenter hon. Felly, mae’n bosibl y byddwn yn rhoi ceisiadau ar y ‘rhestr wrth gefn’, er mwyn rheoli ystyriaethau portffolio neu am resymau cyllidebol.