Neidio i'r prif gynnwy

Y Cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi'r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd ac mae'n ymrwymo i ‘gysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â'r UE’. Bydd cydweithredu â gwledydd a rhanbarthau eraill yn helpu o ran:

  • Cynyddu proffil Cymru ar lwyfan y byd;
  • Datblygu economi Cymru;
  • Sefyllfa Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Mae cydweithio yn rhoi cyfleoedd i gyfnewid syniadau, nodi meysydd o arferion gorau, ymestyn arloesedd a chystadleurwydd ac i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at bartneriaid presennol a phartneriaid y dyfodol yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir a mynd i'r afael â heriau cyffredin.

Llofnododd Cyngor Rhanbarthol Llydaw a Llywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn 2004, a adnewyddwyd yn 2023 ac a nododd nifer o feysydd ar gyfer cydweithredu. Yn 2024, gwnaeth Cyngor Rhanbarthol Llydaw a Llywodraeth Cymru ailddatgan eu hymrwymiad i barhau a datblygu eu partneriaeth, a chytunwyd ar y blaenoriaethau canlynol ar gyfer 2024 a 2025:

  • Cydweithredu diwylliannol 
  • Ynni adnewyddadwy morol
  • Seiberddiogelwch
  • Symudedd pobl ifanc a dysgwyr

Cydnabyddir y bydd y cynllun Taith a gefnogir gan Lywodraeth Cymru a strategaeth Cyngor Rhanbarthol Llydaw ar gyfer symudedd rhyngwladol pobl ifanc yn gyffredinol yn mynd i'r afael â symudedd pobl ifanc a dysgwyr.

Mae Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol Cymru yn tynnu sylw at sut y dylem adeiladu ar y gweithgarwch a'r rhwydweithiau a sefydlwyd drwy gyfranogiad Cymru mewn ystod o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC).

Mae Horizon Ewrop yn darparu cyfle pwysig i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gydweithio â'r gorau yn y byd, denu talent fyd-eang a pharhau ag arloesi a gwyddoniaeth arloesol er budd cymdeithas.

Mae Cymru Ystwyth yn cefnogi ‘hadu’ neu hwyluso gweithgarwch sy'n adeiladu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol ac yn cynyddu cydweithredu mewn meysydd sydd â'r potensial i arwain at weithgarwch economaidd mwy cynaliadwy o arwyddocâd i Gymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio diwylliannol a manteision cymdeithasol gweithio ar draws ffiniau.

Y Fenter

Mae'r fenter hon yn annog ceisiadau gan sefydliadau sy'n gweithredu yng Nghymru sydd wedi nodi prosiect ar y cyd gyda phartner yn Llydaw a fydd yn cefnogi nodau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Canolbwyntir ar weithgarwch a gwariant yng Nghymru a hawlir cyn diwedd mis Mawrth 2025.

Disgwylir i brosiectau ar y cyd gynnwys partner yn Llydaw sy'n cyflawni o leiaf 25% o weithgarwch cyffredinol y prosiect ac sy'n cael ei ariannu ar wahân. Mae Cyngor Rhanbarthol Llydaw wedi sicrhau bod cyllid ar gael at y diben hwn drwy ei gynllun 'B-Monde Projets – Europe et international'. Mae ffynonellau cyllid eraill hefyd yn cael eu croesawu os gellir darparu tystiolaeth briodol. Rhaid i ymgeiswyr ddangos y bydd eu gweithgarwch arfaethedig yn gweddu i ofynion ac amserlenni pob cyllidwr.

Gall y cynnig gynnwys gweithgarwch partneriaid nad ydynt yng Nghymru na Llydaw pan fo'r gwerth ychwanegol yn glir. Gellid hawlio costau cysylltiedig os bydd y partner yng Nghymru yn eu hysgwyddo, ond rydym yn eich cynghori i gysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn natblygiad eich cynnig i sicrhau cydymffurfiaeth.

Bydd cais cryf yn adlewyrchu'r cyd-destun strategol a nodir uchod ac yn:

  • Cefnogi ac adeiladu cysylltiadau strategol â Llydaw, gan adlewyrchu nodau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
  • Creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes sy'n arwyddocaol ar gyfer economi Cymru.
  • Mynd i'r afael yn uniongyrchol ag un neu fwy o'r meysydd blaenoriaeth canlynol: Cydweithredu diwylliannol, Ynni adnewyddadwy morol, Seiberddiogelwch.
  • Cynnwys sefydliadau neu rwydweithiau pwysig a pherthnasol yn Llydaw neu Ffrainc.
  • Trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar flaenoriaethau polisi Cymru.
  • Adeiladu a datblygu ar y gweithgarwch presennol.
  • Meddu ar lwybr clir i ddod â chyllid arall i mewn, neu lwybr arall at weithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy.

Bydd angen i bob cais ddangos hyfywedd a gwerth am arian. Byddem hefyd yn disgwyl cyfraniad priodol at allbynnau a chanlyniadau perthnasol Cymru Ystwyth.

Nid oes trothwyon grant sefydlog ond yn seiliedig ar brofiad mae'r canlynol yn ganllaw:

  • Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a gwasanaeth ymgynghori, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £3,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol ar gyfer gweithgarwch yng Nghymru.
  • Ar gyfer prosiectau sy’n fwy strategol, fel ffurfio rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnydd sylweddol o ddeunyddiau ac amser staff, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £8,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol ar gyfer gweithgarwch yng Nghymru. Byddai disgwyl i brosiectau strategol fodloni’r meini prawf ‘cryf’ a nodir uchod a meddu ar y potensial i gael effaith sylweddol.

Gall y fenter hon gefnogi hyd at 100% o gostau cymwys y partner yng Nghymru pan fo cyfiawnhad dros hynny. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ceisiadau sy'n manteisio ar gyllid ar wahân i ffynonellau Llywodraeth Cymru neu Gyngor Rhanbarthol Llydaw. 

Mae'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer y fenter hon hyd at £20,000 ond byddwn yn ystyried ymrwymiadau eraill a thanwariant ar adeg y penderfyniad. 

Costau cymwys

Oni nodir yn benodol yn y fenter hon, mae rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth yn berthnasol.

Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch masnachu cyffredinol na marchnata cynnyrch. Os mai allforio yw prif ffocws y gweithgarwch, mae cymorth penodol ar gael gan Lywodraeth Cymru, a allai fod yn fwy addas.

Gall Cymru Ystwyth gefnogi prosiectau ym maes diwylliant, treftadaeth a chwaraeon os oes potensial gan y gweithgarwch arfaethedig i arwain at fwy o gydweithrediad sydd yn gynaliadwy ac o arwyddocâd i Gymru. Rydym yn annhebygol o gefnogi perfformiadau neu artistiaid unigol.

Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch na gwariant ar ôl 31 Mawrth 2025.

Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol a diffyg hyblygrwydd, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o gostau cymwys, ond rhaid i gostau fod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo, gweithredu a lledaenu'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, yn wiriadwy a chael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Edrychwch ar reolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth i gael rhagor o fanylion. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn canolbwyntio ar eitemau gwariant uwch gyda thrywydd tystiolaeth cryf i symleiddio’r broses hawlio. 

Nid yw'r costau a ysgwyddir cyn y dyddiad cymeradwyo yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig.

Gan y bydd y partner yn Llydaw yn cael ei ariannu ar wahân nid yw eu costau yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig.

Os yw eich partner yn Llydaw yn bwriadu gwneud cais i gynllun ‘B-Monde Projets – Europe et international’ Cyngor Rhanbarthol Llydaw rhaid iddynt fodloni ei reolau a'i weithdrefnau. Mae'n werth nodi'r agweddau canlynol ar y cynllun hwnnw:

  • Dim ond sefydliadau ‘nid er elw’ sydd wedi'u lleoli yn Llydaw sy'n gymwys i gael cyllid.
  • Rhaid bod yr ymgeisydd wedi bodoli'n gyfreithiol am flwyddyn o leiaf.
  • Dim ond hyd at 70% o'r costau cymwys perthnasol y bydd y cynllun yn ei gefnogi (ar gyfer gweithgarwch gyda Chymru).
  • Rhaid i'r ymgeisydd gynnwys 10% o hunangyllido yn y gyllideb berthnasol.
  • Rhaid i'r ymgeisydd wneud cais o leiaf 3 mis cyn i'r gweithgarwch perthnasol ddechrau.
  • Mae hyblygrwydd i ysgwyddo gwariant hyd at 24 mis ar ôl y dyddiad cymeradwyo ffurfiol.

Cyflwyno ceisiadau

Rydym yn agored i geisiadau nawr. O ystyried y gofyniad am brosiect ar y cyd gyda chyllid ar wahân ar gyfer y partner yn Llydaw, rydym yn eich annog yn gryf i sefydlu ymrwymiad y partner a ffynhonnell ariannu bosibl cyn gwneud cais. Hefyd, os nad yw eich cais yn ‘gryf’ fel y diffinnir hynny uchod, cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno eich cais. Fel arall, cwblhewch y ffurflen gais a'i hanfon ar e-bost at Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn CymruYstwyth@llyw.cymru.

Caiff ceisiadau eu pwyso a'u mesur yn unol â nodau'r fenter hon, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gallai’r penderfyniad hwn gynnwys lefel is o grant na’r hyn y gwnaed cais amdano. Efallai y byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol a chyngor gan gydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol. Byddwn yn cydweithio'n agos â Chyngor Rhanbarthol Llydaw ar rinweddau pob cais, gan rannu gwybodaeth a cheisiadau yn ôl yr angen, p'un a yw eu cyllid yn gysylltiedig ai peidio.

Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail ‘y cyntaf i'r felin’ ond prin fydd y cyfle i gael eglurhad pellach a gall ceisiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gryf fel y'u diffinnir yn y ddogfen hon gael eu rhoi ar ‘restr wrth gefn’ i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu dull portffolio er mwyn rheoli cydbwysedd risg ac ystod y canlyniadau. Bydd hyn yn cynnwys ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau ar draws themâu, daearyddiaeth a sectorau lle y bydd yn cryfhau canlyniadau cyffredinol y fenter hon. Mae’n bosibl y byddwn felly yn rhoi ceisiadau ar y ‘rhestr wrth gefn’ er mwyn rheoli ystyriaethau portffolio, neu am resymau cyllidebol..

Efallai y bydd angen gohirio cymeradwyaeth ffurfiol hefyd nes bod pecyn ariannu'r prosiect ar y cyd yn cael ei gadarnhau, er enghraifft os yw'r partner yn Llydaw yn aros am benderfyniad ariannu. Llywodraeth Cymru fydd â'r penderfyniad terfynol ynghylch pryd i gymeradwyo ac ar ba sail, a gall gymeradwyo cyn penderfyniadau ariannu eraill. Fodd bynnag, ni fydd costau partneriaid yng Nghymru a ysgwyddir heb gytundeb ysgrifenedig penodol gan Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gymwys.