Menter i annog cydweithredu â rhanbarthau rhyngwladol pwysig (Cymru Ystwyth)
Ar agor i geisiadau nawr ar gyfer gweithgarwch a gwariant rhwng 1 Ebrill 2025 a diwedd Mawrth 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi'r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd. Bydd cydweithredu â gwledydd a rhanbarthau eraill yn helpu o ran:
- cynyddu proffil Cymru ar lwyfan y byd;
- datblygu economi Cymru;
- sefyllfa Cymru fel gwlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Mae cydweithio yn rhoi cyfleoedd i gyfnewid syniadau, nodi meysydd o arferion gorau, ymestyn arloesedd a chystadleurwydd a mynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at bartneriaid presennol a phartneriaid y dyfodol yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir a mynd i'r afael â heriau cyffredin.
Mae Strategaeth Ryngwladol a Cynllun Gweithredu Perthnasoedd a Rhwydweithiau Rhanbarthol sy’n cael Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yn nodi'r angen i wella cydweithredu mewn sectorau allweddol a gweithio gyda rhanbarthau a rhwydweithiau ledled y byd sy'n rhannu ein huchelgeisiau. Mae gan Lywodraeth Cymru Femoranda Dealltwriaeth neu gytundebau dwyochrog cyfatebol gyda sawl rhanbarth rhyngwladol.
Mae Gogledd America yn farchnad bwysig i Gymru ac mae cydweithredu economaidd mewn meysydd fel gwyddorau bywyd, deallusrwydd artiffisial, trawsnewid i ynni adnewyddadwy a’r economi gylchol yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Mae Datganiad o Fwriad rhwng Quebec a Chymru sydd wedi'i gefnogi gan Alwad ar y Cyd ers 2020, gan ariannu cydweithredu dwyochrog mewn ynni adnewyddadwy, gwyddorau bywyd, deallusrwydd artiffisial, llenyddiaeth, cerddoriaeth a'r celfyddydau perfformio. Mae cyfle i ehangu cydweithredu drwy Cymru Ystwyth pan fo'n ychwanegu gwerth at unrhyw Alwadau ar y Cyd. Nod y prosiect Trawsatlantig yw hwyluso cydweithredu pellach rhwng Cymru, Quebec a rhanbarthau'r UE ar thema twf glas cynaliadwy, a gallai Cymru Ystwyth gefnogi gweithgarwch cysylltiedig.
Mae Cymru wedi cael perthynas hir a chlos gyda Japan ers y buddsoddiadau cyntaf yng Nghymru gan gwmnïau o Japan yn y 1970au. Heddiw mae Japan yn cynnig cyfleoedd sylweddol i Gymru mewn meysydd fel ynni adnewyddadwy, lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch, medtech a'r diwydiannau creadigol. Gan gydnabod pwysigrwydd Japan i Gymru, mae'r Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi lansio ‘Cymru a Japan 2025’, ymgyrch blwyddyn o hyd i ysgogi partneriaethau economaidd a diwylliannol newydd rhwng y ddwy wlad sy'n dod â manteision hirhoedlog i bobl Cymru. Bydd yr ymgyrch yn cyflawni yn erbyn uchelgeisiau craidd y Strategaeth Ryngwladol a bydd yn manteisio ar yr EXPO sy'n digwydd yn Osaka eleni i gyrraedd cynulleidfa ddomestig a rhyngwladol eang. Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes Femoranda Dealltwriaeth gyda Llywodraeth Lywyddiaethol Oita yn Japan, sy'n mynegi eu dyhead diffuant i gryfhau cysylltiadau mewn meysydd fel y celfyddydau a diwylliant, chwaraeon, y byd academaidd, twristiaeth, a bwyd a diod.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiannau mawr a welwyd drwy gydol Blwyddyn Cymru yn India. O ddigwyddiadau buddsoddi di-ri a thaith fasnach gyntaf Cymru i gronfa ddiwylliannol fawr a thros 300 o feddygon a nyrsys wedi'u recriwtio, mae'r ymdrechion wedi gwneud gwahaniaeth amlwg yr ydym yn gobeithio ei gynnal a'i gryfhau. Yn economaidd, ac felly yng nghyd-destun y fenter hon, mae ein ffocws craidd ar wyddorau bywyd, lled-ddargludyddion cyfansawdd a gweithgynhyrchu uwch. Rydym hefyd yn angerddol am ein cysylltiadau diwylliannol dwfn, yn enwedig ein perthynas â phobl Khasi Meghalaya a chymunedau Nagaland. Mae gan y ddwy wladwriaeth gysylltiad mawr â Chymru ac maent yn cyflwyno cyfleoedd unigryw a chyffrous i Gymru.
Mae Horizon Ewrop yn cynnig cyfle pwysig i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gydweithio â'r gorau yn y byd, denu talent byd-eang a chreu gwyddoniaeth flaengar ac arloesi er budd cymdeithas. Mae'r rhaglen yn fyd-eang, gyda Seland Newydd, Canada, De Korea, ac eraill yn cymryd rhan.
Mae Cymru Ystwyth yn cefnogi ‘hadu’ neu hwyluso gweithgarwch sy'n adeiladu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol ac yn cynyddu cydweithredu mewn meysydd sydd â'r potensial i arwain at fwy o weithgarwch economaidd, sy'n fwy cynaliadwy, ac o arwyddocâd i Gymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio diwylliannol a manteision cymdeithasol gweithio ar draws ffiniau.
Y fenter
Mae'r fenter hon yn annog ceisiadau gan sefydliadau sy'n gweithredu yng Nghymru sydd â'r potensial i gynyddu a chynnal cydweithrediad gyda rhanbarthau rhyngwladol pwysig. Gallai hyn gynnwys cysylltiadau â'r rhanbarthau a nodwyd uchod, neu ranbarthau eraill os yw Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn bwysig yng nghyd-destun eich gweithgarwch arfaethedig. Gallai hefyd adlewyrchu'r themâu a nodir uchod, mewn cytundebau dwyochrog neu strategaeth berthnasol a phenodol Llywodraeth Cymru. Bydd y fenter yn cefnogi gweithgarwch a gwariant rhwng 1 Ebrill 2025 a diwedd Mawrth 2026.
Bydd cais cryf yn adlewyrchu'r cyd-destun strategol a nodir uchod ac yn:
- cefnogi ac adeiladu cysylltiadau strategol perthnasol y tu allan i Gymru
- creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes sy'n arwyddocaol ar gyfer economi Cymru
- cynnwys sefydliadau neu rwydweithiau pwysig a pherthnasol
- trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar flaenoriaethau polisi Cymru
- adeiladu a datblygu ar y gweithgarwch presennol
- meddu ar lwybr clir i ddod â chyllid arall i mewn, neu lwybr arall at weithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy
Bydd angen i bob cais ddangos hyfywedd a gwerth am arian. Byddem hefyd yn disgwyl cyfraniad priodol at allbynnau a chanlyniadau perthnasol Cymru Ystwyth.
Nid oes trothwyon grant sefydlog, ond yn seiliedig ar brofiad mae'r canlynol yn ganllaw:
- Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a gwasanaeth ymgynghori, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £4,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol.
- Ar gyfer prosiectau sy’n fwy strategol, fel ffurfio rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnydd sylweddol o ddeunyddiau ac amser staff, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £20,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol. Byddai disgwyl i brosiectau strategol fodloni’r meini prawf ‘cryf’ a nodir uchod a meddu ar y potensial i gael effaith sylweddol.
Gall ymgeiswyr gyflwyno prosiectau sy'n cydweithredu ag un neu fwy o ranbarthau. Nid oes angen cyflwyno nifer o geisiadau. Y sail ar gyfer y fenter ariannu hon yw budd i Gymru, ond nid oes cyfyngiad ar y partneriaid posibl sy'n dymuno sicrhau'r budd hwnnw. Fodd bynnag, byddai disgwyl cysylltiadau gydag o leiaf un sefydliad neu rwydwaith rhyngwladol fesul cais.
Gall y fenter hon gefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys os oes cyfiawnhad dros hynny, ond gall Llywodraeth Cymru flaenoriaethu ceisiadau sydd â chyfraddau ymyrraeth is. Nid yw cyllid gan wlad neu ranbarth arall, neu'r posibilrwydd realistig o sicrhau cyllid o'r fath yn ystod cyfnod y prosiect, yn ofyniad ond gall fod yn rheswm dros flaenoriaethu.
Y gyllideb a ddyrennir ar gyfer y fenter hon yw hyd at £50,000 ond byddwn yn ystyried ymrwymiadau eraill a thanwariant ar adeg y penderfyniad.
Costau cymwys
Oni nodir yn benodol yn yr alwad hon, mae rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth yn berthnasol.
Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch masnachu cyffredinol na marchnata cynnyrch. Os mai allforio yw prif ffocws y gweithgarwch, mae cymorth penodol ar gael gan Lywodraeth Cymru, a allai fod yn fwy addas.
Gall Cymru Ystwyth gefnogi prosiectau ym maes diwylliant, treftadaeth a chwaraeon os oes potensial gan y gweithgarwch arfaethedig i arwain at fwy o gydweithrediad sydd yn gynaliadwy ac o arwyddocâd i Gymru. Rydym yn annhebygol o gefnogi perfformiadau neu artistiaid unigol.
Mae Taith, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy'n newid bywydau i bobl yng Nghymru ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd. Felly, mae'n annhebygol y bydd Cymru Ystwyth yn cefnogi symudedd rhyngwladol ar gyfer canlyniadau addysg.
Gall y gwariant gynnwys gweithgarwch partneriaid nad ydynt yn Gymry, ar yr amod bod y costau a hawlir yn cael eu hysgwyddo gan bartner Cymru a bod modd dangos gwerth am arian. Fodd bynnag, rydym yn cynghori cysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn natblygiad eich cynnig i sicrhau cydymffurfiaeth.
Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch na gwariant ar ôl 31 Mawrth 2026.
Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol a diffyg hyblygrwydd, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o gostau cymwys, ond rhaid i gostau fod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo, gweithredu a lledaenu'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, yn wiriadwy a chael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Edrychwch ar reolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth i gael rhagor o fanylion. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn canolbwyntio ar eitemau gwariant uwch gyda thrywydd tystiolaeth cryf i symleiddio’r broses hawlio.
Nid yw'r costau a ysgwyddir cyn y dyddiad cymeradwyo yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig.
Cyflwyno ceisiadau
Rydym yn agored i geisiadau nawr. Hefyd, os nad yw eich cais yn ‘gryf’ fel y diffinnir hynny uchod, cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno eich cais. Fel arall, cwblhewch y ffurflen gais a'i hanfon ar e-bost at Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn CymruYstwyth@llyw.cymru.
Caiff ceisiadau eu pwyso a'u mesur yn unol â nodau'r fenter hon, a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gallai’r penderfyniad hwn gynnwys cynnig lefel is o grant na’r hyn y gwnaed cais amdano. Efallai y byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol a chan gydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol. Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail ‘y cyntaf i'r felin’ ond bydd cyfle i gael eglurhad pellach a gall ceisiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gryf fel y'u diffinnir yn y ddogfen hon gael eu rhoi ar ‘restr wrth gefn’ i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu dull portffolio er mwyn rheoli cydbwysedd risg ac ystod y canlyniadau. Bydd hyn yn cynnwys ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau ar draws themâu, daearyddiaeth a sectorau lle y bydd yn cryfhau canlyniadau cyffredinol y fenter hon. Mae’n bosibl y byddwn felly yn rhoi ceisiadau ar y ‘rhestr wrth gefn’ er mwyn rheoli ystyriaethau portffolio, neu am resymau cyllidebol.