Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd ac yn ymrwymo i ‘gysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â’r UE’. Bydd cydweithio â gwledydd a rhanbarthau eraill yn helpu i:

  • Ychwanegu proffil Cymru ar lwyfan y byd
  • Datblygu economi Cymru;
  • Sefyllfa Cymru fel gwlad cyfrifol yn fyd-eang.

Mae cydweithio yn rhoi cyfleoedd i gyfnewid syniadau, nodi meysydd o arferion gorau, ymestyn arloesedd a chystadleurwydd ac i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at bartneriaid presennol a phartneriaid y dyfodol yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir a mynd i'r afael â heriau cyffredin

Mae Strategaeth Ryngwladol a Chynllun Gweithredu Perthnasoedd a Rhwydweithiau Rhanbarthol sy’n cael Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yn nodi'r angen i wellau cydweithio mewn sectorau allweddol a gweithio gyda rhanbarthau a rhwydweithiau ledled y byd sy’n rhannu ein huchelgeisiau. Mae gan Lywodraeth Cymru Femoranda Cyd-ddealltwriaeth neu gytundebau dwyochrog cyfatebol gyda nifer o bartneriaid rhanbarthol 

Mae’r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru yn amlinellu sut y dylem adeiladu ar y gweithgarwch a'r rhwydweithiau a sefydlwyd drwy gyfranogiad Cymru mewn amrywiaeth o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC).

Mae cymryd rhan yn Horizon Ewrop yn darparu cyfle pwysig i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gydweithio gyda’r gorau yn y byd, atynnu talent byd-eang a pharhau ag arloesi a gwyddoniaeth arloesol er budd cymdeithas.

Mae Cymru Ystwth yn cefnogi 'hadu' neu hwyluso gweithgarwch sy'n adeiladu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol ac yn cynyddu cydweithredu mewn meysydd sydd â'r potensial i arwain at weithgarwch economaidd mwy cynaliadwy o arwyddocâd i Gymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio diwylliannol a manteision cymdeithasol gweithio ar draws ffiniau.

Y Fenter

Mae'r fenter hon yn annog ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru sydd â'r potensial i gynyddu a chynnal cydweithio â rhanbarthau pwysig yr UE. Canolbwyntir ar weithgarwch a gwariant a hawlir cyn diwedd mis Mawrth 2025.

Bydd cais cryf yn adlewyrchu’r cyd-destun strategol a nodir uchod ac yn:

  • Cefnogi ac adeiladu cysylltiadau strategol â rhanbarthau pwysig yr UE. Gallai hyn olygu cysylltiadau gyda rhanbarthau megis Gwlad y Basg (Euskadi), Baden Württemberg, Llydaw, Fflandrys, a Silesia lle mae cytundebau dwyochrog yn eu lle, neu ranbarthau eraill os fydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn bwysig yng nghyd-destun eich gweithgarwch arfaethedig. 
  • Creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes arwyddocaol ar gyfer economi Cymru. Gallai hyn adlewyrchu’r themâu a nodir mewn cytundebau dwyochrog neu un o strategaethau perthnasol a phenodol Llywodraeth Cymru.
  • Cynnwys sefydliadau neu rwydweithiau pwysig a pherthnasol yn yr UE.
  • Trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru fydd yn cael effaith bositif ar flaenoriaethau polisi Cymru.
  • Adeiladu a datblygu ar y gweithgarwch presennol. 
  • Bod â llwybr clir i ddod â chyllid arall i mewn, neu lwybr arall at weithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy.

Rhaid i bob cais ddangos hyfywedd a gwerth am arian. Byddem yn disgwyl cyfraniad priodol at ganlyniadau ac allbynnau Cymru Ystwyth.

Nid oes trothwyon grant sefydlog, ond yn seiliedig ar brofiad, mae’r canlynol yn ganllaw: 

  • Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a gwasanaeth ymgynghori, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £3,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol. 
  • Ar gyfer prosiectau sy’n fwy strategol, fel ffurfio rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnydd sylweddol o ddeunyddiau ac amser staff, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £15,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol. Byddai disgwyl i brosiectau fodloni’r meini prawf ‘cryf’ a nodir uchod. 

Gall ymgeiswyr gyflwyno prosiectau sy'n sicrhau cydweithio ag un neu fwy o'r rhanbarthau; nid oes angen cyflwyno ceisiadau lluosog.  Budd i Gymru yw sail y fenter ariannu hon, ond nid oes cyfyngiad ar y partneriaid posib sydd am sicrhau'r budd hwnnw. Fodd bynnag, byddai perthynas ag o leiaf un sefydliad neu rwydwaith Ewropeaidd fesul cais yn ddisgwyliedig. 

Gall y fenter hon gefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys lle mae cyfiawnhad dros hynny, ond mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ceisiadau sy’n manteisio ar gyllid arall. 

Mae'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer y fenter hon hyd at £80,000 ond byddwn yn ystyried ymrwymiadau eraill a thanwariant adeg y penderfyniad. 

Costau Cymwys

Oni nodir yn benodol yn yr alwad hon, mae rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth yn berthnasol.

Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch masnachu cyffredinol na marchnata cynnyrch. Os mai allforio yw prif ffocws y gweithgarwch, mae cymorth penodol ar gael gan Lywodraeth Cymru, a allai fod yn fwy addas – Archwilio Allforio Cymru (llyw.cymru).

Gall Cymru Ystwyth gefnogi prosiectau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon os oes potensial gan y gweithgarwch arfaethedig i arwain at fwy o gydweithrediad sydd yn  gynaliadwy ac o arwyddocâd i Gymru. Rydym yn annhebygol o gefnogi perfformiadau neu artistiaid unigol.

Gall y gwariant gynnwys gweithgarwch partneriaid nad ydynt o Gymru, ar yr amod bod y partner yng Nghymru yn ysgwyddo'r costau a hawlir a gellir dangos gwerth am arian. Fodd bynnag, rydym yn eich cynghori i gysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses o ddatblygu eich cais er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio.

Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch na gwariant ar ôl 31 Mawrth 2025..

Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol a diffyg hyblygrwydd, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o gostau cymwys, ond rhaid i gostau fod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo, gweithredu a lledaenu'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, yn wiriadwy a  chael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Edrychwch ar reolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth i gael rhagor o fanylion. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn canolbwyntio ar eitemau gwariant uwch gyda thrywydd tystiolaeth cryf i symleiddio’r broses hawlio. 

Nid yw'r costau yr eir iddynt cyn y dyddiad cymeradwyo yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig. 

Cyflwyno ceisiadau

Rydym yn agored i geisiadau nawr. Os nad yw eich cais yn ‘gryf’ fel y diffinnir hynny uchod, cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno eich cais. Fel arall, cwblhewch y ffurflen gais yma a’i hanfon ar e-bost at Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru: CymruYstwyth@llyw.cymru

Bydd ceisiadau'n cael eu barnu yn unol â nodau'r fenter hon a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gallai’r penderfyniad gynnwys lefel is o grant na’r hyn y gwnaethpwyd cais amdano. Efallai y byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol a chyngor gan gydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol. Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail ‘y cyntaf i'r felin’ ond prin fydd y cyfle i gael eglurhad pellach a gall ceisiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gryf fel y'u diffinnir yn y ddogfen hon gael eu rhoi ar ‘restr wrth gefn’ i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu dull portffolio er mwyn rheoli cydbwysedd risg ac ystod y canlyniadau