Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd ac yn ymrwymo i ‘gysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â’r UE’. Bydd cydweithio â gwledydd a rhanbarthau eraill o gymorth i: 

  • Godi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol 
  • Tyfu economi Cymru 
  • Nodi Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang 

Mae cydweithio yn rhoi cyfle i gyfnewid syniadau, i nodi meysydd arferion gorau, i ymestyn arloesedd a chystadleurwydd ac i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at bartneriaid presennol a phartneriaid y dyfodol yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir a mynd i'r afael â'n heriau cyffredin.

Mae Fframwaith Môr Iwerddon yn llywio ac yn dylanwadu ar gamau gweithredu sydd â'r nod o gynyddu cydweithio ar draws ardal Môr Iwerddon ac o'i hamgylch. Mae'n darparu cyfeiriad strategol yn y tymor byr a llwybr at nodau tymor canolig. Mae'r Fframwaith yn anffurfiol, yn hyblyg a bydd yn esblygu, gan gynorthwyo i gyflawni’r polisïau, strategaethau a rhaglenni perthnasol, gan gynnwys Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, Iwerddon-Cymru: Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd [link] a rhaglenni Interreg 2021-2027, gan gynnwys Peace Plus. 

Ystyrir mai ardal Môr Iwerddon yw’r ardal ddaearyddol a ddiffinnir gan Fôr Iwerddon, y Môr Celtaidd a Sianel y Gogledd. Mae gwledydd a rhanbarthau cyfagos yn dylanwadu ar yr ardal hon hefyd h.y. Cymru, Iwerddon, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gogledd-orllewin Lloegr, De-orllewin Lloegr ac Ynys Manaw. Bydd y ddaearyddiaeth economaidd sydd ohoni a chysylltiadau dwyochrog yn dylanwadu ar y gweithgarwch hefyd. Budd i Gymru yw sail y fenter ariannu hon, ond nid oes cyfyngiad ar y partneriaid posibl sydd am sicrhau'r budd hwnnw.

Mae Fframwaith Môr Iwerddon yn nodi tri maes eang a fydd yn cael blaenoriaeth wrth fynd ati i gydweithio: Economi Las Gynaliadwy, Cryfderau Arloesi a Chymunedau a Diwylliant – gweler y canllaw i’r Fframwaith i gael rhagor o fanylion.

Mae Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol Cymru yn amlygu sut y dylem ddatblygu’r gweithgareddau a’r rhwydweithiau a sefydlwyd drwy gyfranogiad Cymru mewn amrywiaeth o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC).

Mae Horizon Ewrop yn gyfle sylweddol i ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru gydweithio â’r gorau yn y byd, atynnu talent byd-eang a chyflawni gwaith gwyddonol o’r radd flaenaf ac arloesi er budd cymdeithas. 

Mae Cymru Ystwyth yn cefnogi ‘sbarduno’ neu hwyluso gweithgarwch sy’n datblygu partneriaethau trawsffiniol a rhyngwladol ac yn cynyddu cydweithio mewn meysydd sydd â'r potensial i arwain at weithgarwch economaidd mwy, a mwy cynaliadwy sydd o arwyddocâd i Gymru. Mae hefyd yn cydnabod manteision diwylliannol a chymdeithasol gweithio ar draws ffiniau.

Y Fenter

Mae'r fenter hon yn annog ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru sydd â'r potensial i gynyddu a chynnal cydweithio ar draws ardal Môr Iwerddon ac o’i hamgylch. Mae’n canolbwyntio weithgarwch a gwariant a hawlir cyn diwedd mis Mawrth 2025.

Bydd cais cryf yn adlewyrchu’r cyd-destun strategol a nodir uchod ac yn:

  • Cefnogi ac adeiladu cysylltiadau strategol ar draws ardal Môr Iwerddon, gan adlewyrchu nodau Fframwaith Môr Iwerddon.
  • Creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes arwyddocaol ar gyfer economi Cymru. 
  • Mynd i'r afael yn uniongyrchol ag un neu fwy o feysydd blaenoriaeth Fframwaith Môr Iwerddon.
  • Cynnwys sefydliadau neu rwydweithiau pwysig a pherthnasol yn ardal Môr Iwerddon.
  • Trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar flaenoriaethau polisi Cymru.
  • Adeiladu ar y gweithgarwch presennol a’i ddatblygu. 
  • Bod â llwybr clir i ddod â chyllid arall i mewn, neu lwybr arall at weithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy.

Rhaid i bob cais ddangos hyfywedd a gwerth am arian. Byddem hefyd yn disgwyl cyfraniad priodol at allbynnau a chanlyniadau Cymru Ystwyth.

Nid oes trothwyon grant sefydlog, ond yn seiliedig ar brofiad, mae’r canlynol yn ganllaw: 

  • Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a gwasanaeth ymgynghori, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £3,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol. 
  • Ar gyfer prosiectau sy’n fwy strategol, fel ffurfio rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnydd sylweddol o ddeunyddiau ac amser staff, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £20,000 fod yn rhesymol. Yng nghyd-destun y fenter hon, disgwylir i brosiectau strategol gynnwys adeiladu capasiti sylweddol yn y gynghrair o bartneriaid sy’n barod i ymuno yn y gweithgarwch yn un o'r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Fframwaith Môr Iwerddon.

Gall y fenter hon gefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys lle mae cyfiawnhad dros hynny, ond mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethau ceisiadau sy’n manteisio ar gyllid arall. 

Mae'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer y fenter hon hyd at £100,000 ond byddwn yn ystyried ymrwymiadau eraill a thanwariant adeg y penderfyniad. 

Costau Cymwys

Oni nodir yn benodol yn y fenter hon, mae rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth yn berthnasol.

Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch masnachu cyffredinol na marchnata cynnyrch. Os mai allforio yw prif ffocws y gweithgarwch, mae cymorth penodol ar gael gan Lywodraeth Cymru, a allai fod yn fwy addas – Archwilio Allforio Cymru (llyw.cymru).

Gall Cymru Ystwyth gefnogi prosiectau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon os oes potensial gan y gweithgarwch arfaethedig i arwain at fwy o gydweithrediad cynaliadwy sydd o arwyddocâd i Gymru. Rydym yn annhebygol o gefnogi perfformiadau neu artistiaid unigol.

Gall y gwariant gynnwys gweithgarwch partneriaid nad ydynt o Gymru, ar yr amod bod y partner yng Nghymru yn ysgwyddo’r costau a hawlir a’u bod yn cynrychioli gwerth ychwanegol. Fodd bynnag, rydym yn eich cynghori i gysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses o ddatblygu eich cais er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio.

Ni fyddwn yn cefnogi gweithgarwch na gwariant ar ôl 31 Mawrth 2025.

Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol a diffyg hyblygrwydd, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o gostau cymwys, ond rhaid i gostau fod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo, gweithredu a lledaenu'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, yn wiriadwy a chael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd.  Edrychwch ar reolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth i gael rhagor o fanylion. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn canolbwyntio ar eitemau gwariant uwch gyda thrywydd tystiolaeth cryf er mwyn i symleiddio’r broses hawlio. 

Nid yw'r costau yr eir iddynt cyn y dyddiad cymeradwyo yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig. 

Cyflwyno ceisiadau

Rydym yn agored i geisiadau nawr. Os nad yw eich cais yn ‘gryf’ fel y diffinnir hynny uchod, cysylltwch â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno eich cais. Fel arall, cwblhewch y ffurflen gais yma a’i hanfon ar e-bost at Dîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru: CymruYstwyth@llyw.cymru

Bydd ceisiadau'n cael eu barnu yn unol â nodau'r fenter hon a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gallai’r penderfyniad gynnwys lefel is o grant na’r hyn y gwnaethpwyd cais amdano. Efallai y byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol a chyngor gan gydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol. Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail ‘y cyntaf i'r felin’ ond prin fydd y cyfle i gael eglurhad pellach a gall ceisiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gryf fel y'u diffinnir yn y ddogfen hon gael eu rhoi ar y ‘rhestr wrth gefn’ i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu dull portffolio er mwyn rheoli cydbwysedd risg ac ystod y canlyniadau. Bydd hyn yn cynnwys ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau ar draws themâu, daearyddiaeth a sectorau lle y bydd yn cryfhau canlyniadau cyffredinol y fenter hon. Mae’n bosibl y byddwn felly yn rhoi ceisiadau ar y rhestr wrth gefn er mwyn rheoli ystyriaethau portffolio, neu am resymau cyllidol.