Yn ystod hydref 2021, symudodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (TNLCF), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Data Cymru i weithle newydd a rennir ganddynt yng Nghaerdydd.
Roedd angen i'r gweithle adlewyrchu amrywiaeth eu hanghenion, cefnogi gweithio hybrid a bod â’r ôl troed carbon lleiaf posibl.
Arweiniwyd y prosiect gan CGGC a drodd at Fframwaith Dodrefn Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (CMLlC) er mwyn diwallu eu hanghenion. Mae ail-weithgynhyrchu ac ailddefnyddio'n greiddiol i’r fframwaith. Mae’r fframwaith wedi’i gynllunio er mwyn i brynwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru allu dewis dull mwy cynaliadwy o sicrhau dodrefn. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr weithio gyda mentrau cymdeithasol yng Nghymru gan sicrhau bod y buddion economaidd yn aros yng Nghymru.
Dyfarnodd CGGC y contract i gyflenwi a gosod y gofod swyddfa i Ministry of Furniture (MoF) a weithiodd mewn partneriaeth i gyflawni'r prosiect gyda Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful (MTIB). Mae MoF a MTIB yn weithdai cysgodol, lle mae o leiaf 30% o'r gweithlu naill ai ag anabledd cydnabyddedig neu dan anfantais. Penodwyd MoF yn uniongyrchol trwy lot wedi’i neilltuo, gan olygu nad oedd angen unrhyw gystadleuaeth gaffael bellach.
Gofynnwyd i MoF osod gofod swyddfa modern gan ddefnyddio'r stoc dodrefn presennol lle bo hynny'n bosibl ac i wneud y defnydd mwyaf posibl o gwmnïau sy'n atebol yn gymdeithasol yn eu cadwyn gyflenwi yn unol â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Arweiniodd hyn at gyfranogiad MTIB a Greenstream Flooring CIC a gyflenwodd gymysgedd o deils carped newydd a rhai wedi'u hailddefnyddio.
Roedd cam cyntaf y prosiect yn cynnwys briff dylunio, ymgynghori â staff a chynllunio gofod sylfaenol. Dilynwyd hyn gan archwiliad o’r dodrefn a etifeddwyd y gellid eu hailddefnyddio a datgymalu/clirio desgiau, ac yn dechreuodd y prif brosiect.
Er mwyn cefnogi’r ffyrdd hybrid newydd o weithio, creodd MoF bodiau ‘un-i-un’ preifat, bythau cydweithredol gyda chyfleusterau telegynadledda, a mannau gwaith grŵp neu fannau cyfarfod anffurfiol lled-gaeedig. Gwnaed desgiau, loceri a photiau plannu o’r stoc dodrefn blaenorol. Roedd y dodrefn newydd yn cynnwys cadeiriau a gynhyrchwyd o boteli plastig PET wedi'u hailgylchu, a stolion wedi'u gwneud o gywarch a resin oedd 100% o blanhigion.
Mae’r prosiect hwn yn dangos y buddion cymdeithasol a chynaliadwyedd y gellir eu cyflawni pan fydd sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ymarfer caffael moesegol gydag ailweithgynhyrchu wrth wraidd y dyluniad:
- 187 o eitemau o ddodrefn wedi’u harbed o safleoedd tirlenwi/ynni o wastraff
- 95 o ddesgiau wedi'u hailweithgynhyrchu
- 250 o loceri a photiau plannu wedi’u hailweithgynhyrchu
- 481 o ddarnau newydd o ddodrefn wedi'u creu
- 15,861kg o CO2e wedi’i arbed drwy osgoi prynu dodrefn newydd
Dywedodd Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, CGGC:
“Dydy symud swyddfa byth yn broses hawdd ond roeddem am ei wneud mewn modd cydweithredol fel pedwar sefydliad, gan weithio i ddangos sut rydym yn byw nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) tra’n datblygu gofodau ar gyfer y amgylchedd gwaith swyddfa ôl-COVID. Roedd gallu defnyddio fframwaith Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru yn golygu y gallem ni symleiddio’r broses i ni ein hunain a gweithio gyda sefydliadau a oedd yn byw ein gwerthoedd ac yn deall ein nodau. Mae’r canlyniad wedi bod yn ofod swyddfa sydd wedi cael derbyniad gwych, sy’n addas ar gyfer arferion gwaith newydd ac sy’n dod â sefydliadau at ei gilydd i gydweithio.”
Dywedodd Faye Moore, Uwch Reolwr Categori, Caffael Masnachol, Llywodraeth Cymru,
“Pan wnaethom ni osod y fframwaith dodrefn, roedd cefnogi gweithgynhyrchu yng Nghymru a busnesau a gynorthwyir sy’n gweithredu yn y sector hwnnw yn hollbwysig i ni. Rydym yn falch iawn o weld MoF a MTIB yn darparu dodrefn cynaliadwy mor effeithiol ac yn gallu cefnogi hyd yn oed mwy o’n dinasyddion, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais.”
Dangosodd y prosiect sut y gall caffael moesegol gyfrannu at nodau polisi o greu Cymru lewyrchus a chyfartal gan hefyd fod yn gynaliadwy ac yn gymdeithasol gyfrifol a sicrhau gwerth am arian.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: commercialprocurement.buildings@llyw.cymru