Neidio i'r prif gynnwy

Bydd offerynnau cerdd carbon niwtral yn cael eu rhoi i bob disgybl 7 oed yng Nghymru, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru a llwybr prynu arloesol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r Cynllun Cenedlaethol newydd ar gyfer Addysg Cerddoriaeth, bydd y plant yn cael eu hofferyn cerdd pres neu chwythbrennau ‘profiad cyntaf’ eu hunain yn yr ysgol a fydd wedi eu gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Bu Tîm Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD) yn gweithio mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gaffael 53,000 o offerynnau carbon niwtral drwy pMusic Cymru. Mae pMusic Cymru yn gonsortiwm sy'n cynnwys dwy fenter gymdeithasol o Gymru; Elite Solutions a Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful (MITB), y ddau yn gweithio ochr yn ochr â Warwick Music Limited.

Gan weithio gyda CLlLC, sefydlodd tîm WGCD system brynu ddeinamig (DPS) i ddarparu llwybr cydymffurfiol i'r farchnad ar gyfer awdurdodau lleol.  Mae'r DPS yn cynnwys 'categori neilltuol' ar gyfer gweithdai cyflogaeth gwarchodol lle mae o leiaf 30% o weithwyr y gweithdai hynny'n weithwyr anabl neu ddifreintiedig. Mae hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nodau llesiant o gefnogi Cymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal, iachach a chydnerth. Llwyddodd pMusic Cymru i sicrhau lle ar y Cytundeb DPS.  Defnyddiodd CLlLC y cytundeb i ddyfarnu contract gwerth £500k i PMusic Cymru ar gyfer cynhyrchu a chyflenwi offerynnau pBuzz a pCorder, a bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn y ddau weithdy cyflogaeth gwarchodol.

Mae'r dull gweithredu wedi cefnogi economi Cymru, wedi sicrhau y gwerth gorau am arian, ac wedi creu cyfleoedd gwaith i weithwyr sy'n byw gydag anabledd neu sydd dan anfantais.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol:

"Rwy'n falch iawn bod MTIB ac Elite Solutions wedi gallu sicrhau a chreu llawer o swyddi newydd a swyddi presennol yng Nghymru drwy gais llwyddiannus PMusic.

"Mae'r contract hwn yn dangos sut y gallwn ni ddefnyddio cyllid i ychwanegu gwerth cymdeithasol a hyrwyddo cynaliadwyedd. Ar yr un pryd, rydyn ni wedi sicrhau y bydd yr offerynnau hyn yn cael eu cynhyrchu ar raddfa genedlaethol ac mewn ffordd sy'n cynrychioli gwerth am arian."

Dywedodd Steven Greenall, Prif Weithredwr Warwick Music Group, prif bartner yng nghonsortiwm PMusic Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud prosiect arbennig yn bosibl a fydd yn gweld degau o filoedd o blant yng Nghymru yn cael mynediad at offerynnau cerdd arobryn a charbon-niwtral am y tro cyntaf erioed, wedi’u cydosod ym Merthyr Tudful.

"Rydyn ni wedi mwynhau gweithio gyda'n partneriaid sef Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful ac Elite, gan weld cylch positif o fuddsoddiad sydd o fudd i blant Cymru, ysgolion Cymru, economi Cymru a chyflogaeth i bobl ddall, anabl a difreintiedig. Mae astudiaethau ymchwil yn dangos y bydd canlyniadau i blant yn gwella'n sylweddol pan fyddan nhw’n gallu manteisio ar bynciau creadigol o ansawdd uchel. Mae’r prosiect hwn yn lasbrint y mae’r byd addysg cerddoriaeth yn ei wylio gyda diddordeb brwd.”

Dywedodd Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC:

"Rydyn ni’n falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y strategaeth genedlaethol hon i gaffael a chydosod offerynnau yng Nghymru drwy fuddsoddi mewn offerynnau cynaliadwy o ansawdd rhagorol sydd wedi’u gwneud ym Merthyr Tudful. Bydd yr offerynnau'n cael eu darparu i blant mewn ysgolion cynradd ledled Cymru er mwyn helpu i gefnogi amcanion y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd. Bydd yr offerynnau hyn yn galluogi dysgwyr ifanc i brofi llawenydd cerddoriaeth drwy chwarae eu hofferynnau cerdd cyntaf.

"Hoffem ddiolch i holl gonsortiwm PMusic Cymru sydd wedi creu'r offerynnau gwych hyn ar gyfer disgyblion ar draws Cymru tra hefyd yn sicrhau bod llawer o swyddi yn cael eu cefnogi a'u creu yn y broses.”

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru